Diwedd gwastraff: gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir gan dreuliad anaerobig gwastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell
1. Diben y canllaw hwn
Mae’r ddogfen hon ar gyfer cynhyrchwyr gweddillion treuliad anaerobig rheoleiddiedig sydd am brosesu eu gwastraff pydradwy a wahanwyd yn y ffynhonnell i fodloni gofynion diwedd gwastraff erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig.
Ei diben yw cynorthwyo cyrff ardystio, gan ddarparu achrediad trydydd parti o dan gynlluniau ardystio Renewable Energy Assurance Limited, wrth gynnal eu hardystiadau.
Bydd y ddogfen hon hefyd yn fuddiol i ddefnyddwyr terfynol gweddillion treuliad anaerobig sy’n deillio o wastraff a allai fod eisiau adolygu prosesau priodol a statws diwedd gwastraff gweddillion treuliad anaerobig y maent yn eu derbyn i’w defnyddio.
Mae’n egluro pryd nad yw gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir gan dreuliad anaerobig gwastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell (biowastraff) yn cael eu hystyried yn wastraff mwyach.
Bydd y ddogfen hon hefyd yn eich helpu i ddeall pryd y mae gweddillion treuliad anaerobig yn troi’n ddiwedd gwastraff (erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff). Mae hyn er mwyn i chi allu:
- bod yn hyderus bod ansawdd y gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir yn addas i’w ddefnyddio at ddiben penodol
- gwarchod iechyd pobl ac atal llygru’r amgylchedd, gan gynnwys pridd
- deall pryd nad yw rheolaethau rheoli gwastraff yn berthnasol mwyach
- bod yn hyderus bod ansawdd y gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir yn bodloni safon gymeradwy
2. Gwastraff y gallwch ei ddefnyddio
Pennod 02 01
Gwastraff o amaethyddiaeth, garddwriaeth, dyframaethu, coedwigaeth, hela a physgota
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 01 01 | Slwtsh o olchi a glanhau | Llysiau, ffrwythau a chnydau eraill yn unig |
| 02 01 02 | Gwastraff meinwe anifeiliaid | Dim |
| 02 01 03 | Gwastraff meinwe planhigion | Yn cynnwys gwellt, gweddillion cnydau eraill, llystyfiant afonol a chyfryngau tyfu wedi’u disbyddu sy’n deillio o broblemau planhigion, megis compost sy’n deillio o wastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell, mawn a rhisgl |
| 02 01 06 | Ysgarthion, troeth a thail anifeiliaid | Yn cynnwys ysgarthion, troeth a thail anifeiliaid, a deunydd sarn sydd wedi’i ddifetha ac yn gwbl bydradwy |
| 02 01 07 | Gwastraff o goedwigaeth | Gwastraff gwyrdd a meinwe planhigion yn unig |
| 02 01 99 | Mathau o wastraff nad ydynt wedi’u nodi fel arall | Compost madarch wedi’i ddefnyddio neu fadarch a waredwyd o amaethu madarch yn fasnachol yn unig |
Pennod 02 02
Gwastraff o baratoi a phrosesu cig, pysgod a bwydydd eraill sy’n dod o anifeiliaid
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 02 01 | Slwtsh o olchi a glanhau, digroeni, allgyrchu a gwahanu, gan gynnwys dyfroedd golchi a slwtsh o brosesu bwyd eilaidd neu’r sector coginio ac oeri | Dim |
| 02 02 02 | Gwastraff meinwe anifeiliaid | Gall gynnwys gwaed a chynnwys perfedd anifeiliaid |
| 02 02 03 | Deunydd anaddas i’w ddefnyddio neu ei brosesu | Gall gynnwys cynnwys perfedd, cregyn a gwastraff pysgod cregyn. Yn cynnwys slwtsh o gynhyrchu gelatin. |
|
02 02 04 |
Slwtsh o drin elifion ar y safle | Gwastraff o baratoi a phrosesu cig, pysgod a bwydydd eraill sy’n dod o anifeiliaid yn unig |
Pennod 02 03
Gwastraff o baratoi a phrosesu ffrwythau, llysiau, grawnfwydydd, olewau bwytadwy, coco, coffi, te a thybaco, cynhyrchu cadwolion, cynhyrchu burum a rhin burum, paratoi ac eplesu triagl
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 03 01 | Slwtsh o olchi, glanhau, digroeni, allgyrchu a gwahanu | Slwtsh o brosesu bwyd yn unig |
| 02 03 04 | Deunyddiau anaddas i’w defnyddio neu eu prosesu | Gwastraff pydradwy yn unig. Ni ddylai unrhyw ychwanegion cemegol neu weddillion gwenwynig fod yn bresennol. |
| 02 03 05 | Slwtsh o drin carthion ar y safle neu brosesu slwtsh o gynhyrchu brasterau ac olewau bwytadwy, gan gynnwys gweddillion sesnin | Dim |
Pennod 02 04
Gwastraff o brosesu siwgr
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 04 03 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Slwtsh biolegol yn unig |
Pennod 02 05
Gwastraff o’r diwydiant cynhyrchion llaeth
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 05 01 | Deunyddiau anaddas i’w defnyddio neu eu prosesu | Yn cynnwys llaeth amrwd. Gwastraff pydradwy yn unig. |
| 02 05 02 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Dim |
Pennod 02 06
Gwastraff o’r diwydiant pobi a melysion
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 06 01 | Deunyddiau anaddas i’w defnyddio neu eu prosesu | Gwastraff pydradwy yn unig |
| 02 06 03 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Dim |
Pennod 02 07
Gwastraff o gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 07 01 | Gwastraff o olchi, glanhau a lleihau deunyddiau crai yn fecanyddol | Gwastraff pydradwy o brosesu’r deunyddiau crai a ddefnyddir wrth gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco) yn unig |
| 02 07 02 | Gwastraff o ddistyllu gwirodydd | Grawn a ddisbyddwyd, hopys a dalennau a llieiniau hidlo wisgi, gweddillion burum a rhai tebyg i furum, slwtsh o’r broses ddistyllu, neu fasgl brag, egin brag, gweddillion burum a rhai tebyg i furum yn unig |
| 02 07 04 | Deunydd anaddas i’w ddefnyddio neu ei brosesu | Gwastraff pydradwy o brosesu’r deunyddiau crai a ddefnyddir wrth gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco) yn unig |
| 02 07 05 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Slwtsh o gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco) yn unig |
Pennod 03 03
Gwastraff o gynhyrchu a phrosesu mwydion, papur a chardfwrdd
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 03 03 10 | Fibre rejects, fibre-, filler- and coating-sludges from mechanical separation | Fe’i caniateir os nad yw wedi’i gymysgu â slwtsh dad-incio, neu os nad yw’n ei gynnwys |
| 03 03 11 | Sludges from on-site effluent treatment other than those mentioned in 03 03 10 | Fe’i caniateir os nad yw wedi’i gymysgu â slwtsh dad-incio, neu os nad yw’n ei gynnwys |
Pennod 04 02
Gwastraff o’r diwydiant tecstiliau
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 04 02 10 | Deunydd organig o gynhyrchion naturiol (er enghraifft, saim a chwyr) | Deunydd pydradwy yn unig |
| 04 02 21 | Gwastraff o ffeibrau tecstiliau heb eu prosesu | Deunydd pydradwy yn unig |
Pennod 07 01
Gwastraff o weithgynhyrchu, creu, cyflenwi a defnyddio cemegau organig sylfaenol
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 07 01 08* | Gwaelodion llonydd a gweddillion adweithiau eraill |
Gwastraff glyserol o weithgynhyrchu biodiesel o olewau llysiau diwastraff yn unig |
(*) gwastraff peryglus
Pennod 15 01
Deunydd pecynnu (gan gynnwys gwastraff pecynnu trefol a gesglir ar wahân)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 15 01 01 | Deunydd pecynnu papur a chardfwrdd |
Dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:
|
| 15 01 03 | Deunydd pecynnu pren | Pren crai yn unig |
|
15 01 05 |
Deunydd pecynnu cyfansawdd |
Dim ond os yw pob elfen yn ateb y gofynion canlynol:
|
Pennod 16 10
Gwastraff hylif dyfrllyd a fwriadwyd ar gyfer triniaeth oddi ar y safle
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 16 10 02 | Gwastraff hylif dyfrllyd ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 16 10 01 |
Yn cynnwys:
Rhaid i hylif neu drwytholch ddod o broses gompostio sy’n ateb y gofynion canlynol:
|
Pennod 19 02
Gwastraff a ddaw o drin gwastraff yn ffisegol-gemegol (gan gynnwys dadgromateiddio, dad-syaniadu, niwtraleiddio)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 02 03 | Gwastraff wedi’i gymysgu ymlaen llaw sy’n cynnwys gwastraff nad yw’n beryglus yn unig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 02 06 | Slwtsh o driniaeth ffisegol-gemegol, ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 19 02 05 |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 02 10 | Glyserol nad yw wedi’i ddynodi’n beryglus |
Ac eithrio 19 02 08 |
Pennod 19 05
Gwastraff o drin gwastraff solet yn aerobig
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 05 01 | Cyfran o wastraff trefol a gwastraff tebyg nad yw wedi’i gompostio |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 05 02 | Cyfran o wastraff anifeiliaid a llysiau nad yw wedi’i gompostio |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 05 03 | Compost nad yw’n cyd-fynd â’r manyleb |
Rhaid i’r compost fod wedi dod o’r mathau o fewnbwn a ganiateir gan y canllawiau hyn, neu’r canllawiau ar gyfer gweddillion treuliad anaerobig yn unig. Mae hyn yn cynnwys y deunydd gorfaint a ddaw o sgrinio’r compost. Rhaid iddo fod wedi’i wneud o sypiau sydd wedi’u diheintio yn flaenorol. |
Pennod 19 06
Gwastraff o drin gwastraff yn anaerobig
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 06 03 | Hylif o drin gwastraff trefol yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
Ni ddylai gynnwys gwastraff sy’n dod o gyfleusterau triniaeth fiolegol fecanyddol |
| 19 06 04 | Gweddillion treuliad anaerobig o drin gwastraff trefol yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 06 05 | Hylif o drin gwastraff anifeiliaid a llysiau yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
Ni ddylai gynnwys gwastraff sy’n dod o gyfleusterau triniaeth fiolegol fecanyddol |
| 19 06 06 | Gweddillion treuliad anaerobig o drin gwastraff anifeiliaid a llysiau yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
Pennod 19 08
Gwastraff o weithfeydd trin dŵr gwastraff nad ydynt wedi’u nodi fel arall
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 08 09 | Cymysgedd saim ac olew o wahanu olew a dŵr sy’n cynnwys olewau a brasterau bwytadwy yn unig | Dim |
| 19 08 12 | Slwtsh o drin dŵr gwastraff diwydiannol yn fiolegol (o broses sy’n trin y gwastraff a nodwyd yn y canllawiau hyn) |
Dylai ddod o broses sy’n trin y gwastraff a nodwyd yn y canllaw hwn yn unig |
Pennod 19 12
Gwastraff o drin gwastraff yn fecanyddol (er enghraifft didoli, malu, cywasgu, peledu) nad yw wedi’i nodi fel arall
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 12 12 | Deunyddiau gwastraff eraill (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddol, ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 19 12 11 |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
Pennod 20 01
Darnau a gasglwyd ar wahân (ac eithrio 15 01)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 20 01 01 | Papur a chardfwrdd | Rhaid iddo fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon. Ni ddylai gynnwys unrhyw gaen neu gadwolyn nad yw’n bydradwy. |
| 20 01 08 | Gwastraff cegin a ffreutur pydradwy |
Rhaid iddo fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
| 20 01 25 | Olew a braster bwytadwy |
Dim |
Pennod 20 02
Gwastraff gardd a pharciau (gan gynnwys gwastraff mynwentydd)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 20 02 01 | Gwastraff pydradwy |
Rhaid i hwn fod yn ddeunydd pydradwy megis y deunyddiau canlynol:
Ni ddylai gynnwys y deunyddiau canlynol:
|
Pennod 20 03
Mathau eraill o wastraff trefol
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 20 03 01 | Gwastraff trefol cymysg | Rhaid iddo fod yn wastraff pydradwy a gesglir ar wahân o’r mathau a ganiateir yn y canllawiau hyn. Rhaid i unrhyw ddeunydd pecynnu bwyd fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon. |
| 20 03 02 | Gwastraff o farchnadoedd | Rhaid iddo fod yn wastraff pydradwy a gesglir ar wahân o’r mathau a ganiateir yn y canllawiau hyn, megis deunydd planhigion, ffrwythau a llysiau. Rhaid i unrhyw ddeunydd pecynnu bwyd fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon. |
Nodyn 1
Dim ond deunydd pecynnu y gellir ei gompostio’n ddiwydiannol, ac eitemau nad ydynt yn ddeunyddiau pecynnu sydd wedi’u hardystio’n annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio ag o leiaf un o’r canlynol, y gallwch eu defnyddio:
- EN 13432
- EN 14995
- ASTM D6400
Dim ond deunydd pecynnu y gellir ei gompostio gartref, ac eitemau nad ydynt yn ddeunyddiau pecynnu sydd wedi’u hardystio’n annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio ag o leiaf un o’r canlynol, y gallwch eu defnyddio:
- EN 17427
- AS 5810-2010
- NF T51-800
- Gofynion ardystio TÜV Awstria ar gyfer deunydd pecynnu y gellir ei gompostio gartref o dan eu cynllun ‘OK compost HOME’
3. Diwedd gwastraff
Bydd y gweddillion treuliad anaerobig wedi bodloni’r prawf diwedd gwastraff, ac ni fydd yn cael ei ystyried yn wastraff os bodlonir yr holl amodau canlynol:
- Fe’i cynhyrchwyd gan ddefnyddio’r gwastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell a restrir uchod yn unig
- Rhaid i’r gwastraff fod wedi’i storio a’i brosesu yn unol â PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig, ynghyd â’r safon ansawdd ychwanegol:
- Y crynodiad uchaf o blastig a ganiateir yn y gweddillion treuliad anaerobig, a chynhyrchion eraill sy’n deillio ohono, yw 8% o’r terfynau ‘cyfanswm halogion ffisegol (ac eithrio cerrig)’ a nodir yn Nhabl 1 PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig
- Bod ardystiad wedi’i roi sy’n sicrhau cydymffurfedd â PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig (fel y nodir yn adran 6)
- Nid oes angen ei drin ymhellach, ac eithrio’r dulliau a ddisgrifir yn PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig cyn y defnydd bwriadedig
- Mae’n bodloni unrhyw fanyleb ychwanegol y gofynnwyd amdani gan eich cwsmer, ac y cytunwyd arni
- Mae sicrwydd defnydd ar gyfer y deunydd (gweler adrannau 3 a 4)
- Cedwir cofnodion, yn unol ag adran 5, i ddangos sut y caiff y gofynion diwedd gwastraff eu bodloni ar gyfer ansawdd a maint y gweddillion treuliad anaerobig a gynhyrchir, gan gynnwys sicrwydd defnydd a gofynion o ran cynllun rheoli maethynnau
Mae gweddillion treuliad anaerobig ardystiedig a gedwir mewn storfa, heb unrhyw ddefnydd penodol wedi’i gadarnhau ar gyfer yr ansawdd a’r maint a gedwir, yn awgrymu nad oes unrhyw ddiben penodol i’r gweddillion ac nad oes galw am y deunydd hwn. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd y deunydd yn cael ei ystyried yn wastraff. Golyga hyn y bydd rhaid i chi ddilyn rheolaethau rheoli gwastraff.
4. Defnyddio gweddillion treuliad anaerobig
Rhaid i’r defnydd o’r gweddillion treuliad anaerobig gydymffurfio â gofynion y canllawiau hyn, ynghyd â deddfwriaeth berthnasol a chytundebau rheoli tir. Gall y ddeddfwriaeth berthnasol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
- Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol
- Codau ymarfer amaethyddol da
- Diogelu dŵr daear – GOV.UK
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig
- Asesu effaith amgylcheddol yn y maes amaethyddol | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Gall methu â gwneud hyn, neu fethu â chydymffurfio â rheolaethau rheoli gwastraff pan na allwch ddangos cydymffurfedd â meini prawf diwedd gwastraff, fod yn drosedd.
5. Cynlluniau rheoli maethynnau
Dylid ond defnyddio gweddillion treuliad anaerobig er mwyn cyflenwi’r maethynnau gofynnol i ddiwallu anghenion y cnydau neu i sicrhau budd amaethyddol, a hynny ar y gyfradd, yr amser a’r amlder priodol ac yn y lle priodol.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu i gwsmeriaid, wrth gyflenwi gweddillion treuliad anaerobig i’r diwydiant amaeth, rhaid i’ch dogfennaeth cyflenwi gweddillion treuliad anaerobig hysbysu’r cwsmer o’r canlynol:
- Bod rhaid i’r cwsmer feddu ar gynllun rheoli maethynnau ysgrifenedig, sy’n cynnwys yr holl faethynnau o bob ffynhonnell cyn eu defnyddio
- Rhaid iddynt ddefnyddio gweddillion treuliad anaerobig yn unol â’r cynllun rheoli maethynnau, gan ystyried unrhyw fath arall o dail organig a gwrteithiau wedi’u gweithgynhyrchu, ar gyfraddau nad ydynt yn uwch na’r angen o ran pridd a chnydau
- Y cwsmer sy’n gyfrifol am ddilyn eu cynllun rheoli maethynnau
- Lle nad oes angen gweddillion treuliad anaerobig ar bridd na chnydau, fe’i hystyrir yn wastraff, a rhaid iddynt ddilyn rheolaethau rheoli gwastraff
Os na wnewch chi hyn, gallai Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau yn unol â’i bolisi gorfodi a sancsiynau.
6. Cadw cofnodion
Cofnodwch y gwastraff sy’n dod i mewn. Mae angen i’ch cofnodion gynnwys y canlynol:
- Y cod gwastraff a disgrifiad o’r gwastraff, yn unol â’ch trwydded amgylcheddol neu esemptiad
- Ei gyfaint neu ei bwysau
- Ffynhonnell y gwastraff
- Y dyddiad dosbarthu
- Enw a chyfeiriad y cyflenwr
- Enw a chyfeiriad y cludwr
- Eich dull o gadarnhau bod mewnbwn y gwastraff o ddeunydd derbyniol ac, os nad yw’n dderbyniol (gan gynnwys yn rhannol yn unig), eich rhesymau dros wrthod, a’r hyn a wnaethoch â’r gwastraff a wrthodwyd
Cofnodwch y cynnyrch sy’n mynd allan. Cadwch gopïau o ddogfennaeth cyflenwi cwsmeriaid (am bedair blynedd fel y nodir yn adran 6), gan gynnwys manylion am rwymedigaethau cwsmeriaid ar gyfer defnydd a gofynion y cynllun rheoli maethynnau (lle bo’n briodol), fel y nodir yn adran 4.
Cofiwch gynnwys datganiad yn eich dogfennaeth cyflenwi cwsmeriaid sy’n nodi bod y cynnyrch terfynol yn bodloni’r canlynol:
- PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig
- Gofynion y meini prawf diwedd gwastraff yn y ddogfen hon
- Unrhyw fanylebau cwsmer ychwanegol (fel y cytunwyd arnynt rhwng y cyflenwr a’r cwsmer)
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl gofnodion ar gael i’w harchwilio pan ofynnir amdanynt.
