Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mr Jonathan Wigley.

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-025040
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Bryn Hyfryd Barn, Cwmsymlog, Aberystwyth, Sir Ceredigion, SY23 3HA.
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SN 69851 83794
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Nant Silo
Math o elifiant: Elifiant triniaeth eilaidd
Cyfaint: 1 metr ciwbig y dydd

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 02/05/2024.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf