Mae dwy rywogaeth o forloi i'w cael o gwmpas y Deyrnas Unedig, sef Morlo Llwyd yr Iwerydd, a'r Morlo Cyffredin (Phoca vitulina). Er gwaetha’r enwau, y morlo llwyd sydd fwyaf cyffredin yng Nghymru, o bell ffordd.

Morloi a'r gyfraith

Ni allwch ladd, anafu na chymryd morloi.

Pryd nad oes angen trwydded

Ni ystyrir ei bod yn drosedd cymryd neu geisio cymryd morlo sydd wedi’i anafu neu forlo sy’n sâl er mwyn edrych ar ei ôl ac yna'i ryddhau.

Pryd mae angen trwydded

Gallwn roi trwyddedau at y dibenion canlynol:

  • dibenion gwyddonol neu addysgol
  • gerddi a chasgliadau sŵolegol
  • lleihau gwarged y boblogaeth at ddibenion rheoli
  • diogelu iechyd anifeiliaid neu iechyd pobl neu ddiogelwch y cyhoedd
  • diogelu fflora neu ffawna o fewn ardaloedd gwarchodedig

Morloi a physgodfeydd

Ers 1 Mawrth 2021 nid oes amddiffyniad ar gyfer lladd neu geisio lladd morlo i'w atal rhag achosi difrod i bysgodfeydd - mae’r amddiffyniad hwnnw, a alwyd yn ‘netsman’s defence’ yn Saesneg, wedi ei ddiddymu o ddeddfwriaeth.

Mewn sefyllfaoedd o wrthdaro posibl rhaid i chi ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru, swyddogion cyswllt bywyd gwyllt yr heddlu, a'r RSPCA. Byddwn yn cydweithio â chi i benderfynu ar gamau gweithredu priodol i ddiogelu pysgodfeydd.

Gwneud cais am drwydded i ladd neu gymryd morloi

Gwneud cais am drwydded i ladd neu gymryd morloi

Diweddarwyd ddiwethaf