Gwneud cais am farn cwmpasu asesu effeithiau amgylcheddol (AEA) ar gyfer trwydded forol

Beth yw cwmpasu AEA?

Os fydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer eich prosiect, efallai y byddwch am gael rhagor o wybodaeth cymwys ynglŷn â maint a chynnwys (cwmpas) yr asesiad fydd yn cael ei gynnal, er mwyn ei gynnwys yn eich Datganiad Amgylcheddol, gelwir hyn yn farn gwmpasu.

Sut mae ymgeisio am farn gwmpasu?

Mae ymgeiswyr posibl yn gofyn am farn gwmpasu drwy gyflwyno’r wybodaeth a ddisgrifir isod i’r Ganolfan Derbyn Trwyddedau:

Dylid nodi ‘Barn Gwmpasu Forol’ yn glir ar yr ohebiaeth.

Codir tâl ar geisiadau am farn gwmpasu yn ôl cyfradd awr, dylai manylion anfonebu restrwyd yn ein ffioedd a thaliadau cael ei anfon gyda’r cais cwmpasu.

Gellir dod o hyd i’n lefel gwasanaeth ar gyfer gwneud penderfyniad ynglŷn â chais cwmpasu yma.

Pa wybodaeth y dylid ei darparu gyda chais am farn gwmpasu?

Rhaid i adroddiad cwmpasu fod ynghlwm wrth gais am farn gwmpasu, a rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys yr wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • Siart, cynllun neu fap sy’n ddigonol i adnabod lleoliad y gweithgarwch wedi’i reoleiddio a gweithgareddau eraill i’w cyflawni yn ystod y prosiect
  • Disgrifiad o natur a diben y prosiect a’r gweithgarwch wedi’i reoleiddio a’u heffeithiau posibl ar yr amgylchedd
  • Gwybodaeth neu sylwadau eraill felly y gallai’r ymgeisydd ddymuno eu rhoi

Dylid cyflwyno’r wybodaeth hon fel ‘Adroddiad Cwmpasu’ sef drafft yn amlinellu’r DA gan ragweld yn gryno beth fydd y prif faterion/effeithiau. Dylai’r Adroddiad Cwmpasu hefyd gynnig unrhyw astudiaethau perthnasol i’w cynnal, os oes angen, a/neu ffynonellau defnyddiol o wybodaeth.

Sut y ffurfir barn cwmpasu?

Cyn cyflwyno barn cwmpasu, byddwn yn ymgynghori gydag arbenigwyr allanol ac â nifer o gyrff ymgynghori a allai gynnwys y Ganolfan Gwyddor yr Amgylchedd, Pysgodfeydd ac Acwafeithrin a’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Diweddarwyd ddiwethaf