Rhagor o wybodaeth am hysbysebu ceisiadau am drwydded tynnu dŵr

Sut ydych chi’n hysbysebu cais?

Mae’n haws hysbysebu nag erioed o’r blaen. Rydym ni’n gyfrifol am:

  • gyhoeddi’r hysbysiad am gais am drwydded. Mae hyn yn golygu bod y broses yn haws i ymgeiswyr, yn sicrhau cysondeb ac yn lleihau’r gwallau posibl
  • trefnu i gyhoeddi’r hysbysiad ar ein gwefan, ac unwaith mewn papur newydd lleol
  • sicrhau bod modd i’r cyhoedd weld copi o’r hysbysiad a’r ffurflenni cais yn ein swyddfeydd lleol
  • derbyn sylwadau ac ymdrin â nhw (drwy e-bost neu’r post)
  • anfon bil atoch am gostau hysbysebu’ch cais, yn ogystal â ffi weinyddol o ganpunt

Pwy sy’n gyfrifol am hysbysebu ceisiadau?

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am gyhoeddi hysbysiad o’ch cais am drwydded, oni bai bod esemptiad neu os ydym ni’n penderfynu nad oes angen ei hysbysebu.

Pam mae angen hysbysebu?

Gall cais i dynnu neu gronni dŵr gael effaith andwyol ar yr amgylchedd neu hawliau defnyddwyr dŵr eraill. Weithiau, mae angen cyhoeddi hysbysiad er mwyn rhoi cyfle i bobl eraill sydd â diddordeb yn y mater fynegi barn neu wybod pa effaith y gallai’r cynnig ei chael ar ddulliau cyfreithlon eraill o ddefnyddio dŵr – dulliau heb eu cofrestru na’u trwyddedu gennym. Mae’n rhaid i ni ystyried y materion hyn wrth benderfynu ai rhoi trwydded ai peidio.

Pam mae’r ceisydd yn gorfod talu ffi weinyddol?

Mae angen talu ffi weinyddol (£100) ar gyfer costau paratoi’r hysbysiad, a chydlynu’r broses o’i gyhoeddi ar ein gwefan ac mewn papur newydd lleol addas.
Hefyd, mae’n rhaid i’r ceisydd dalu’r gost o gyhoeddi’r hysbysiad yn y papur newydd lleol. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros brisiau papurau newydd lleol, ond byddwn yn trosglwyddo unrhyw brisiau gostyngol.

Am fanylion taliadau, ewch i’n tudalen Cynllun Taliadau Tynnu Dŵr.

Sut i chwilio am hysbysiad?

Mae’r holl hysbysiadau presennol wedi’u rhestru yn un o’r categorïau ar y prif dudalen hysbysiadau. Mae crynodeb o’r holl geisiadau ar gael yn ein swyddfeydd lleol perthnasol. I ddod o hyd i’ch swyddfa leol Cyfoeth Naturiol Cymru, e-bostiwch: ymholiadau

Am ba hyd fydd hysbysiadau i’w gweld ar ein gwefan?

Bydd yr hysbysiadau yn ymddangos am 28 diwrnod.

Rhaid anfon unrhyw sylwadau yn ystod y 28 diwrnod. Mae pob hysbysiad yn nodi’r dyddiad cau ar gyfer gwneud sylwadau.

 phwy ddylwn i gysylltu gydag ymholiadau cyffredinol am hysbysiad?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am hysbysiad, mae pob hysbysiad yn cynnwys cyfeiriad cyswllt, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Cofiwch – ni fyddwn yn trin unrhyw drafodaeth fel sylwadau, oni bai bod hynny wedi’i gadarnhau ar bapur neu e-bost.

Ble alla i weld holl fanylion cais?

Os ydych chi eisiau gweld copi o gais, gallwch wneud hynny drwy fynd i’r swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru a nodir ar yr hysbysiad unigol.

Sut i gyflwyno sylwadau?

Rhaid gwneud sylwadau ysgrifenedig, naill ai drwy’r post neu neges e-bost.

Mae’r manylion ar gael ym mhob hysbysiad unigol.

Diweddarwyd ddiwethaf