Ffilmio a ffotograffiaeth ar dir yr ydym yn ei reoli: ein ffioedd

 

Ffilmiau hir

Band Cyllideb 1. Cyllideb gynhyrchu o hyd at £1.25 miliwn.

Os yw nifer y criw a'r cast yn llai na 100, y costau yw:

  • £1,640 y dydd am y ffilmio
  • £820 y dydd am y gwaith paratoi
  • £820 y dydd am y gwaith clirio

Os oes mwy na 100 o bobl, byddai'r pris yn destun trafodaeth fasnachol.

Cyllideb Band 2+ cyllideb gynhyrchu o fwy na £1.25 miliwn.

Os yw nifer y criw a'r cast yn llai na 100 a/neu bod y cyfnod yn dri diwrnod neu lai, y costau yw:

  • £2,050 y dydd am y ffilmio
  • £1,025 y dydd am y gwaith paratoi
  • £1,025 y dydd am y gwaith clirio

Os oes mwy na 100 o bobl a/neu bod y cyfnod yn hwy na phedwar diwrnod, byddai'r pris yn destun trafodaeth fasnachol. Mae’n bosibl y gallwn ostwng ein ffi os bydd y ffilmio yn dod â budd i’r amgylchedd, megis gwella cynefinoedd.

Dramâu teledu

Cyfres rhwydwaith yn y DU neu gyfres gyfyngedig. Band Cyllideb 1 – cyllideb gynhyrchu o hyd at £1.25 miliwn.

Os yw nifer y criw a'r cast yn llai na 50 a/neu bod y cyfnod yn dri diwrnod neu lai, y costau yw:

  • £1,640 y dydd am y ffilmio
  • £820 y dydd am y gwaith paratoi
  • £820 y dydd am y gwaith clirio

Drama ryngwladol, stiwdio neu wedi’i syndicetio. Cyllideb Band 2+ cyllideb gynhyrchu o fwy na £1.25 miliwn.

Os yw nifer y cast a'r criw yn llai na 50 a/neu bod y cyfnod yn dri diwrnod neu lai:

  • £2,050 y dydd am y ffilmio
  • £1,025 y dydd am y gwaith paratoi
  • £1,025 y dydd am y gwaith clirio

Os yw nifer y criw a'r cast yn fwy a/neu bod y cyfnod yn hwy na phedwar diwrnod, byddai'r pris yn destun trafodaeth fasnachol. Mae’n bosibl y gallwn leihau ein ffi os bydd y ffilmio dod â budd i’r amgylchedd, megis gwella cynefinoedd.

Hysbyseb teledu

Mae'r costau fesul diwrnod ar gyfer unrhyw nifer o bobl fel a ganlyn:

  • £3,075 y dydd am y ffilmio
  • £1,025 y dydd am y gwaith paratoi
  • £1,025 y dydd am y gwaith clirio

Sesiynau ffotograffiaeth

Os yw nifer y bobl yn llai na 10, y gost yw £515 am bob hanner diwrnod.

Os yw nifer y bobl yn fwy na 10, byddai'r pris yn destun trafodaeth fasnachol.

Rhaglenni dogfen

Os yw'r ffilmio neu'r ffotograffiaeth yn ymdrin â materion amgylcheddol sy'n rhan o'n cylch gwaith e.e., gwaith cadwraeth natur, gwaith adfer cynefinoedd, gwaith llifogydd ac ati a bod nifer y bobl yn 10 neu lai, rydym yn codi ffi weinyddol untro o £55.

Os yw'r ffilmio neu'r ffotograffiaeth yn ymdrin â materion amgylcheddol nad ydynt yn rhan o'n cylch gwaith a bod nifer y bobl yn 10 neu lai, y gost yw £310 am bob hanner diwrnod.

Ffilmio gan fyfyrwyr neu ffilmio sy'n gysylltiedig â chyrsiau

Ni chodir tâl ar fyfyrwyr sy'n ffilmio fel rhan o'u cwrs.

Cynyrchiadau annibynnol bach

Os oes hyd at 10 o bobl yn y cast a'r criw, rydym yn codi £205 y dydd.

Grwpiau cymunedol

Rydym yn codi £205 y dydd os oes mwy na 15 o bobl yn eich cast a'ch criw. Os oes llai na 15 o bobl, rydym yn codi ffi weinyddol untro o £55.

Sut rydym yn cyfrifo'r costau

Nid yw TAW wedi ei gynnwys yn y prisiau.

Mae ein cost y dydd yn seiliedig ar ein horiau gwaith arferol o 9am tan 5pm.

Rydym yn cynnwys ffi weinyddol oni bai ein bod yn nodi fel arall.

Amser ein staff

Rydyn ni’n codi £500 y diwrnod am amser ein staff. Mae hyn yn cynnwys yr amser sydd ei angen ar gyfer archwilio ymlaen llaw ac unrhyw waith monitro.

Amodau lleol safleoedd

Rhaid i chi ddilyn rheolau ac amodau lleol y safle. Gall yr amodau hyn gynnwys unrhyw ddifrod a wneir i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Bydd amodau lleol safleoedd yn dibynnu ar eich cytundeb ffilmio lleoliad.

Ymateb cyflym

Os oes angen ymateb cyflym i'ch cais, efallai y byddwn yn ychwanegu ffi ychwanegol o 5-10%. Byddai'r pris yn destun trafodaeth fasnachol.

Egwyddorion cynhyrchu cynaliadwy

Rhaid i chi weithio yn unol â'r Egwyddorion Cynhyrchu Cynaliadwy a meddu ar Dystysgrif Albert BAFTA. Rhaid i chi sicrhau bod System Reoli Amgylcheddol ar waith sy'n gymesur â maint eich gweithrediad.

Os nad yw'r rhain ar waith, rydym yn cadw'r hawl i ychwanegu ffi ychwanegol o 5-10%. Byddai'r pris yn destun trafodaeth fasnachol


Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli

Diweddarwyd ddiwethaf