Cais i drosglwyddo trwydded sylweddau ymbelydrol

Cyn i chi wneud cais

Mae trwydded amgylcheddol yn ymwneud â lleoliad penodol (oni bai ei bod ar gyfer ffynhonnell symudol). Os gwerthwch eich safle, ni allwch fynd â’ch trwydded gyda chi a pharhau’r gweithgaredd trwyddedig yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo’ch trwydded i’r perchnogion newydd.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo eich trwydded, yn rhannol neu’n gyfan, i rywun arall. Gellir llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F, a chwblhau adrannau addas rhan D: a rhaid i’r ddau barti lofnodi’r datganiad yn rhan F, hefyd.

Sylwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Help gyda'ch cais

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-D2 Cais am drosglwyddo trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol (ffynonellau seliedig a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [293.8 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-D2 Cais am drosglwyddo trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol (ffynonellau seliedig a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [59.9 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-D3 Trosglwyddo trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol (ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [373.1 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-D3 Trosglwyddo trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol (ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [105.6 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) WORD [200.8 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [62.8 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf