Ffurflen gwastraff peryglus: lawrlwythwch y templed, ei gwblhau, ei wirio a'i gyflwyno
Dilynwch y camau hyn i gwblhau, gwirio a chyflwyno eich ffurflen gwastraff peryglus.
Lawrlwythwch y templed
Lawrlwythwch y templed taenlen ffurflen gwastraff peryglus.
Cwblhewch eich ffurflen
Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar sut i gwblhau eich ffurflenni yn gywir.
Mae'r cyfarwyddiadau hyn hefyd ar ddalen 4 y templed taenlen.
Gwirio a chyflwyno
Rhaid i chi wirio nad oes unrhyw wallau yn eich ffurflen wedi'i chwblhau.
Rhaid i chi wneud hyn drwy lanlwytho eich ffurflen wedi'i chwblhau.
Cywirwch unrhyw wallau
Os yw eich ffurflen yn cynnwys gwallau, byddwch yn cael gwybod am y canlynol:
- y llinell yn y ffurflen y mae'r gwall yn ymddangos arni
- beth sydd angen i chi ei wneud i'w chywiro, e.e. ‘rhowch y dyddiad yn y fformat hwn dd/mm/bbbb’
Rhaid i chi fynd yn ôl at eich ffurflen a gadwyd i gywiro'r gwallau.
Mae angen i chi ei gwirio hyd nes nad oes unrhyw wallau.
Cyflwyno
Pan nad oes unrhyw wallau, gofynnir i chi ei chyflwyno.
Diweddarwyd ddiwethaf