Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Alun Griffiths (Contractors) Limited am drwydded lawn i dynnu dŵr o strata tanddaearol o fewn yr ardal a ffurfiwyd gan linellau syth rhwng Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol SH 58619 72897, SH 58640 72886, SH 58643 72865, SH 58654 72863, SH 58716 72803, SH 58725 72781, SH 58674 72739, SH 58580 72831, SH 58581 72854, SH 58596 72845, SH 58628 72868 ac SH 58613 72891 yng Nghae Chwarae Brenin Siôr V, Ffordd y Traeth, Hirael, Bangor. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol, at ddibenion disbyddu ar gyfer cynnal gwaith adeiladu: 8.33 metr ciwbig yr awr, 200 metr ciwbig y dydd a 73,000 metr ciwbig y flwyddyn, am gyfnod o 10 mis.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-025268 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23/07/2024 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf