Diwedd gwastraff: compost a gynhyrchir o wastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell
1. Diben y canllawiau hyn
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer cynhyrchwyr sydd am brosesu eu gwastraff pydradwy a wahanwyd yn y ffynhonnell i fodloni gofynion diwedd gwastraff erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig.
Eu diben yw cynorthwyo cyrff ardystio, gan ddarparu achrediad trydydd parti o dan gynlluniau ardystio Renewable Energy Assurance Limited, wrth gynnal eu hardystiadau.
Byddant hefyd yn fuddiol i ddefnyddwyr terfynol compostau sy’n deillio o wastraff a allai fod eisiau adolygu prosesau priodol a statws diwedd gwastraff compost y maent yn ei dderbyn i’w defnyddio.
Maent yn egluro pryd nad yw compost a gynhyrchir o wastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell (biowastraff) yn cael ei ystyried yn wastraff mwyach.
Byddant yn eich helpu i ddeall pryd y mae compost yn troi’n ddiwedd gwastraff (erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff) fel y gallwch:
- fod yn hyderus bod ansawdd y compost a gynhyrchir yn addas i’w ddefnyddio, at ddiben penodol
- gwarchod iechyd pobl ac atal llygru’r amgylchedd, gan gynnwys pridd
- deall pryd nad yw rheolaethau rheoli gwastraff yn berthnasol mwyach
- bod yn hyderus bod ansawdd y compost a gynhyrchir yn bodloni safon gymeradwy
2. Gwastraff y gallwch ei ddefnyddio
Rhaid i chi:
- ddefnyddio deunyddiau pydradwy sydd wedi’u gwahanu yn y ffynhonnell yn unig, fel y’u diffinnir ym manyleb PAS 100:2018 y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer deunyddiau wedi’u compostio (BSI PAS100)
a
- rhaid i’r deunyddiau yr ydych chi’n eu defnyddio gydymffurfio â’r codau gwastraff, y disgrifiadau a’r cyfyngiadau yn y tablau isod
Pennod 02 01
Gwastraff o amaethyddiaeth, garddwriaeth, dyframaethu, coedwigaeth, hela a physgota
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 01 01 | Slwtsh o olchi a glanhau | Llysiau, ffrwythau a chnydau eraill yn unig |
| 02 01 02 | Gwastraff meinwe anifeiliaid | Dim |
| 02 01 03 | Gwastraff meinwe planhigion | Yn cynnwys gwellt, gweddillion cnydau eraill, llystyfiant afonol a chyfryngau tyfu wedi’u disbyddu sy’n deillio o broblemau planhigion, megis compost sy’n deillio o wastraff pydradwy wedi’i wahanu yn y ffynhonnell, mawn a rhisgl |
| 02 01 06 | Ysgarthion, troeth a thail anifeiliaid | Yn cynnwys ysgarthion, troeth a thail anifeiliaid, a deunydd sarn sydd wedi’i ddifetha ac yn gwbl bydradwy |
| 02 01 07 | Gwastraff o goedwigaeth | Gwastraff gwyrdd a meinwe planhigion yn unig |
| 02 01 99 | Gwastraff nad ydynt wedi’u nodi fel arall | Compost madarch wedi’i ddefnyddio neu fadarch a waredwyd o amaethu madarch yn fasnachol yn unig |
Pennod 02 02
Gwastraff o baratoi a phrosesu cig, pysgod a bwydydd eraill sy’n dod o anifeiliaid
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 02 01 | Slwtsh o olchi a glanhau, digroeni, allgyrchu a gwahanu, gan gynnwys dyfroedd golchi a slwtsh o brosesu bwyd eilaidd neu’r sector coginio ac oeri | Dim |
| 02 02 02 | Gwastraff meinwe anifeiliaid | Gall gynnwys gwaed a chynnwys perfedd anifeiliaid |
| 02 02 03 | Deunydd anaddas i’w ddefnyddio neu ei brosesu | Gall gynnwys cynnwys perfedd, cregyn a gwastraff pysgod cregyn. Yn cynnwys slwtsh o gynhyrchu gelatin. |
|
02 02 04 |
Slwtsh o drin elifion ar y safle | Gwastraff o baratoi a phrosesu cig, pysgod a bwydydd eraill sy’n dod o anifeiliaid yn unig |
Pennod 02 03
Gwastraff o baratoi a phrosesu ffrwythau, llysiau, grawnfwydydd, olewau bwytadwy, coco, coffi, te a thybaco, cynhyrchu cadwolion, cynhyrchu burum a rhin burum, paratoi ac eplesu triagl
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 03 01 | Slwtsh o olchi, glanhau, digroeni, allgyrchu a gwahanu | Slwtsh o brosesu bwyd yn unig |
| 02 03 04 | Deunyddiau anaddas i’w defnyddio neu eu prosesu | Gwastraff pydradwy yn unig. Ni ddylai unrhyw ychwanegion cemegol neu weddillion gwenwynig fod yn bresennol. |
| 02 03 05 | Slwtsh o drin carthion ar y safle neu brosesu slwtsh o gynhyrchu brasterau ac olewau bwytadwy, gan gynnwys gweddillion sesnin | Dim |
Pennod 02 05
Gwastraff o’r diwydiant cynhyrchion llaeth
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 05 01 | Deunyddiau anaddas i’w defnyddio neu eu prosesu | Yn cynnwys llaeth amrwd. Gwastraff pydradwy yn unig. |
| 02 05 02 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Dim |
Pennod 02 06
Gwastraff o’r diwydiant pobi a melysion
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 06 01 | Deunyddiau anaddas i’w defnyddio neu eu prosesu | Gwastraff pydradwy yn unig |
| 02 06 03 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Dim |
Pennod 02 07
Gwastraff o gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 02 07 01 | Gwastraff o olchi, glanhau a lleihau deunyddiau crai yn fecanyddol | Gwastraff pydradwy o brosesu’r deunyddiau crai a ddefnyddir wrth gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco) yn unig |
| 02 07 02 | Gwastraff o ddistyllu gwirodydd | Grawn a ddisbyddwyd, hopys a dalennau a llieiniau hidlo wisgi, gweddillion burum a rhai tebyg i furum, slwtsh o’r broses ddistyllu, neu fasgl brag, egin brag, gweddillion burum a rhai tebyg i furum yn unig |
| 02 07 04 | Deunydd anaddas i’w ddefnyddio neu ei brosesu | Gwastraff pydradwy o brosesu’r deunyddiau crai a ddefnyddir wrth gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco) yn unig |
| 02 07 05 | Slwtsh o drin elifion ar y safle | Slwtsh o gynhyrchu diodydd alcoholaidd a di-alcohol (ac eithrio coffi, te a choco) yn unig |
Pennod 03 01
Gwastraff o brosesu pren a chynhyrchu paneli a dodrefn, mwydion, papur a chardfwrdd
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 03 01 01 | Rhisgl gwastraff a chorc | Pren crai yn unig |
| 03 01 05 | Blawd llif, naddion, toriadau, pren a bwrdd gronynnau yn unig, ac eithrio’r rhai a nodir yn 03 01 04 | Pren crai yn unig |
Pennod 03 03
Gwastraff o gynhyrchu a phrosesu mwydion, papur a chardfwrdd
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 03 03 01 | Pren gwastraff a rhisgl | Pren crai yn unig |
| 03 03 10 | Ffeibr a wrthodwyd, slwtsh ffeibr, a slwtsh o lenwyr a chaenwyr o waith gwahanu mecanyddol | Fe’i caniateir os nad yw wedi’i gymysgu â slwtsh dad-incio, neu os nad yw’n ei gynnwys |
| 03 03 11 | Slwtsh o drin elifion ar y safle, ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 03 03 10 | Fe’i caniateir os nad yw wedi’i gymysgu â slwtsh dad-incio, neu os nad yw’n ei gynnwys |
Pennod 04 02
Gwastraff o’r diwydiant tecstiliau
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 04 02 10 | Deunydd organig o gynhyrchion naturiol (er enghraifft, saim a chwyr) | Deunydd pydradwy yn unig |
| 04 02 21 | Gwastraff o ffeibrau tecstiliau heb eu prosesu | Deunydd pydradwy yn unig |
Pennod 07 02
Gwastraff o weithgynhyrchu, creu, cyflenwi a defnyddio plastigau, rwber synthetig a ffeibrau artiffisial
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 07 02 13 | Plastig gwastraff |
Dim ond cynnyrch dros ben nas defnyddiwyd ac nad yw wedi ei halogi sy’n bodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
Pennod 15
Deunydd gwastraff o becynnu, cynnyrch amsugnol, deunyddiau hidlo, llieiniau sychu a dillad diogelwch
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 15 01 01 | Deunydd pecynnu papur a chardfwrdd |
Dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:
Nid oes unrhyw orchudd na sylwedd cadw nad yw’n bydradwy yn bresennol |
| 15 01 02 | Deunydd pecynnu plastig | Rhaid bodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
| 15 01 03 | Deunydd pecynnu pren | Pren crai yn unig |
|
15 01 05 |
Deunydd pecynnu cyfansawdd |
Dim ond os yw pob cydran yn ateb y gofynion canlynol:
Mae’n bodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
|
15 01 09 |
Deunydd pecynnu tecstil | Ffeibrau naturiol yn unig |
|
15 02 03 |
Deunyddiau amsugnol, deunyddiau hidlo neu lieiniau o waith cynhyrchu diodydd alcoholaidd a dialcohol heblaw’r rhai a grybwyllir yn 15 02 02 | Dalennau a llieiniau hidlo hopys a wisgi wedi’u gwneud o ddeunydd pydradwy yn unig |
Pennod 16
Gwastraff nad ydynt wedi’u rhestru
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 16 03 06 | Gwastraff organig, ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 16 03 05 | Cnu gwlân heb ei drin yn unig (ac eithrio crwyn) |
| 16 10 02 | Gwastraff hylif dyfrllyd ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 16 10 01 |
Yn cynnwys:
Rhaid i weddillion treuliad anaerobig neu hylif ddod o broses aerobig sy’n ateb y gofynion canlynol:
Rhaid i hylif neu drwytholch ddod o broses gompostio sy’n ateb y gofynion canlynol:
|
Pennod 17 05
Pridd (gan gynnwys pridd wedi’i gloddio o safleoedd halogedig), cerrig a sborion carthu
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 17 05 06 | Sborion carthu ac eithrio’r hyn a nodir yn 17 05 05 |
Dim ond y canlynol:
|
Pennod 19 02
Gwastraff a ddaw o drin gwastraff yn ffisegol-gemegol
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 02 03 | Gwastraff wedi’i gymysgu ymlaen llaw sy’n cynnwys gwastraff nad yw’n beryglus yn unig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 02 06 | Slwtsh o driniaeth ffisegol-gemegol, ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 19 02 05 |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
Mae’n cael ei wahanu oddi wrth unrhyw fath arall o wastraff, a heb ei halogi |
Pennod 19 05
Gwastraff o drin gwastraff solet yn aerobig
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 05 01 | Cyfran o wastraff trefol a gwastraff tebyg nad yw wedi’i gompostio |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 05 02 | Cyfran o wastraff anifeiliaid a llysiau nad yw wedi’i gompostio |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 05 03 | Compost nad yw’n cyd-fynd â’r manyleb |
Rhaid i’r compost fod wedi dod o’r mathau o fewnbwn a ganiateir gan y canllawiau hyn, neu’r canllawiau ar gyfer gweddillion treuliad anaerobig yn unig. Mae hyn yn cynnwys y deunydd gorfaint a ddaw o sgrinio’r compost. Rhaid iddo fod wedi’i wneud o sypiau sydd wedi’u diheintio yn flaenorol. |
Pennod 19 06
Gwastraff o drin gwastraff solet yn aerobig
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 06 03 | Hylif o drin gwastraff trefol yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 06 04 | Gweddillion treuliad anaerobig o drin gwastraff trefol yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 06 05 | Hylif o drin gwastraff anifeiliaid a llysiau yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
| 19 06 06 | Gweddillion treuliad anaerobig o drin gwastraff anifeiliaid a llysiau yn anaerobig |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
Ni ddylai gynnwys gwastraff sy’n dod o gyfleusterau triniaeth fiolegol fecanyddol |
Pennod 19 12
Gwastraff o drin gwastraff yn fecanyddol nad yw wedi’i nodi fel arall
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 19 12 01 | Papur a chardfwrdd (ac eithrio argaenau a chaenau plastig) | Rhaid bodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
| 19 12 12 | Deunyddiau gwastraff eraill (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddol, ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn 19 12 11 |
Rhaid i’r gwastraff fodloni’r gofynion canlynol:
|
Pennod 20 01
Gwastraff trefol (gwastraff cartrefi a gwastraff masnachol, diwydiannol a sefydliadol tebyg) gan gynnwys darnau a gesglir ar wahân
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 20 01 01 | Papur a chardfwrdd | Rhaid iddo fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon. Ni ddylai gynnwys unrhyw gaen neu gadwolyn nad yw’n bydradwy. |
| 20 01 08 | Gwastraff cegin a ffreutur pydradwy |
Rhaid iddo fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
| 20 01 25 | Olew a braster bwytadwy |
Dim |
| 20 01 39 | Plastigau |
Rhaid iddo fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff cyfatebol yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon |
Pennod 20 02
Gwastraff gardd a pharciau (gan gynnwys gwastraff mynwentydd)
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 20 02 01 | Gwastraff pydradwy |
Rhaid i hwn fod yn ddeunydd pydradwy megis y deunyddiau canlynol:
Ni ddylai gynnwys y deunyddiau canlynol:
|
Pennod 20 03
Mathau eraill o wastraff trefol
| Cod gwastraff | Disgrifiad | Cyfyngiadau |
|---|---|---|
| 20 03 01 | Gwastraff trefol cymysg | Rhaid iddo fod yn wastraff pydradwy a gesglir ar wahân o’r mathau a ganiateir yn y canllawiau hyn. Rhaid i unrhyw ddeunydd pecynnu bwyd fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon. |
| 20 03 02 | Gwastraff o farchnadoedd | Rhaid iddo fod yn wastraff pydradwy a gesglir ar wahân o’r mathau a ganiateir yn y canllawiau hyn, megis deunydd planhigion, ffrwythau a llysiau. Rhaid i unrhyw ddeunydd pecynnu bwyd fodloni’r cyfyngiad ar gyfer y math o wastraff yn Nodyn 1 ar ddiwedd yr adran hon. |
Nodyn 1
Dim ond deunydd pecynnu y gellir ei gompostio’n ddiwydiannol, ac eitemau nad ydynt yn ddeunyddiau pecynnu sydd wedi’u hardystio’n annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio ag o leiaf un o’r canlynol, y gallwch eu defnyddio:
- EN 13432
- EN 14995
- ASTM D6400
Dim ond deunydd pecynnu y gellir ei gompostio gartref, ac eitemau nad ydynt yn ddeunyddiau pecynnu sydd wedi’u hardystio’n annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio ag o leiaf un o’r canlynol, y gallwch eu defnyddio:
- EN 17427
- AS 5810-2010
- NF T51-800
- Gofynion ardystio TÜV Awstria ar gyfer deunydd pecynnu y gellir ei gompostio gartref o dan eu cynllun ‘OK compost HOME’
3. Diwedd gwastraff
Bydd y compost wedi bodloni’r prawf diwedd gwastraff, ac ni fydd yn cael ei ystyried yn wastraff os bodlonir yr holl amodau canlynol:
- Fe’i cynhyrchwyd gan ddefnyddio’r gwastraff pydradwy a wahanwyd yn y ffynhonnell a restrir uchod yn unig
- Rhaid i’r gwastraff fod wedi’i storio a’i brosesu yn unol â PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig, ynghyd â’r safon ansawdd ychwanegol:
- Y crynodiad uchaf o blastig a ganiateir yw 0.06% m/m mewn compost sydd wedi’i sychu yn yr awyr agored. Mae hyn yn cyfateb i 50% o’r terfyn plastig sy’n rhan o eitem 12 yn Nhabl 3 PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig.
- Bod ardystiad wedi’i roi sy’n sicrhau cydymffurfedd â PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig (fel y nodir yn adran 6)
- Nid oes angen ei drin ymhellach, ac eithrio’r dulliau a ddisgrifir yn PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig cyn y defnydd bwriadedig
- Mae’n bodloni unrhyw fanyleb ychwanegol y gofynnwyd amdani gan eich cwsmer, ac y cytunwyd arni
- Mae sicrwydd defnydd ar gyfer y deunydd (gweler adrannau 3 a 4)
- Cedwir cofnodion, yn unol ag adran 5, i ddangos sut y caiff y gofynion diwedd gwastraff eu bodloni ar gyfer ansawdd a maint y compost a gynhyrchir, gan gynnwys sicrwydd defnydd a gofynion o ran y cynllun rheoli maethynnau
- Mae compost ardystiedig a gedwir mewn storfa, heb unrhyw ddefnydd penodol wedi’i gadarnhau ar gyfer yr ansawdd a’r maint a gedwir, yn awgrymu nad oes unrhyw ddiben penodol iddo ac nad oes galw am y deunydd hwn. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd y deunydd yn cael ei ystyried yn wastraff. Golyga hyn y bydd rhaid i chi ddilyn rheolaethau rheoli gwastraff.
4. Defnyddio compost
Rhaid i’r defnydd o’r compost gydymffurfio â gofynion y canllawiau hyn, ynghyd â deddfwriaeth berthnasol a chytundebau rheoli tir. Gall y ddeddfwriaeth berthnasol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
- Rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol
- Codau ymarfer amaethyddol da
- Diogelu dŵr daear - GOV.UK
- Asesu effeithiau amgylcheddol yn y maes amaethyddol
- Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig
Gall methu â gwneud hyn, neu fethu â chydymffurfio â rheolaethau rheoli gwastraff pan na allwch ddangos cydymffurfedd â meini prawf diwedd gwastraff, fod yn drosedd.
5. Cynlluniau rheoli maethynnau
Pan fyddwch yn cyflenwi compost i’r diwydiant amaeth, rhaid i’ch dogfennaeth cyflenwi compost hysbysu’r cwsmer o’r canlynol:
- Bod rhaid i’r cwsmer feddu ar gynllun rheoli maethynnau ysgrifenedig, sy’n cynnwys yr holl faethynnau o bob ffynhonnell cyn eu defnyddio
- Rhaid iddynt ddefnyddio’r compost yn unol â’r cynllun rheoli maethynnau, gan ystyried unrhyw fath arall o dail organig a gwrteithiau wedi’u gweithgynhyrchu, ar gyfraddau nad ydynt yn uwch na’r angen o ran pridd a chnydau
- Y cwsmer sy’n gyfrifol am ddilyn eu cynllun rheoli maethynnau
- Lle nad oes angen gweddillion treuliad anaerobig ar bridd na chnydau, fe’i hystyrir yn wastraff, a rhaid iddynt ddilyn rheolaeth rheoli gwastraff
Os na wnewch chi hyn, gallai Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau yn unol â’i bolisi gorfodi a sancsiynau.
6. Cadw cofnodion
Cofnodwch y gwastraff sy’n dod i mewn. Mae angen i’ch cofnodion gynnwys y canlynol:
- Y cod gwastraff a disgrifiad o’r gwastraff, yn unol â’ch trwydded amgylcheddol neu esemptiad
- Ei gyfaint neu ei bwysau
- Ffynhonnell y gwastraff
- Y dyddiad dosbarthu
- Enw a chyfeiriad y cyflenwr
- Enw a chyfeiriad y cludwr
- Eich dull o gadarnhau bod mewnbwn y gwastraff o ddeunydd derbyniol ac, os nad yw’n dderbyniol (gan gynnwys yn rhannol yn unig), eich rhesymau dros wrthod, a’r hyn a wnaethoch â’r gwastraff a wrthodwyd
Cofnodwch y cynnyrch sy’n mynd allan. Cadwch gopïau o ddogfennaeth cyflenwi cwsmeriaid (am bedair blynedd fel y nodir yn adran 6), gan gynnwys manylion am rwymedigaethau cwsmeriaid ar gyfer defnydd a gofynion y cynllun rheoli maethynnau (lle bo’n briodol), fel y nodir yn adran 4.
Cofiwch gynnwys datganiad yn eich dogfennaeth cyflenwi cwsmeriaid sy’n nodi bod y cynnyrch terfynol yn bodloni’r canlynol:
- PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig
- Gofynion y meini prawf diwedd gwastraff yn y ddogfen hon
- Unrhyw fanylebau cwsmer ychwanegol (fel y cytunwyd arnynt rhwng y cyflenwr a’r cwsmer)
Rhaid i chi sicrhau bod pob cofnod ar gael i’w archwilio pan ofynnir amdano.
7. Ardystiad
Rhaid i chi ddangos eich bod yn cydymffurfio â gofynion y ddogfen hon, gan gynnwys holl amodau PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig. Rhaid i chi brofi hyn i gorff ardystio sydd:
- wedi’i benodi gan y Cynllun Ardystio Compost
- yn gweithredu yn unol â rheolau’r cynllun y cytunwyd arnynt gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
- wedi’i achredu, neu’n gallu dangos ei fod yn gweithio tuag at achrediad 17065:2012 y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (neu achrediad diweddarach cyfwerth) gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS), a gynhelir yn flynyddol
Fel rhan o’r broses ardystio, rhaid i chi wneud y canlynol:
- Cadw cofnodion am o leiaf bedair blynedd, gan ddilyn y canllawiau yn adran 5
- Sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i’r corff ardystio at ddibenion ardystio
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno ar reolau’r cynllun os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Mae’r dull ardystio yn dangos bod gofynion y meini prawf diwedd gwastraff hyn a PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig yn cael eu bodloni
- Caiff cydymffurfedd ei hardystio’n flynyddol gan gorff ardystio annibynnol sydd wedi’i achredu, fel y manylir uchod
- Mae’r corff ardystio achrededig wedi’i achredu i ardystio compost
- Mae’r ardystiad yn gwirio dogfennaeth y ffynhonnell, tystiolaeth o weithdrefnau rheoli safle (gan gynnwys cydymffurfio â’r system rheoli ansawdd) a chanlyniadau profion labordy
- Mae’r corff ardystio neu ei gontractwr awdurdodedig yn cynnal o leiaf un archwiliad safle yn flynyddol i wirio a chadarnhau dogfennaeth ar y safle
- Mae pwyllgor diduedd yn goruchwylio’r broses ardystio
8. Colli statws diwastraff
Bydd compost sy’n bodloni’r meini prawf diwedd gwastraff hyn yn dod yn wastraff eto (sy’n golygu y bydd rhaid i chi ddilyn rheolaethau rheoli gwastraff) os, ar unrhyw adeg:
- caiff ei fwrw o’r neilltu
- mae’r deiliad yn bwriadu ei waredu neu y mae’n ofynnol iddo ei waredu
- caiff ei ddefnyddio y tu hwnt i ofynion y pridd a’r cnydau
- caiff ei storio am gyfnod amhenodol ac mae’n annhebygol o gael ei ddefnyddio
Mae’r uchod yn berthnasol i unrhyw un sy’n storio compost, nid cynhyrchwyr yn unig.
9. Cymysgu gwastraff a deunyddiau diwastraff
Os caiff compost sy’n bodloni’r meini prawf diwedd gwastraff ei gymysgu â deunydd gwastraff, caiff y cyfaint cymysg cyfan ei ystyried yn wastraff a rhaid dilyn rheolaethau rheoli gwastraff.
Os caiff compost sy’n bodloni’r meini prawf diwedd gwastraff ei gymysgu â deunyddiau diwastraff eraill, ni chaiff y cyfaint cymysg cyfan ei ystyried yn wastraff. Ni chaiff gwneud hyn ei ystyried yn driniaeth bellach. Er enghraifft, nid yw cymysgu compost sydd wedi bodloni meini prawf diwedd gwastraff ar gyfer compost â gweddillion treuliad anaerobig sydd wedi bodloni meini prawf diwedd gwastraff yn weithgaredd gwastraff, gan nad yw’r naill ddeunydd na’r llall yn wastraff.
10. Safonau a manylebau
Manyleb PAS100:2018 y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer deunyddiau wedi’u compostio (BSI PAS100). Gallwch lawrlwytho copïau am ddim o PAS100 y Sefydliad Safonau Prydeinig o’r canlynol:
11. Adolygu a chydymffurfedd
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r canllawiau hyn yn ôl yr angen, a gall eu tynnu’n ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg os ystyrir bod angen gwneud hynny (er enghraifft, os oes tystiolaeth bod y canllawiau yn cael eu camddefnyddio, os oes digwyddiadau llygredd sy’n gysylltiedig â deunyddiau a hawliwyd o dan y canllawiau hyn, os oes newid mewn deddfwriaeth neu dystiolaeth wyddonol ac ati).
Os na chaiff y gweithdrefnau a amlinellir yn y ddogfen hon eu dilyn i ddangos diwedd gwastraff ar gyfer gweddillion treuliad anaerobig, gall Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau yn unol â’i bolisi gorfodi a sancsiynau.