Cymorth i blannu coed a chreu coetir
Os ydych chi’n newydd i blannu coed, gallwch dderbyn cyngor gan nifer o sefydliadau, gan ein cynnwys ni.
Os hoffech gymorth a chefnogaeth gyda chreu eich coetir, cysylltwch â ni.
Plannu coeden unigol
Gall pob aelwyd yng Nghymru dderbyn coeden am ddim i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Gallwch ymgeisio am goeden am ddim gan Coed Cadw. Os nad oes lle gennych i blannu coeden, gellir plannu coeden ar eich rhan.
Os ydych chi’n plannu coeden unigol yn eich gardd neu ar ddarn arall o dir, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- os ydych chi’n plannu coed yn agos at unrhyw adeiladau, ystyriwch faint y goeden ar ôl iddi dyfu’n llawn
- os mae gwreiddiau a brigau’n lledaenu ymhell, gallant achosi difrod strwythurol
- peidio â thyfu coed mewn potiau gan y byddant yn tyfu’n rhy fawr iddynt ac yn profi straen wrth gael eu symud yn ddiweddarach
Mae gan Coed Cadw gyngor da ar gyfer y coed a’r llwyni Prydeinig gorau ar gyfer gerddi.
Caniatâd i blannu eich coetir
Cyn gallu plannu unrhyw goed, bydd angen i chi sicrhau’r canlynol:
- eich bod yn berchen ar y tir ac wedi cofrestru fel perchennog cyfreithlon neu’n
- meddu ar reolaeth lawn o’r tir
Os nad ydych yn berchen ar y tir, bydd angen caniatâd perchennog cyfreithlon y tir arnoch i blannu eich coed. Gallwch ddod o hyd i berchennog y tir ar wefan y Gofrestrfa Tir.
Mae’n bosibl y bydd angen trwydded amgylcheddol arnoch gennym ni cyn y gallwch ddechrau plannu unrhyw goed.
Plannu ar dir cyhoeddus
Os ydych chi’n dymuno plannu coed ar dir cyhoeddus, cysylltwch â ni am gyngor ac arweiniad.
Grantiau ar gyfer plannu coed a chreu coetiroedd
Mae grantiau ar gael ar gyfer plannu coed a chreu coetir. Gallwch ddefnyddio’r grantiau i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich coetir newydd. Mae’r grantiau ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Gallwch hefyd dderbyn coed a grantiau gan Coed Cadw os ydych chi:
- yn plannu coeden unigol neu ychydig o goed
- yn rhan o grŵp cymunedol
- yn ysgol
- yn ffermwr
Cysylltwch â ni
Os hoffech unrhyw gymorth pellach gyda chreu eich coetir, cysylltwch â ni.