Paratoi datganiad dull ar gyfer cais am drwydded forol band 1

Bydd angen i chi ddarparu datganiad dull os yw eich gwaith arfaethedig yn unrhyw un o’r canlynol:

  • tyllau turio neu vibrocores
  • pentyrrau amnewid
  • rheoli traethau
  • o fewn ardal sensitif

Edrychwch i weld a yw eich gwaith o fewn ardal sensitif

Defnyddiwch y map yma i weld lleoliadau ardaloedd sensitif ledled Cymru. Os bydd eich gwaith yn digwydd o fewn ardal sydd wedi’i lliwio yna bydd rhaid i chi ysgrifennu datganiad dull.

Cliciwch ar y lleoliad i weld manylion unrhyw rywogaethau neu gynefinoedd penodol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt wrth ysgrifennu eich datganiad. 

Ymgynghori â sefydliadau yn gynnar

Cyn i chi ysgrifennu eich datganiad dull, ymgynghorwch â sefydliadau perthnasol. Gallwch drafod unrhyw faterion a datrysiadau posibl cyn i chi ddechrau gweithio ar eich cais.

Beth i'w gynnwys mewn datganiad dull

Your method statement should include:

  • disgrifiad o'r gweithgaredd
  • y camau y byddwch yn eu cymryd i'w gwblhau
  • am ba hyd y bydd y gweithgaredd yn para
  • manylion unrhyw lwybrau cerbydau neu gychod y byddwch yn eu defnyddio i gael mynediad i’r safle
  • manylion unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei dynnu
  • manylion unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei ddyddodi
  • mesurau y byddwch yn eu cymryd i leihau’r risg i’r amgylchedd morol
  • mesurau y byddwch yn eu cymryd i atal ymyrraeth ormodol i eraill
  • mesurau y byddwch yn eu cymryd i gynnal diogelwch mordwyo, gan gynnwys sut y byddwch yn marcio ac yn goleuo'r gwaith

Pentyrrau amnewid a thyllau turio neu vibrocores

Rhaid i ddatganiadau dull ar gyfer y gweithgareddau hyn hefyd gynnwys:

  • diamedr y pentwr
  • nifer y tyllau turio neu vibrocores
  • lefelau sŵn a ragwelir yn y ffynhonnell
  • yr union leoliad arfaethedig, os yw'n hysbys

Mae hyn yn ein galluogi i asesu effaith y gwaith o ran sŵn ar y cyd â gwaith posibl arall gerllaw.

Rheoli traethau

Rhaid i ddatganiad dull ynghylch rheoli traeth hefyd nodi:

  • cyfaint/tunelledd y deunydd y disgwyliwch ei symud
  • y lleoliadau lle byddwch yn symud deunydd iddynt ac oddi wrthynt

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf