Os ydych yn dymuno rhyddhau afancod yng Nghymru, hyd yn oed os byddant yn cael eu cadw ar dir caeedig, byddwch angen trwydded gan CNC.

Afancod a’r gyfraith

Caiff yr afanc (Castor fiber) ei restru yn Atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Golyga hyn fod rhyddhau afancod i’r gwyllt heb drwydded yn gyfystyr â throsedd.

Mae ein dehongliad o ganllawiau a gyhoeddwyd ar y cyd gan Defra a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011 yn golygu bod y weithred o ryddhau rhywogaethau ar diroedd caeedig yn gyfystyr â’u rhyddhau “i’r gwyllt” at ddibenion trwyddedu yng Nghymru. Yr unig eithriadau yw tiroedd caeedig artiffisial mewn sw neu amgylcheddau tebyg dan reolaeth lem lle caiff y rhywogaethau eu hynysu rhag yr amgylchedd naturiol.

Gwneud cais am drwydded i ryddhau afancod i’r gwyllt neu ar diroedd caeedig yng Nghymru

Rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod yn datblygu eich cynnig yn unol â Chanllawiau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) ar gyfer Ailgyflwyno Rhywogaethau a Thrawsleoliadau Cadwraethol eraill. Bydd eich cynnig yn cael ei asesu ar sail y canllawiau hyn fel rhan o’r broses drwyddedu. Gan yr ystyrir bod rhyddhau rhywogaethau ar diroedd caeedig yn gyfystyr â’u rhyddhau “i’r gwyllt”, bydd angen i achosion o’r fath gael eu hasesu ar sail y canllawiau hyn, yn cynnwys asesu’r canlyniadau posibl pe bai’r anifail yn dianc.

Bydd angen ichi gyflwyno’r canlynol. Dylai pob un ohonynt fod yn ddogfennau ar wahân neu’n adrannau ar wahân mewn dogfen:

Ffurflen gais ar gyfer rhyddhau rhywogaeth atodlen 9

Mae’r ffurflen gais ar gael yma

Y cynnig a datganiad dull

Rhaid nodi amcanion a nodau’r cynnig, y cerrig milltir, disgrifiadau o’r dulliau a ddefnyddir, yn cynnwys sut y byddwch yn cael gafael ar yr afancod ac yn eu cludo, a sut y gallwch sicrhau eu lles.

Crynodeb o ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid

Mae’n hanfodol ichi ymgysylltu’n gynnar â thirfeddianwyr, cymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill y gallai’r rhyddhau effeithio arnynt, megis rhai â buddiannau pysgota neu gwmnïau cyfleustodau â seilwaith yn yr ardal. Esboniwch sut rydych wedi pennu’r rhanddeiliaid hyn, sut rydych wedi gweithio gyda nhw i drafod unrhyw bryderon a sut rydych wedi cytuno ar fesurau lliniaru pan fo angen.

Hefyd, a wnewch chi gynnwys unrhyw drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion yr amgylchedd neu arbenigwyr ar rywogaethau o CNC.

Asesiad risg cyffredinol

Dylai’r asesiad risg nodi ac ystyried effeithiau posibl, yn cynnwys effeithiau ar y canlynol:

  • ecosystemau lleol
  • risg hydrolegol a pherygl llifogydd
  • pysgod mudol a physgod eraill
  • lledaenu clefydau
  • tiroedd cyfagos
  • seilwaith cyfagos, fel ffyrdd, rheilffyrdd neu gyfleustodau
  • ansawdd dŵr a chyflenwadau dŵr preifat
  • unrhyw safleoedd neu rywogaethau gwarchodedig y gallai’r rhyddhau effeithio arnynt

Os yw tirfeddianwyr cyfagos neu randdeiliaid eraill wedi crybwyll pryderon penodol, dylech sicrhau bod yr asesiad risg yn ystyried y pryderon hynny.

Asesiad risg milfeddygol

Dylid defnyddio’r fformat canlynol a dylid sicrhau bod milfeddyg cymwysedig yn ei lofnodi:

  1. Asesiad risg
  2. Llwybrau risg
  3. Crynodeb o’r ffactorau risg
  4. Crynodeb o’r ffactorau lliniaru
  5. Crynodeb o elfennau ansicr/rhagdybiaethau allweddol
  6. Amcangyfrif o’r risg/tebygolrwydd terfynol
  7. Casgliadau’r asesiad risg
  8. Crynodeb o’r effeithiau/canlyniadau milfeddygol
  9. Crynodeb o’r tebygolrwydd
  10. Cyngor ac opsiynau milfeddygol
  11. Argymhellion
  12. Crynodeb gweithredol

Byddwn yn rhannu’r asesiad risg hwn gyda Swyddfa’r Prif Filfeddyg yn Llywodraeth Cymru ac yn gofyn i staff y Swyddfa am eu cyngor fel rhan o’r broses ymgeisio.

Manylion am y tir caeedig a’r cynllun cynnal a chadw (rhyddhau ar diroedd caeedig yn unig)

Rhaid cynnwys manylion am ddyluniad a deunyddiau’r tir caeedig arfaethedig, a dylid cynnwys cynlluniau a lluniadau fel bo’r angen. Dylai’r cynllun cynnal a chadw nodi’r gyfundrefn archwilio/cynnal a chadw y byddwch yn ei dilyn yn ystod oes yr adeiledd a dylid cynnwys manylion am unrhyw fesurau diogelwch a monitro ychwanegol, megis teledu cylch cyfyng (CCTV).

Cynllun dianc ac ail-ddal (rhyddhau ar diroedd caeedig yn unig)

Rhaid ichi nodi sut y byddwch yn ymateb pe bai afancod yn dianc oddi ar y tir caeedig. Bydd angen ichi gadarnhau y bydd y gweithdrefnau, y personél a’r adnoddau angenrheidiol ar waith ar gyfer canfod ac ail-ddal yn ddi-oed unrhyw anifail a fydd wedi dianc. Er y nodir mai rhywbeth y dylid ei wneud ar gyfer “rhyddhau ar diroedd caeedig yn unig” yw hwn, gall fod yn berthnasol hefyd wrth ryddhau anifeiliaid i’r gwyllt pan fo angen rheoli eu gwasgariad.

Cynllun lliniaru effeithiau (rhyddhau i’r gwyllt yn unig)

Os ydych yn bwriadu rhyddhau afancod i’r gwyllt, bydd angen ichi lunio cynllun hirdymor ar gyfer rheoli unrhyw effeithiau negyddol ar seilwaith neu diroedd cyfagos, er enghraifft yn sgil adeiladu argaeau, cwympo coed neu dyllu.

Strategaeth ymadael

Rhaid cynnwys esboniad manwl o’r hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y prosiect yn ogystal â’r hyn a fydd yn digwydd pe bai’n rhaid dirwyn y prosiect i ben yn gynnar. Ymhellach, dylai’r strategaeth ymadael nodi amgylchiadau a allai arwain at ddod â’r prosiect i ben yn fuan ac esbonio sut y caiff penderfyniadau hollbwysig eu gwneud, a chan bwy.

Dilyn arferion gorau

Mae ceisiadau’n fwy tebygol o lwyddo os byddant yn dilyn canllawiau arferion gorau cyfredol.

Mae’r ddogfen 2013 Captive Management Guidelines for Eurasian Beaver, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Swolegol Brenhinol yr Alban, yn ddogfen gyfeirio ddefnyddiol ar gyfer cynigion i ryddhau afancod ar diroedd caeedig, er na chaiff rhai elfennau (fel defnyddio tagiau clust neu wifrau trydan) mo’u hystyried yn arferion gorau mwyach.

Mae NatureScot wedi cyhoeddi astudiaethau achos a chanllawiau ar gyfer yr Alban, a dylai pawb sy’n datblygu cais i ryddhau afancod yng Nghymru eu darllen. Hefyd, ceir nifer o astudiaethau achos defnyddiol yn Lloegr.

Pryd y cewch wybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus

Anelwn at wneud penderfyniad ynglŷn â’r rhan fwyaf o drwyddedau o fewn 40 diwrnod gwaith o dderbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol. Fodd bynnag, gan fod rhyddhau afancod yn rhywbeth cymharol newydd yng Nghymru, mae’n bosibl y bydd achosion o’r fath yn cael eu hystyried yn achosion sydd o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol ac efallai y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus. Ymhellach, bydd angen ystyried achosion o’r fath dan Ganllawiau’r IUCN ar gyfer Ailgyflwyno Rhywogaethau a Thrawsleoliadau Cadwraethol eraill. Golyga hyn y byddwn, o bosibl, angen mwy o amser i wneud penderfyniad.

Gallwch ein helpu i ystyried eich cais yn gyflym trwy sicrhau eich bod wedi cyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol. Byddwn yn eich hysbysu wrth i’r broses benderfynu fynd rhagddi.

Diweddarwyd ddiwethaf