Gwneud cais am drwydded forol band 1

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded forol band 1

Cyn i chi ddechrau

Mae angen i chi wybod:

  • enw eich prosiect
  • crynodeb o'r hyn rydych chi eisiau ei wneud
  • manylion yr ymgeisydd ac unrhyw asiant
  • cyfeirnod ar gyfer unrhyw gyngor cyn ymgeisio y gwnaethom ei roi i chi
  • gwybodaeth am unrhyw gychod neu gerbydau y byddwch yn eu defnyddio
  • dyddiadau dechrau y gwaith
  • lleoliad y prosiect gan ddefnyddio hydred a lledred mewn graddau degol i bedwar lle degol
  • pa ddeunyddiau y byddwch yn eu dyddodi neu'n eu tynnu, a faint ohonynt
  • a oes gennych unrhyw bwerau statudol i gydsynio ag agweddau ar y gwaith ai peidio, ac o dan ba ddeddfwriaeth

Dogfennau y mae'n rhaid i chi eu lanlwytho

  1. Map Orolwg Ordnans neu Siart y Morlys

  2. Datganiadau dull

  3. Cynlluniau adeiladu a lluniadau trychiadol, os oes gennych rai

  4. Siart o'r llwybr danfon arfaethedig os ydych yn danfon deunyddiau ar y môr

  5. Gohebu ag ymgyngoreion

  6. Eich tystiolaeth, os ydych am hawlio cyfrinachedd
Diweddarwyd ddiwethaf