Maelor Foods Limited - Amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Maelor Foods Limited i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres WA/067/0007/0015, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o strata tanddaearol yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ 38673 46737. Gofynnwyd am yr amrywiad er mwyn:
- newid cyfeirnod y strata tanddaearol,
- ychwanegu pwynt tynnu dŵr ychwanegol yn SJ 38612 46861
- cynyddu cyfeintiau mwyaf tynnu dŵr i’r cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 112.5 metr ciwbig yr awr, 2,700 metr ciwbig y dydd a 985,500 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn; ac
- ychwanegu defnydd domestig fel diben ychwanegol.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-033465 wrth
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23/10/2026 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).