Atal llygredd dŵr daear o gladdedigaethau cartref

Gall claddedigaethau dynol lygru dŵr daear os na fyddwch yn dilyn y canllawiau hyn.  

Claddedigaethau dynol cartref

Nid oes angen caniatâd arnoch gennym ni ar gyfer claddu rhywun gartref ond rhaid i gladdedigaeth fodloni’r canlynol:

  • bod wedi'i lleoli y tu allan i barth gwarchod ffynhonnell dŵr daear 1 (SPZ1)
  • bod o leiaf 50 metr o unrhyw ffynnon, dyfrdwll neu darddell
  • bod o leiaf 10 metr o unrhyw ddraen cae, gan gynnwys ffosydd sych
  • cael cliriad o leiaf 1 metr rhwng gwaelod y twll claddu a phen y lefel trwythiad – ni ddylai fod unrhyw ferddwr yn y twll wrth ei gloddio
  • bod yn ddigon dwfn fel bod o leiaf 1 metr o bridd yn gorchuddio top yr arch neu'r corff
  • peidio â chael ei gloddio i mewn i'r graigwely
  • peidio â bod mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd dŵr daear – dyma pryd mae'r lefel trwythiad o dan y ddaear yn codi ac yn achosi i ddŵr dreiddio allan ar lefel y ddaear (mae'n aml yn dymhorol)

Dylech chi gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod eich bod chi'n bwriadu claddu gartref. Efallai y bydd angen i chi siarad ag adran iechyd yr amgylchedd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gladdedigaethau ar dir preifat ar wefan Natural Death Centre.

Gwaredu lludw

Nid oes angen caniatâd arnoch i wasgaru lludw o un amlosgiad ar eich tir eich hun, na gwneud unrhyw gofnod ffurfiol o’r ffaith eich bod chi wedi gwneud hynny. Dylech gael caniatâd gan berchennog y tir os ydych chi am wasgaru lludw ar dir rhywun arall.

Os ydych chi'n gwasgaru lludw ar draws dŵr wyneb, dylech chi wneud y canlynol:

  • sicrhau bod yr effaith ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt yn fach iawn ac nad yw'n effeithio ar ddefnyddwyr eraill cyrsiau dŵr
  • peidio â chynnwys torchau castin na phethau i’w cofio gan y gallent niweidio'r amgylchedd a bywyd gwyllt
Diweddarwyd ddiwethaf