Ers 1 Ebrill 2013 daeth yr holl ddyletswyddau trwyddedu (golyga hynny unrhyw gofrestriad, eithriad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad neu unrhyw awdurdodiad arall), a oedd yn gyfrifoldeb Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth Cymru i’w rheoleiddio ac, mewn rhai ardaloedd, Llywodraeth Cymru, o dan gylch gorchwyl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Golyga’r newid hwn y bydd cwsmeriaid yn cael un ymateb clir a sengl i geisiadau trwydded ac na fydd yn rhaid ymgeisio i nifer o sefydliadau gwahanol ynghylch rhai gweithgareddau.
Monitro perfformiad
Byddwn yn monitro perfformiad rheoleiddio’n glos iawn ac yn darparu gwasanaeth o ansawdd da as fydd yn cyfarfod â gofynion yr amgylchedd a busnesau yng Nghymru. Mae manylion yn Nhabl 1 o lawer o’r cyfundrefnau rheoleiddio rydym yn gyfrifol amdanynt ac o’r cyfnodau amser y byddwn yn cadw atynt.
Cyfnodau amser
Os byddwch angen penderfyniad ar gais mewn llai o amser na’r cyfnod yn Nhabl 1, trafodwch gyda ni wrth gyflwyno’r cais.
Rydym yn argymell eich bod yn ymgeisio am drwyddedau mewn da bryd (yn ddelfrydol ar ôl cael cyngor cyn ymgeisio gennym ni), gan gyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol a chan gadw’r cyfnodau amser penderfynu mewn cof. Efallai bydd ceisiadau cymhleth, sydd o gryn ddiddordeb cyhoeddus neu a allai gael cryn effaith ar leoliad sensitif, yn gofyn am gyfnod hirach i’w penderfynu nag sydd yn Nabl 1.
Rheoli’ch cais
Pan fyddwch yn cyflwyno cais i ni am drwydded, bydd un o’n swyddogion a fydd yn gyfrifol am benderfynu'ch cais yn cysylltu â chi. Bydd y swyddog hwnnw’n egluro wrthych sut y bydd y cais yn cael ei brosesu, sut y gallwch chi gysylltu a beth yw’r terfynau amser ar gyfer penderfynu. Bydd y swyddog hefyd yn trafod eich disgwyliadau gyda chi.
Byddwch yn cael gwybod hynt eich cais gydol y broses benderfynu fel eich bod yn ymwybodol o sut y mae’ch cais yn symud yn ei flaen.
Tabl 1. Cyfnodau amser statudol ar gyfer penderfynu
Trwyddedu/Cydsynio/Awdurdodi |
Cyfnod Penderfynu Statudol |
Cytundeb Lefel Gwasanaeth |
|
|
|
Trwydded Benodol Gwastraff |
4 mis |
|
Trwydded Rheol Safonol Gwastraff |
3 mis |
|
Amrywio Trwydded Gwastraff |
3 mis neu 4 mis gydag ymgynghoriad |
|
Trosglwyddo Trwydded Gwastraff |
2 fis |
|
Ildio Trwydded Gwastraff |
3 mis |
|
Eithriad Gwastraff T11 |
|
25 diwrnod gwaith |
Adnoddau Gwastraff Mwyngloddio Categori A |
|
9 mis |
Lleoli Peiriannau Symudol |
|
25 diwrnod gwaith |
Asesiad cynllun adfer gwastraff |
|
25 diwrnod gwaith |
Trwydded Benodol Gosodiadau |
4 mis |
|
Amrywiad Sylweddol Gosodiadau |
4 mis |
|
Trwydded Rheol Safonol Gosodiadau |
3 mis |
|
Amrywio Trwydded Gosodiadau |
3 mis |
|
Mae gan geisiadau RSR linellau amser statudol (y rhan fwyaf yn 3 mis) |
|
|
Ildio Trwydded Gosodiadau |
3 mis |
|
Trosglwyddo Trwydded Gosodiadau |
2 fis |
|
Trwydded Benodol Ansawdd Dŵr |
4 mis |
|
Trwydded Rheol Safonol Ansawdd Dŵr |
3 mis |
|
Amrywiadau Trwydded Ansawdd Dŵr |
4 mis gyda hysbyseb, 3 mis heb |
|
Trosglwyddo Trwydded Ansawdd Dŵr |
|
20 diwrnod gwaith |
Ildio Trwydded Ansawdd Dŵr |
|
20 diwrnod gwaith |
Chwynladdwyr Cymhleth Ansawdd Dŵr |
|
13 wythnos |
Chwynladdwyr Syml Ansawdd Dŵr |
|
10 diwrnod gwaith |
Ceisiadau’r Diwydiant Dŵr adran 165/166 |
5 diwrnod gwaith fel arfer , 10 diwrnod gwaith os bydd angen asesiad cynefin, 3 mis os nad yw’n ollyngiad unwaith ac am byth |
|
Adnoddau Dŵr Trydan Dŵr |
4 mis os yw'n cael ei hysbysebu, 3 mis os nad yw’n cael ei hysbysebu |
|
Tynnu o Adnoddau Dŵr |
4 mis os yw'n cael ei hysbysebu, 3 mis os nad yw’n cael ei hysbysebu |
|
Cronni Adnoddau Dŵr |
4 mis os yw'n cael ei hysbysebu, 3 mis os nad yw’n cael ei hysbysebu |
|
Trwydded Dros Dro Adnoddau Dŵr |
20 diwrnod gwaith |
|
Trwydded Drosiannol Adnoddau Dŵr (awdurdodiadau newydd) |
Yn ystod cyfnod 01 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2022 |
|
Diddymu Trwydded Echdynnu Adnoddau Dŵr |
|
20 diwrnod gwaith |
Diddymu Trwydded Cronni Adnoddau Dŵr |
|
3 mis |
Mân Amrywiad Adnoddau Dŵr (heb fod yn gymhleth) |
|
20 diwrnod gwaith |
Mân Amrywiad Adnoddau Dŵr (cymhleth) |
|
3 mis |
Tariff Dwy Ran Adnoddau Dŵr |
|
20 diwrnod gwaith |
Cyn Cais Adnoddau Dŵr (ynni dŵr) |
|
45 diwrnod gwaith |
Cyn Cais Adnoddau Dŵr (ddim yn ynni dŵr) |
|
45 diwrnod gwaith |
Trwydded Ymchwilio Dŵr Ddaear Adnoddau Dŵr |
|
45 diwrnod gwaith |
Trwydded Amddiffynfeydd Llifogydd. |
2 fis |
|
Trwydded rhwydi |
|
Ar ôl derbyn tâl byddwn yn anfon eich trwydded, tagiau sgerbwd a llyfrau log atoch trwy bost cofnodedig. Dylech eu derbyn cyn dechrau’r tymor neu o fewn pum diwrnod gwaith os yw’r tymor eisoes wedi dechrau |
Symudiadau Pysgod |
|
Byddwn angen 20 diwrnod gwaith i brosesu’ch cais. Fodd bynnag, byddwn yn gobeithio ei brosesu o fewn 10 diwrnod gwaith. |
Trwydded Rhywogaethau dan Warchodaeth Ewropeaidd |
|
30 diwrnod gwaith |
Rhywogaethau dan Warchodaeth Ewropeaidd (Morol) |
|
30 diwrnod gwaith |
Cydsyniad SoDDGA i berchnogion / preswylwyr ble nad ydynt yn ymgymerwyr statudol |
4 mis |
|
Cydsyniad SoDDGA i ymgymerwyr statudol |
|
28 diwrnod gwaith |
Cyfyngiadau ac Eithriadau Mynediad Agored |
|
Hyd at 16 wythnos yn dibynnu amserlen y cais eithrio / cyfyngiad |
Trwyddedau Torri Coed Cynlluniau Rheoli Coedwig |
13 wythnosau |
|
Penderfyniadau (Coedwigaeth) Asesiad Effeithiau Amgylcheddol |
28 diwrnod gwaith |
|
Trwyddedu Morol - Barn Sgrinio |
90 diwrnod |
|
Trwyddedu Morol - Barn Sgrinio |
|
90 diwrnod |
Trwyddedu Morol - Sgrinio a Chwmpasu |
|
90 diwrnod |
Trwydded Forol – Cais Band 1 |
|
6 wythnos, fodd bynnag os gwnaed y penderfyniad nad oes angen datganiad dull ardal sensitif yna fel arfer bydd penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 4 wythnos. |
Trwydded Forol – Cais Band 2 |
|
4 mis |
Trwydded Forol – Cais Band 3 |
|
Oherwydd natur amrywiol a chymhleth prosiectau band 3 nid oes lefel gwasanaeth gytunedig ar gyfer penderfynu |
Cyflawni Amodau Trwydded Forol Band 2 |
6 wythnos |
|
Cyflawni Amodau Trwydded Forol Band 3 |
|
Oherwydd natur amrywiol a chymhleth prosiectau band 3 nid oes lefel gwasanaeth gytunedig ar gyfer penderfynu |
Cyflawni amod monitro Trwydded Forol |
|
8 wythnos |
Amrywiad 1 Newidiadau gweinyddol i Drwydded Forol |
|
21 diwrnod |
Amrywiad 2 Newidiadau Cymhleth i Drwydded Forol |
|
4 mis ar gyfer Band 2 Dim ar gyfer Band 3 |
Amrywiad 3 Newidiadau cyffredinol i Drwydded Forol |
|
8 wythnos |
Trosglwyddo Trwydded Forol |
21 diwrnod |
|
Rhybuddion Statudol Iechyd Planhigion |
30 diwrnod gwaith o ddyddiad cadarnhau’r haint i gyhoeddi rhybudd neu lythyr |
|
System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Cronfa Newydd-ddyfodiaid (Ymestyn Gallu Arwyddocaol) |
2 fis |
|
Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Cronfa Newydd-ddyfodiaid (Ymestyn Gallu Arwyddocaol) |
2 fis |
|
Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Newydd |
2 fis |
|
Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Amrywiad Gweinyddol |
2 fis |
|
Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Mân Amrywiad |
2 fis |
|
Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Amrywiad Sylweddol |
2 fis |
|
Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Trosglwyddo |
2 fis |
|
System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Trosglwyddo Cyfuniad |
2 fis |
|
System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Ildio |
2 fis |
|
System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Diddymu |
2 fis |
|
System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd - Hysbysiad |
2 fis |