Trwyddedu Infertebratau
Anifeiliaid heb asgwrn cefn yw infertebratau. Maen nhw'n cynnwys pryfed (fel gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod), corynnod, cramenogion (yn cynnwys moch coed a chrancod), molysgiaid (fel malwod a chregyn gleision), mwydod ac anifeiliaid microsgopig.
Mae dros 25,000 o rywogaethau yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw'n ddeniadol ac yn rhyfeddol, ac maen nhw'n hynod bwysig wrth drosglwyddo paill, ailgylchu, rheoli plâu a bod yn rhan o'r gadwyn fwyd.
Deddfwriaeth y DU
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), yn rhestru tua 70 o rywogaethau o infertebratau ar Atodlen 5. Mae ganddyn nhw wahanol lefelau o warchodaeth. Mae troseddau’n cynnwys cyfuniadau o’r canlynol, yn dibynnu ar ba mor brin yw’r rhywogaeth:
- Gwerthu, cynnig gwerthu / neu roi i’w gwerthu
- Meddu
- Cymryd, lladd neu anafu’n fwriadol
- Difa neu ddinistrio ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
- Tarfu ar y rhywogaeth yn ei man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
- Rhwystro mynediad i’w man cysgodi / llochesu’n fwriadol / ddi-hid
Mae rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod yn llawn dan y Ddeddf yn cynnwys britheg y gors, mursen Penfro, cricsyn y tes, berdysyn gwisgi, gelen feddyginiaethol a'r fisglen berlog, ymhlith eraill.
I gael crynodeb o sut mae’r gyfraith yn gwarchod infertebratau, gweler Infertebratau a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru.
Trwyddedu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru‘n rhoi trwyddedau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) at ddibenion penodol er mwyn i chi allu gwneud rhai gweithgareddau heb dorri’r gyfraith. Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol:
- gwyddonol ac addysgol
- gosod modrwy neu nod
- gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol
- gwarchod unrhyw gasgliad swolegol neu fotanegol
- ffotograffiaeth
- iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
- atal clefyd rhag lledaenu
- atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati
Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwneud gwaith datblygu o dan y ddeddfwriaeth hon.
Pwy all wneud cais am drwydded
Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig
Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.