Trwyddedau Mamaliaid Bach
Mae mamaliaid bach, at ddibenion y dudalen hon, yn cynnwys llygod pengrwn, llygon, llygod, llygod mawr, gwahaddod a draenogod. Gallwch gael gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer mamaliaid eraill ar y tudalennau canlynol:
- Trwyddedau ystlumod
- Trwyddedau pathewod
- Trwyddedau dyfrgwn
- Trwyddedau Moch Daear a roddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru
- Trwyddedau ceirw
- Trwyddedau'r bele a'r ffwlbart
- Trwyddedau'r wiwer goch
- Trwyddedau llygoden bengron y dŵr
- Thrwyddedau Rhywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop
Mae mamaliaid bach yn cynnwys pryfysorion, fel draenogod, gwahaddod a llygon, a chnofilod, fel llygod a llygod pengrwn. Nid yw pob rhywogaeth yn cael ei gwarchod, ac mae rhai rhywogaethau'n cael eu gwarchod yn fwy nag eraill.
Ni all y dudalen hon roi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg mamaliaid, ond mae'n gyflwyniad i ddangos sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.
Deddfwriaeth y DU
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), 'y Ddeddf', yn rhestru sawl rhywogaeth o famaliaid ar Atodlen 6, sy'n gwahardd eu lladd neu eu cymryd mewn rhai ffyrdd. Maen nhw'n cynnwys y mamaliaid bach canlynol:
- Draenog, Erinaceus europaeus
- Llygon, Soricidae
- Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius
Mae llygoden bengron y dŵr wedi'i rhestru ar Atodlen 5 y Ddeddf hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau llygoden bengron y dŵr'.
Deddfwriaeth Ewropeaidd
Nid oes yr un o'r rhywogaethau sy'n cael sylw yma yn cael eu gwarchod dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ('y Rheoliadau Cynefinoedd'). Mae'r pathew wedi'i restru ar atodlen 5 y Rheoliadau Cynefinoedd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau pathewod'.
Trwyddedau
Mae CNC yn rhoi trwyddedau dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol, er mwyn i chi allu cyflawni rhai gweithgareddau heb dorri'r gyfraith. Gallwn roi trwyddedau at y dibenion canlynol:
- Gwyddonol ac addysgol
- Modrwyo neu farcio
- Gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd arbennig
- Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
- Ffotograffiaeth
- Iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
- Atal clefyd rhag lledaenu
- Atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati
Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwaith datblygu dan y ddeddfwriaeth hon.
Trwydded cyffredinol 017
Trwydded cyffredinol 019
Trwydded cyffredinol 020
Pwy all wneud cais am drwydded
Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig
Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.