Cyflwyno data i’r Gofrestr Sŵn Morol

Mae Defra a’r Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC) wedi datblygu cofrestr MNR newydd ar gyfer cofnodi gweithgareddau pobl ym moroedd y DU, sef gweithgareddau sy’n cynhyrchu sŵn ergydiol, cryf amledd isel a chanolig.

Mae’r MNR yn casglu gwybodaeth am y gweithgareddau swnllyd (yn ystod y cyfnodau cynllunio) ynghyd â’r lleoliad a’r dyddiad (ar ôl i’r gweithgaredd gael ei gwblhau).

Sut y bydd hyn yn effeithio ar Drwyddedau Morol?

O hyn ymlaen, pan fyddwn yn rhoi Trwyddedau Morol sy’n berthnasol i weithgareddau swnllyd fe fyddant yn cynnwys amodau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd gyflwyno data ar y ‘Marine Noise Registry’.

Pa weithgareddau swnllyd y bydd angen eu cofrestru?

  • Gosod polion yn y ddaear
  • Arolygon geoffisegol (seismig, proffilio dan wely’r môr ac ecoseinwyr amlbelydr)
  • Ffrwydradau
  • Sonar milwrol
  • Dyfeisiadau atal acwstig

Pan fo modd, bydd yr MNR yn casglu gwybodaeth am ffynhonnell y sŵn (yn unol â chanllawiau sŵn TG), sy’n cynnwys:-

  • Amledd
  • Cyfaint gwn aer mwyaf
  • Grym mwyaf y ‘morthwylion’
  • Grym cyfwerth â TNT
  • Lefelau pwysedd sŵn
  • Lefelau cysylltiad â sŵn

Gweithgareddau sŵn nad ydynt angen trwyddedau, y gellir eu cofnodi’n wirfoddol:

Rydym yn annog pawb i gofrestru pob gweithgaredd swnllyd yn y môr, gan gynnwys gweithgareddau nad ydynt angen Trwydded Forol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ond gall gynnwys gweithgareddau eraill hefyd:

  • Arolygon seismig
  • Proffilio dan wely’r môr
  • Ecoseinwyr amlbelydr

Ble y dylwn gofrestru?


Trwyddedu morol yng Nghymru

Fe fydd deall pryd a ble y caiff gweithgareddau swnllyd eu cynnal yn ein helpu i ddiffinio lefel sylfaenol ar gyfer sŵn ergydiol yn nyfroedd y DU. Hefyd, bydd yn cyfarwyddo ein gwaith ymchwil a’n penderfyniadau ynghylch effaith sŵn, yn enwedig ar rywogaethau bregus fel creaduriaid morfilaidd, morfilod, dolffiniaid a llamidyddion.

Os oes gennych ymholiadau, gallwch gysylltu â’r Tîm Trwyddedu Morol ar marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf