Atal llygredd dŵr daear o gladdedigaethau anifeiliaid

Gall claddedigaethau anifeiliaid lygru dŵr daear os na fyddwch yn dilyn y canllawiau hyn.  Yma gallwch ddod o hyd i gyngor ar y canlynol:

  • claddu anifeiliaid anwes domestig
  • mynwentydd anifeiliaid anwes
  • gwaredu da byw ac anifeiliaid hela gwyllt

Claddu anifeiliaid anwes domestig

Nid oes angen caniatâd arnoch gennym ni i gladdu anifeiliaid anwes.

Gallwch gladdu anifeiliaid anwes bach domestig megis ci neu gath ar eich tir eich hun, er enghraifft yn eich gardd gefn. Nid oes unrhyw ofynion diogelu dŵr daear y mae angen i chi eu dilyn.

Os ydych chi eisiau claddu anifail anwes mwy, megis ceffyl anwes, rhaid i'r gladdedigaeth fodloni’r canlynol:

  • bod wedi'i lleoli y tu allan i barth gwarchod ffynhonnell dŵr daear 1 (SPZ1)
  • bod o leiaf 50 metr o unrhyw ffynnon, dyfrdwll neu darddell
  • bod o leiaf 10 metr o unrhyw ddraen cae, gan gynnwys ffosydd sych
  • cael cliriad o leiaf 1 metr rhwng gwaelod y twll claddu a phen y lefel trwythiad – ni ddylai fod unrhyw ferddwr yn y twll wrth ei gloddio
  • bod yn ddigon dwfn fel bod o leiaf 1 metr o bridd yn gorchuddio top corff yr anifail
  • peidio â chael ei gloddio i mewn i'r graigwely
  • peidio â bod mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd dŵr daear – dyma pryd mae'r lefel trwythiad o dan y ddaear yn codi ac yn achosi i ddŵr dreiddio allan ar lefel y ddaear (mae'n aml yn dymhorol)

Gwaredu lludw

Nid oes angen caniatâd arnoch i wasgaru na chladdu lludw o amlosgiad un anifail anwes ar eich tir eich hun, na gwneud unrhyw gofnod ffurfiol o’r ffaith eich bod chi wedi gwneud hynny. Dylech gael caniatâd gan berchennog y tir os ydych chi am wasgaru neu gladdu lludw ar dir rhywun arall.

Os ydych chi'n gwasgaru lludw ar draws dyfroedd wyneb, megis afon, dylech chi wneud y canlynol:

  • sicrhau bod yr effaith ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt yn fach iawn ac na fydd yn effeithio ar ddefnyddwyr eraill cyrsiau dŵr
  • peidio â gwasgaru unrhyw atgofion nac eitemau eraill, gan y gallent niweidio'r amgylchedd a bywyd gwyllt

Mynwentydd anifeiliaid anwes

Rhaid i chi gwblhau asesiad risg dŵr daear fel rhan o'ch cais cynllunio.

Rydym yn defnyddio dull cymesur wrth asesu asesiadau risg dŵr daear. Bydd y risg ar gyfer pob safle yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys y canlynol:

  • bregusrwydd a sensitifrwydd y dŵr daear isod
  • y dyfnder i'r lefel trwythiad
  • agosrwydd tyniadau dŵr daear, yn enwedig y rhai a ddefnyddir at ddibenion dŵr yfed neu gynhyrchu bwyd
  • agosrwydd at gyrsiau dŵr a chynefinoedd gwlyptiroedd
  • math o ddyfrhaen ac amodau hydroddaearegol lleol
  • nifer a dwysedd claddedigaethau
  • technegau claddu a ddefnyddir

Byddwn yn gwrthwynebu unrhyw fynwentydd ar gyfer anifeiliaid pan fo'r asesiad risg yn dangos bod y risg i ddŵr daear yn uchel.

Rhaid i bob claddedigaeth mewn mynwent anifeiliaid anwes fodloni’r canlynol:

  • bod y tu allan i barth gwarchod ffynhonnell dŵr daear 1 (SPZ1)
  • bod o leiaf 250 metr o unrhyw ffynnon, dyfrdwll neu darddell lle bwriedir i'r dŵr gael ei yfed gan unigolion neu ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd
  • bod o leiaf 50 metr o unrhyw darddell neu gwrs dŵr nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddarparu dŵr i’w yfed gan unigolion, neu nad yw'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd
  • bod o leiaf 10 metr o unrhyw ddraen cae, gan gynnwys ffosydd sych
  • cael cliriad o leiaf 1 metr rhwng gwaelod y twll claddu a phen y lefel trwythiad – ni ddylai fod unrhyw ferddwr yn y twll wrth ei gloddio
  • bod yn ddigon dwfn fel bod o leiaf 1 metr o bridd yn gorchuddio top corff yr anifail
  • peidio â chael ei gloddio i mewn i'r graigwely
  • peidio â bod mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd dŵr daear – dyma pryd mae'r lefel trwythiad o dan y ddaear yn codi ac yn achosi i ddŵr dreiddio allan ar lefel y ddaear (mae'n aml yn dymhorol)

Dylai perchnogion a rheolwyr mynwentydd anifeiliaid anwes gydymffurfio â’r canlynol:

Rhaid i chi hefyd gofrestru eich mynwent anifeiliaid anwes â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Darganfyddwch ble gallwch chi adeiladu mynwentydd ar gyfer anifeiliaid anwes a sut i'w cofrestru.

Gwaredu da byw ac anifeiliaid hela gwyllt

Rhaid i chi beidio â chladdu unrhyw anifail a gedwir fel da byw nac sy'n anifail hela gwyllt. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid ar ffermydd ac mewn sŵau a lleoedd tebyg. Gallwch chi gael gwared arnyn nhw yn y ffurf ganlynol:

  • llosgi a rendro masnachol
  • safle tirlenwi – rhaid i'r safle fod â'r drwydded amgylcheddol gywir ar gyfer cyrff anifeiliaid

Sut i storio, rheoli a gwaredu deunyddiau amaethyddol mewn amgylchiadau eithriadol

Stoc drig a chael gwared ar anifeiliaid marw yn ddiogel

Diweddarwyd ddiwethaf