Gwneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.
Cyn i chi ddechrau
Edrychwch i weld pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.
Mae hefyd angen i chi wybod:
- manylion yr ymgeisydd
 - gwybodaeth am y tirfeddiannwr
 - unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
 - dyddiadau dechrau a gorffen arfaethedig
 - gwybodaeth am y gwaith arfaethedig
 - sut y bydd y gwaith yn effeithio ar afon yr amddiffynfa rhag llifogydd
 - lleoliad y safle - gan gynnwys cyfeirnod grid
 - unrhyw gyfeirnod caniatâd cynllunio
 - pwy fydd yn gyfrifol am y safle yn ystod ac ar ôl y gwaith
 - manylion talu - cyfrifwch eich ffioedd
 
Amserlenni
Byddwn fel arfer yn gwneud penderfyniad o fewn 2 mis ar ôl derbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.
Cael mwy o gymorth gyda'ch cais
Rydym yn darparu gwasanaeth cynghori un i un i'ch helpu i ddeall y gofynion cyfreithiol wrth ymgymryd â rhai gweithgareddau a chynorthwyo gyda'r broses ymgeisio.
                
Diweddarwyd ddiwethaf