MMML1670 Newidiadau I trywdded morol gwaith carthu agregau yn Aber Afon Hafren

HYSBYSIAD CYHOEDDUS
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009
RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007
HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL
AMRYWIO TRWYDDED FOROL FEL Y GELLIR CARTHU AGREGAU YN ARDAL 526, ABER AFON HAFREN

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) wedi ymgymryd â phenderfyniad rheoleiddiol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol) o ran y prosiect uchod.

Yn unol â Rheoliad 10 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae CNC wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yng Ngwasanaeth Trwyddedu Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol ar y gwefan yma neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Diweddarwyd ddiwethaf