Rhaid i chi gyflogi ecolegydd ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl. Rhaid i'r ecolegydd fod â thrwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae angen adroddiad arolwg gan ecolegydd arnom cyn y gallwn wneud penderfyniad ar geisiadau am drwyddedau rhywogaeth.

Pan fo angen cyflogi ecolegydd

Bydd angen i chi ddefnyddio ecolegydd proffesiynol i gynnal arolwg rhywogaethau a llunio'r adroddiad arolwg. Bydd yr ecolegydd yn sicrhau bod eich prosiect yn lleihau unrhyw effaith ar y rhywogaeth. Bydd yn sicrhau bod eich prosiect hefyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth rhywogaethau a warchodir.

Mae'n rhaid cyflwyno'r adroddiad i'r awdurdod cynllunio lleol cyn y gall wneud penderfyniad ar geisiadau cynllunio.

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod digon o amser i gynnal arolygon rhywogaethau a warchodir. Mae'n rhaid i'r arolygon hyn gael eu cynnal ar yr adeg gywir o'r flwyddyn.

Os oes gennych waith wedi'i gynllunio sy'n mynd i effeithio ar gynefin rhywogaeth, efallai y bydd angen i chi ddiwygio'r gwaith hwnnw i leihau'r effaith.

Dylai eich gwaith leihau unrhyw effaith ar gynefin y rhywogaeth ar bob achlysur.

Ni ddylech wneud unrhyw waith a all effeithio ar y rhywogaeth a warchodir na'u cynefinoedd cyn i arolwg rhywogaethau gael ei gynnal. Gall hyn fod yn drosedd. Nid yw'n esgus dweud nad oeddech yn ymwybodol o fod ym mhresenoldeb rhywogaethau a warchodir.

Yr hyn y dylai'r ecolegydd ei ddarparu

Dylai'r ecolegydd ddarparu adroddiad ysgrifenedig o'r arolwg, gan nodi'r canlynol:

  • yr hyn a ganfuwyd ganddo
  • beth fydd effaith y gwaith arfaethedig ar unrhyw rywogaeth a warchodir ar y safle
  • p’un a oes angen trwydded rhywogaethau a warchodir

Os bydd unrhyw effeithiau i rywogaethau, dylai'r adroddiad gynnwys datganiad dull. Dylai hyn ddangos sut bydd y gwaith yn cael ei wneud i osgoi neu i leihau effeithiau, er enghraifft, drwy newid amseru'r gwaith, neu gynnal nodweddion a ddefnyddir gan y rhywogaeth.

Dylai'r adroddiad nodi os bydd angen arolygon ac ymweliadau monitro ychwanegol. Os nad yw'r rhain yn cael eu cynnwys yn eu cynnig, dylech fod yn ymwybodol y bydd hyn yn peri costau ychwanegol ar ôl y datblygiad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y lliniaru'n effeithiol.

Dod o hyd i ecolegydd

Bydd gan rai awdurdodau lleol restr o ecolegwyr sy'n gweithio yn yr ardal.

Ni allwn argymell ecolegydd ac nid oes gennym restr o ecolegwyr y gallwch ei defnyddio.

Gallwch gysylltu â Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol. Mae gan y sefydliad ganllawiau manwl ar sut i ymgysylltu ag ecolegydd.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf