Sut i roi map a chyfesurynnau ar gyfer eich cais am drwydded forol

Mae angen disgrifiad cywir o ble rydych am wneud eich prosiect arnom. Mae hyn er mwyn i ni allu asesu unrhyw effaith y gallai ei chael ar yr amgylchedd neu ddefnyddwyr eraill y môr.

Darparu cyfesurynnau

Mae'n well gennym i gyfesurynnau fod mewn lledred a hydred. Dylent fod i bedwar lle degol, er enghraifft Lledred 52.1234 Hydred -4.1234.

Mae angen digon o gyfesurynnau arnom i ffurfio polygon. Mae hyn yn golygu tri neu fwy.

Os yw'ch gwaith mewn lleoliad penodol iawn (er enghraifft, os ydych chi'n amnewid un pentwr) yna gallwch chi ddarparu union gyfesuryn y pwynt sengl hwnnw.

Os oes gennych chi fwy na naw cyfesuryn, rhaid i chi eu lanlwytho mewn taenlen Excel.

Os oes gennych chi Shapefile, gallwch ei hanfon atom yn ogystal â’r daenlen Excel.

Darparu map

Mae angen map o'r lleoliad yn ogystal â chyfesurynnau, fel y gallwn gadarnhau bod y cyfesurynnau'n gywir.

Gallwch anfon map Arolwg Ordnans neu siart forol y Morlys, neu'r ddau atom.

Mae'n rhaid i'ch map fod wedi’i ehangu fel y gallwn weld golygfa fanwl o'r ardal lle byddwch yn gwneud eich gweithgarwch.

Cynhwyswch saeth ogleddol fel y gallwn adnabod cyfeiriadedd y map yn gywir.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf