Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Valero Energy Limited

Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-023559 (EPR/YP3930EX/V008)
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa – Atodlen 1 Adran 1.2 A(1)(d) – Puro olewau mwynol
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Purfa Penfro, Penfro, Sir Benfro SA71 5SJ

Mae Valero Energy Limited wedi gwneud cais am randdirymiad o dan Erthygl 15 (4) Cyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (2010) ar y gofynion i fodloni casgliad 52 y dechneg orau sydd ar gael (BAT 52) o'r ddogfen gyfeirio BAT (BRef) ar gyfer puro olew mwynol a nwy a gyhoeddwyd o dan Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol, a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2014.

BAT 52 yw atal neu leihau allyriadau organig anweddol (VOC) i’r aer sy’n deillio o weithgareddau llwytho a dadlwytho cyfansoddion hydrocarbon hylif anweddol gan ddefnyddio un neu gyfuniad o'r technegau isod i gyflawni cyfradd adfer o 95% o leiaf.

(i) Anweddiad
(ii) Amsugno
(iii) Arsugniad
(iv) Gwahanu pilen
(v) System hybrid a roddir

Yn ychwanegol at y technegau yn BAT 52. Mae'n ofynnol i weithredwyr gyflawni'r terfyn allyriadau canlynol : 0.15-10 mg / m3 ar gyfer NMVOC a / neu 1mg / m3  (fel y nodir yn nhabl 16 o gasgliadau BAT ar gyfer puro olew mwynol a nwy).

Gellir dod o hyd i fanylion llawn BAT 52. yn y casgliad BAT (yma) neu'r BRef (yma).

Caniatawyd rhanddirymiad o BAT 52 ar gyfer y safle yn 2018 ac mae'n berthnasol tan fis Rhagfyr 2026. Mae'r amrywiad hwn yn ceisio ymestyn dyddiad cau’r rhanddirymiad hyd at 2040 ar sail dadansoddiad cost a budd o uwchraddio'r cyfleuster, i fodloni gofynion BAT 52. Mae'r dadansoddiad yn ystyried cymesuredd yr enillion o leihau cyfansoddion organig anweddol ac eithrio methan (NMVOC) i'r lefelau allyriadau a nodir yn y BAT.

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 29 Mai 2024

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf