Paratoi ar gyfer argyfyngau ac adrodd am ddigwyddiadau.

Paratoi ar gyfer argyfyngau

Pan fydd cronfa ddŵr yn methu, gall hyn ddigwydd yn gyflym a gall y canlyniadau fod yn ddinistriol i bobl, eiddo a’r amgylchedd i lawr yr afon. Mae’n bosib mai ychydig iawn o amser fydd gyda chi i gynllunio eich ymateb.

Yn aml, bydd arwyddion arwyddocaol i’w gweld fod argae neu arglawdd yn dirywio a gall hyn ddod i’r amlwg ddiwrnodau neu fisoedd lawer cyn i’r argae fethu mewn gwirionedd. Dylai gwaith cynnal a chadw a goruchwylio priodol atal unrhyw ddirywio, ond gall problemau cudd neu dywydd garw olygu y bydd rhaid i chi weithredu ar frys i atal mân ddigwyddiad rhag troi’n argyfwng.

Sut ddylech chi baratoi ar gyfer argyfwng?

Mae cynllun llifogydd cronfa ar-safle yn nodi sut y byddwch chi yn ymateb pe bai achos go iawn o ddŵr yn cael ei ryddhau’n afreolus o’ch cronfa ddŵr yn digwydd neu fod posibilrwydd y gallai hynny ddigwydd.

Rydym yn argymell eich bod yn paratoi cynllun llifogydd cronfa ar-safle sy’n cynnwys manylion beth fyddwch chi’n ei wneud mewn argyfwng a sut y byddwch yn lleihau effeithiau’r methiant. Bydd yn cynnwys gwybodaeth all fod ei hangen arnoch ond na fydd gyda chi amser i’w hymchwilio pan fydd damwain yn digwydd. Rydym wedi paratoi templed i’ch helpu i wneud hyn ac mae hwn ar gael pan ofynnwch amdano.

Beth all y gwasanaethau brys ei wneud?

Mae eich cyngor lleol, mewn cyswllt â’ch Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, yn gyfrifol am baratoi cynlluniau ar gyfer ymdrin â llifogydd, gan sicrhau bod cymunedau i lawr yr afon wedi eu paratoi’n dda: cynlluniau llifogydd oddi ar safle yw’r enw ar y rhain. Dylech hysbysu’r sefydliadau hyn yn rheolaidd am unrhyw beryglon neu newidiadau sy’n ymwneud â’ch cronfa ddŵr.

Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o gronfeydd dŵr uwch mawr wedi eu mapio gennym neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn flaenorol. Mae’r map perygl llifogydd o gronfeydd dŵr ar-lein yn dangos yr ardal allai ddioddef llifogydd pe bai cronfa ddŵr yn methu ac yn gollwng y dŵr sy’n cael ei ddal ganddi - ac mae hynny’n annhebygol o ddigwydd. Defnyddir y mapiau hyn gan awdurdodau lleol ac ymatebwyr brys eraill er mwyn datblygu cynlluniau llifogydd o gronfeydd dŵr oddi ar safle yn eu Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.

Adrodd am ddigwyddiad

I roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad all gael effaith ar ddiogelwch cronfa ddŵr uwch fawr, rhaid i chi gysylltu â’n llinell gymorth 24 awr ar 0800 807060

Os ydych yn ymgymerwr (perchennog neu weithredwr) cronfa ddŵr uwch fawr mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i adrodd wrthym am unrhyw ddigwyddiadau; o safbwynt pob cronfa ddŵr arall, rydym yn argymell y dylid adrodd am unrhyw ddigwyddiadau. Gall digwyddiadau y dylech roi gwybod amdanynt gynnwys y canlynol:

  • dŵr yn gorlifo dros yr argae (pan na fwriedir iddo wneud hynny)
  • dŵr yn gollwng
  • llethr yn symud neu’n ansefydlog
  • craciau yn yr argae/ arglawdd
  • darlleniadau annisgwyl ar yr offer
  • methiant yn y deunyddiau
  • gwaith rhagofalu i liniaru problem, e.e. tynnu i lawr  
  • camau gweithredu brys
  • penodiad annisgwyl peiriannydd panel y cronfeydd dŵr
  • digwyddiad oherwydd llygredd

Os bydd damwain yn digwydd wrth eich cronfa ddŵr neu arni, dylech ofyn am gyngor gan eich Peiriannydd Goruchwylio, os oes un gennych, neu beiriannydd panel arall. Hyd yn oed os nad oes rhaid i’ch cronfa ddŵr gael ei chofrestru gyda ni, argymhellwn eich bod yn gofyn am y cyngor cymwys hwn.

Pan fydd y digwyddiad dan reolaeth, dylech ddarparu adroddiad cychwynnol ar y digwyddiad i ni, a hynny cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosib. Rhaid anfon adroddiad manwl am y digwyddiad atom cyn pen blwyddyn o’r digwyddiad hwnnw. Mae Templed Adroddiad yn Dilyn Digwyddiad ar gael oddi wrthym pan ofynnwch amdano.

Bydd y gwersi a ddysgir o ddigwyddiadau fel y rhain yn cael eu rhannu, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, â’r diwydiant cronfeydd dŵr ac awdurdodau gorfodi eraill er mwyn llywio dysgu ac ymchwil a hyrwyddo ymhellach ddiogelwch cronfeydd dŵr.

Diweddarwyd ddiwethaf