Gwneud cais i newid neu drosglwyddo (amrywio) trwydded forol

Mae pedwar math o newid (amrywiadau a throsglwyddiad) y gallwch wneud cais amdanynt:

  • gweinyddol - megis newid cyfeiriad deiliad y drwydded
  • arferol (neu fân) - megis estyn dyddiad darfod y drwydded
  • newidiadau cymhleth - megis newidiadau i ddull y gwaith
  • trosglwyddiad – trosglwyddo’r drwydded i ddeiliad trwydded arall

Ni allwch wneud newidiadau i drwydded band 1 na thrwyddedau sydd wedi darfod.

Pryd i gysylltu â ni cyn i chi wneud cais

Os ydych yn:

  • ansicr ynglŷn â pha fath o amrywiad sy'n berthnasol i chi
  • eisiau gwneud newidiadau cymhleth i'ch trwydded

cysylltwch â'r tîm trwyddedu morol drwy anfon e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a allwch wneud cais am amrywiad neu a fydd angen i chi wneud cais am drwydded forol newydd.

Gwneud cais am amrywiad 

Gwneud cais am drosglwyddiad

I wneud cais i drosglwyddo’ch trwydded, rhaid i chi lenwi ffurflen gais trosglwyddo trwydded. Mae’r ffurflen hon ar gael ar y dudalen Ffurflenni Cais Trwydded Forol ar ein gwefan.

Sut i dalu

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais mae'n rhaid i chi dalu un o'r ffioedd canlynol:

  • £240 am newid gweinyddol
  • £480 am newid arferol
  • Cyfradd o £120 yr awr am newidiadau cymhleth (byddwn yn codi ôl-ddyledion arnoch)
  • £480 am drosglwyddo trwydded

I dalu am eich cais, gallwch ein ffonio ar 0300 065 3770 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener neu dalu trwy drosglwyddiad BACS i:

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen a'ch taliad wedi'u cwblhau, byddwn yn cydnabod ein bod wedi'u derbyn. Byddwn yn dweud wrthych pa mor hir y dylai gymryd i ni benderfynu ar eich cais.

Ein lefelau gwasanaeth yw'r canlynol:

  • 21 diwrnod ar gyfer newid gweinyddol
  • 21 diwrnod ar gyfer trosglwyddo trwydded
  • wyth wythnos ar gyfer newid arferol
  • pedwar mis ar gyfer newid cymhleth band 2
  • dim terfyn amser ar gyfer newid cymhleth band 3
Diweddarwyd ddiwethaf