Gwneud cais i drosglwyddo trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am i drwydded wastraff gyfan neu ran ohoni gael ei throsglwyddo i chi.
Cyn i chi ddechrau
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi:
- unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
- rhif y drwydded a manylion y safle
- manylion pa ran(nau) rydych am eu trosglwyddo i chi
- gallu technegol y gweithredwr
- manylion systemau rheoli
- a yw troseddau yn effeithio ar bobl berthnasol
- a yw ansolfedd neu fethdaliad yn effeithio ar bobl berthnasol
- y dyddiad rydych yn dymuno trosglwyddo'r drwydded
-
- ar gyfer trosglwyddo trwydded offer symudol, dylai hyn fod o leiaf 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y cais
- ar gyfer trwyddedau safle, dyma'r dyddiad y bydd y deiliad newydd arfaethedig yn rheoli'r cyfleuster
- pa ddatganiadau i’w gwneud
- costau trwyddedau gwastraff
- sut i dalu
Dogfennau i'w uwchlwytho
-
Disgrifiad o’r hyn yr ydych am ei gael wedi’i drosglwyddo i chi.
- Os yw hwn ar gyfer trosglwyddiad rhannol, bydd angen i chi ddarparu dau gynllun:
- un ar gyfer y rhannau sy'n weddill gyda'r deiliad presennol
- un ar gyfer y rhannau y bwriedir eu trosglwyddo i'r deiliad newydd
- Eich system reoli, os yw'n newid.
- Tystiolaeth bod gennych, neu eich bod yn gweithio tuag at, ‘gymhwyster perthnasol’.
- Os ydych am hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth.
- Datganiad wedi'i lofnodi gan ddeiliad presennol y drwydded, neu'ch tystiolaeth na allwch ddod o hyd iddynt.
Graddfeydd amser
Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen dau fis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.
Os oes unrhyw beth ar goll o'ch cais byddwn yn gofyn i chi amdano.
Efallai y byddwn yn gofyn am fwy o wybodaeth ar gyfer senarios mwy cymhleth. Gallai hyn fod lle:
- mae nifer o weithgareddau ar y safle
- mae mwy nag un cais am drosglwyddiad rhannol o'r drwydded
- mae gollyngiadau i aer, dŵr neu dir yn cael eu rhannu rhwng y gweithredwyr
Yn yr achosion hyn, mae angen i ni fod yn glir pwy fydd yn gwneud beth ar ôl y trosglwyddiad neu drosglwyddiadau er mwyn gwneud y newidiadau cywir i bob trwydded.
Diweddarwyd ddiwethaf