7. Ardystiad
Rhaid i chi ddangos eich bod yn cydymffurfio â gofynion y ddogfen hon, gan gynnwys holl amodau PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig. Rhaid i chi brofi hyn i gorff ardystio sydd:
- wedi’i benodi gan y Cynllun Ardystio Biowrtaith
- yn gweithredu yn unol â rheolau’r cynllun y cytunwyd arnynt gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
- wedi’i achredu, neu’n gallu dangos ei fod yn gweithio tuag at achrediad 17065:2012 y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (neu achrediad diweddarach cyfwerth) gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS), a gynhelir yn flynyddol
Fel rhan o’r broses ardystio, rhaid i chi wneud y canlynol:
- Cadw cofnodion am o leiaf bedair blynedd, gan ddilyn y canllawiau yn adran 5
- Sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i’r corff ardystio at ddibenion ardystio
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno ar reolau’r cynllun os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Mae’r dull ardystio yn dangos bod gofynion y meini prawf diwedd gwastraff hyn a PAS 110 y Sefydliad Safonau Prydeinig yn cael eu bodloni
- Caiff cydymffurfedd ei hardystio’n flynyddol gan gorff ardystio annibynnol sydd wedi’i achredu, fel y manylir uchod
- Mae’r corff ardystio achrededig wedi’i achredu i ardystio gweddillion treuliad anaerobig
- Mae’r ardystiad yn gwirio dogfennaeth y ffynhonnell, tystiolaeth o weithdrefnau rheoli safle (gan gynnwys cydymffurfio â’r system rheoli ansawdd) a chanlyniadau profion labordy
- Mae’r corff ardystio neu ei gontractwr awdurdodedig yn cynnal o leiaf un archwiliad safle yn flynyddol i wirio a chadarnhau dogfennaeth ar y safle
- Mae pwyllgor diduedd yn goruchwylio’r broses ardystio
8. Tail a slyri
Mae tail a slyri da byw a gaiff ei drin trwy dreuliad anaerobig yn driniaeth gwastraff, a bydd yn ddarostyngedig i reoliadau gwastraff, gan gynnwys yr angen am drwydded amgylcheddol neu esemptiad o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw gweddillion treuliad anaerobig tail a slyri da byw sydd wedi’u trin yn wastraff heb ardystiad PAS110:2014 pan fydd deunydd crai y treuliad anaerobig awdurdodedig yn dail a slyri da byw yn unig (EWC 02 01 06), neu wedi’i gymysgu â deunydd crai nad yw’n wastraff yn unig, e.e. cnydau a dyfir yn benodol ar gyfer treuliad anaerobig, ar yr amod:
- eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion eraill yn adran 2 o’r canllaw hwn ar gyfer sicrwydd defnydd a chadw cofnodion (y ddau bwynt bwled olaf a restrir yn adran 2)
- defnyddir y gweddillion treuliad anaerobig ar dir amaethyddol
- gallwch ddangos a darparu tystiolaeth na fydd defnyddio’r gweddillion treuliad anaerobig yn peri risg o achosi niwed amgylcheddol (adrannau 3 a 4 o’r canllaw hwn)
Os caiff y tail a slyri da byw ei gymysgu â gwastraff o ddeunyddiau crai eraill, e.e. porthiant anifeiliaid a gwastraff gwyrdd, gan gynnwys unrhyw gnydau nad ydynt yn cael eu tyfu’n benodol ar gyfer treuliad anaerobig, megis llysiau wedi’u gwaredu a silwair dros ben, bydd y gweddillion treuliad anaerobig canlyniadol yn cael eu rheoleiddio fel gwastraff, oni bai ei fod yn bodloni’r holl feini prawf diwedd gwastraff a nodir yn y ddogfen hon, gan gynnwys y gofyniad am ardystiad, yn unol ag adran 6.
Mae gweddillion treuliad anaerobig sy’n deillio o drin tail a slyri da byw a gedwir mewn storfa, heb unrhyw ddefnydd penodol wedi’i gadarnhau ar gyfer yr ansawdd a’r maint a gedwir, yn awgrymu nad oes unrhyw ddiben penodol i’r gweddillion ac nad oes galw am y deunydd hwn. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd y deunydd yn cael ei ystyried yn wastraff. Golyga hyn y bydd rhaid i chi ddilyn rheolaethau rheoli gwastraff.
Yn ystod achosion o glefyd anifeiliaid, ni fydd adran 7 o’r canllawiau hyn yn berthnasol a bydd angen dilyn rheolaethau penodol, yn unol â chyngor yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac unrhyw ddatganiadau rheoleiddio penodol sy’n ymwneud ag achosion o glefydau anifeiliaid a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
9. Colli statws diwastraff
Bydd gweddillion treuliad anaerobig sy’n bodloni’r meini prawf diwedd gwastraff hyn yn dod yn wastraff eto (sy’n golygu y bydd rhaid i chi ddilyn rheolaethau rheoli gwastraff) os, ar unrhyw adeg:
- caiff ei fwrw o’r neilltu
- mae’r deiliad yn bwriadu ei waredu neu y mae’n ofynnol iddo ei waredu
- caiff ei ddefnyddio y tu hwnt i ofynion y pridd a’r cnydau
- caiff ei storio am gyfnod amhenodol ac mae’n annhebygol o gael ei ddefnyddio
Mae’r uchod yn berthnasol i unrhyw un sy’n storio gweddillion treuliad anaerobig, nid cynhyrchwyr yn unig.
10. Cymysgu gwastraff a deunyddiau diwastraff
Os caiff gweddillion treuliad anaerobig sy’n bodloni’r meini prawf diwedd gwastraff eu cymysgu â deunydd gwastraff, caiff y cyfaint cymysg cyfan ei ystyried yn wastraff a rhaid dilyn rheolaethau rheoli gwastraff.
Os caiff gweddillion treuliad anaerobig sy’n bodloni’r meini prawf diwedd gwastraff eu cymysgu â deunydd diwastraff eraill, ni chaiff y cyfaint cymysg cyfan ei ystyried yn wastraff. Nid yw gwneud hyn yn cael ei ystyried yn driniaeth bellach. Er enghraifft, nid yw cymysgu compost sydd wedi bodloni meini prawf diwedd gwastraff ar gyfer compost â gweddillion treuliad anaerobig sydd wedi bodloni meini prawf diwedd gwastraff yn weithgaredd gwastraff, gan nad yw’r naill ddeunydd na’r llall yn wastraff.
11. Safonau a manylebau
PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig
PAS110:2014 y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer Cynhyrchu Gweddillion Treuliad Anaerobig o Ansawdd Uchel (BSI PAS110). Gallwch lawrlwytho copïau am ddim o PAS110 y Sefydliad Safonau Prydeinig o:
Cynllun cyrchu cyfrifol
Os ydych chi’n cyflenwi gweddillion treuliad anaerobig fel cynhwysyn cyfrwng sy’n tyfu ar gyfer y sector garddwriaeth, dylech ond ei gyflenwi i aelod achrededig o’r cynllun cyrchu cyfrifol.
Rhaid i chi gytuno ar fanyleb ansawdd y deunydd gweddillion treuliad anaerobig yn ysgrifenedig gyda phob aelod o’r cynllun cyrchu cyfrifol rydych chi’n ei gyflenwi. Rhaid i’r manyleb ansawdd gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) halogion ffisegol a therfynau sefydlogrwydd neu aeddfedrwydd.
12. Adolygu a chydymffurfedd
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r canllawiau hyn yn ôl yr angen, a gall eu tynnu’n ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg os ystyrir bod angen gwneud hynny (er enghraifft, os oes tystiolaeth bod y canllawiau yn cael eu camddefnyddio, os oes digwyddiadau llygredd sy’n gysylltiedig â deunyddiau a hawliwyd o dan y canllawiau hyn, os oes newid mewn deddfwriaeth neu dystiolaeth wyddonol ac ati).
Os na chaiff y gweithdrefnau a amlinellir yn y ddogfen hon eu dilyn i ddangos diwedd gwastraff ar gyfer gweddillion treuliad anaerobig, gall Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau yn unol â’i bolisi gorfodi a sancsiynau.