Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Duynie Ingredients Limited 

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-025487
Math o gyfleuster rheoledig: Gosodiad -  Pennod 4, Adran 4.1 Rhan A (1) (a) (ii) cyfansoddion organig sy'n cynnwys ocsigen (e.e. alcoholau, aldehydau, cetonau, asidau carbocsylig, esterau, etherau, perocsidau, ffenolau, resinau epocsi
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Ffordd Coed Aben, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, Clwyd, LL13 9UH.

Mae Duynie Ingredients Limited yn gwneud cais am drwydded amgylcheddol newydd ar gyfer gweithgynhyrchu starts wedi'i addasu er mwyn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (IED) a Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) 2016.

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad  ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein Cofrestr gyhoeddus - Porth y Cwsmer Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 12/05/2025

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf