Gwneud cais am gynllun samplu ar gyfer trwydded forol ar gyfer carthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi'i garthu
Cyn i chi wneud cais am drwydded i garthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi'i garthu yn y môr, rhaid sicrhau bod amrediad o briodweddau ffisegol a chemegol y deunydd wedi'u dadansoddi yn unol â chanllawiau OSPAR.
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- cytuno ar y gofynion samplu a dadansoddi gwaddod gyda ni trwy gyflwyno cynllun samplu.
- cyflawni'r gwaith samplu a dadansoddi yn unol â'r cynllun hwn
- cyflwyno'r canlyniadau gyda'ch cais am drwydded forol ar gyfer carthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi'i garthu
Gwneud cais am gynllun samplu
Rydym yn defnyddio ymgynghorwyr gwyddonol allanol i lunio'r cynllun samplu. Byddant yn ei ddychwelyd atom a byddwn ni'n ei anfon atoch chi. Byddwch yn derbyn eich cynllun tua phedair wythnos ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen a thalu eich ffi.
Talu eich ffi
Pan fyddwch wedi cwblhau'r ffurflen bydd angen i chi dalu ffi o £420. Gallwch dalu drwy ein ffonio ar 03000 653 770 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy drosglwyddiad banc i:
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Nid yw'r ffi hon yn cynnwys costau allanol sy'n gysylltiedig ag amser ymgynghorwyr gwyddonol ar gyfer llunio'r cynllun samplu. Pan fyddwn yn derbyn cadarnhad o'u costau fe wnawn ni eich anfonebu chi.
Ble y gellir dadansoddi eich samplau gwaddod
Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio un o'r labordai canlynol, y maent wedi'u dilysu ar gyfer cyflawni gwaith dadansoddi gwaddod ar gyfer ategu ceisiadau am drwydded forol.
Gwiriwch a yw'r labordy wedi'i ddilysu ar gyfer y penderfynyddion y mae eich cynllun samplu'n ei gwneud yn ofynnol i chi eu mesur.
- |
Cefas |
Technoleg Deunyddiau Elfennol |
Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu |
Kenneth Pye Associates Limited |
Ocean Ecology Limited |
RPS |
SOCOTEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfansoddion anorganig (gan gynnwys metelau hybrin) |
Ydy |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Ydy |
Cyfansoddion organotun (tribwtyltun a deubwtyltun)) |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Ydy |
Biffenylau polyclorinedig (PCBs) |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Ydy |
Deunyddiau gwrthdan brominedig |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Cyfanswm y cynnwys hydrocarbon (THC) |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Hydrocarbonau aromatig polyseiclig (PAHs) |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Plaladdwyr organoclorin (OCPs)) |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Cyfanswm y carbon organig (TOC) |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Ydy |
Dadansoddiad maint gronynnau (PSA) |
Ydy |
Nac ydy |
Ydy |
Ydy |
Ydy |
Nac ydy |
Nac ydy |
Gall y dadansoddiad gymryd hyd at wyth wythnos i'w gwblhau, gan ddibynnu ar y labordy yr ydych yn ei ddefnyddio a gofynion y dadansoddiad.
Costau dadansoddi'r sampl
Bydd costau dadansoddi sampl yn amrywio, gan ddibynnu ar y cynlluniau samplu pwrpasol ar gyfer y gwaith cysylltiedig. Bydd angen i chi drafod a chytuno ar y costau dadansoddi sampl yn uniongyrchol â'ch labordy dewisol.
Sut i anfon y data dadansoddi gwaddod atom
Bydd angen i chi wneud y canlynol er mwyn anfon data eich dadansoddiad atom:
- gofynnwch i ni am dempled trwy anfon e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiol.cymru
- cwblhewch y templed a'i anfon atom ynghyd â gweddill eich cais am drwydded forol ar gyfer carthu neu gael gwared ar ddeunyddiau sydd wedi'u carthu
Ni allwn dderbyn canlyniadau gwaddod sydd wedi'u cyflwyno ar ffurf wahanol.
Byddwn yn dychwelyd unrhyw gyflwyniadau anghyflawn atoch a gall hyn achosi oedi yn y broses ymgeisio am drwydded forol.
Os ydych yn gwneud newidiadau i'ch gwaith arfaethedig
Os ydych yn gwneud newidiadau i'ch gwaith arfaethedig ar ôl i'r cynllun samplu gael ei lunio, gofynnwch i ni am gadarnhad bod y cynllun yn parhau i fod yn gymwys. Gall newidiadau gynnwys newid y lleoliad i'w garthu neu swm y deunydd i'w garthu.
Bydd methiant i wneud hynny'n golygu y bydd oedi, taliadau ychwanegol i'w talu, a gofyniad posibl i ail-samplu.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r data
Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y data dadansoddi gwaddod a gyflwynir i ategu cais yn gyson a chymaradwy rhwng ceisiadau gwahanol. Mae'r lefelau gweithredu hyn yn cael eu defnyddio i benderfynu ar faint o halogyddion sydd yn y deunydd a'i addasrwydd ar gyfer cael gwared arno yn y môr.
Mae’r lefelau gweithredu wedi’u rhestru isod:
Lefel gweithredu 1
Halogydd / Cyfansoddyn | mg/kg Pwysau Sych (ppm) |
---|---|
Arsenig | 20 |
Mercwri | 0.3 |
Cadmiwm | 0.4 |
Cromiwm | 40 |
Copr | 40 |
Nicel | 20 |
Plwm | 50 |
Sinc | 130 |
Orgotinau; TBT DBT MBT | 0.1 |
PCBau, swm o ICES 7 | 0.01 |
PCBau, swm o 25 o ansoddau cysylltiedig | 0.02 |
DDT | 0.001 |
Dieldrin | 0.005 |
Noder: Pennwyd y lefelau ar gyfer DDT a Dieldrin yn 1994
Lefel gweithredu 2
Halogydd / Cyfansoddyn | mg/kg Pwysau Sych (ppm) |
---|---|
Arsenig | 100 |
Mercwri | 3 |
Cadmiwm | 5 |
Cromiwm | 400 |
Copr | 400 |
Nicel | 200 |
Plwm | 500 |
Sinc | 800 |
Orgotinau; TBT DBT MBT | 1 |
PCBau, swm o ICES 7 | dim |
PCBau, swm o 25 o ansoddau cysylltiedig | 0.2 |
Bydd y data dadansoddi gwaddod yn rhan o'r wybodaeth ategol ar gyfer y cais. Byddwn yn rhannu'r data a'r cais gyda'n hymgyngoreion, a byddant ar gael i'r cyhoedd eu gweld.
Mae'n debygol y bydd angen i ni ymgynghori ag ymgynghorwyr gwyddonol allanol a fydd yn codi ffi am eu hamser. Byddwn yn darparu dyfynbris i chi ar gyfer y gost hon yn ystod y broses ymgeisio.