Cofrestru esemptiad i drin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff

Mae esemptiad WEEE yn caniatáu ichi drwsio neu ailwampio gwahanol fathau o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE). Yna gellir ailddefnyddio'r cyfarpar hwn, neu unrhyw rannau sydd wedi'u datgymalu, at ei ddiben gwreiddiol.

Mae enghreifftiau o weithgareddau trwsio ac awilampio’n cynnwys:

  • Busnes sy'n casglu oergelloedd y mae eu goleuadau wedi torri neu sydd â drysau coll, ac sy’n eu trwsio i'w hailwerthu
  • Grŵp adfer dodrefn sy'n casglu setiau teledu a nwyddau gwyn o gartrefi ac yn eu hailwampio i'w hailddefnyddio
  • Cwmni sy'n casglu offer TG diangen gan fusnesau eraill, y mae'n ei ddatgymalu ac yna'n ei ailadeiladu yn ei ddepo ei hun i'w werthu

Cyn i chi gofrestru

Gwneud cais i'r rheoleiddiwr cywir

Os yw eich busnes wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i chi gofrestru gyda ni.

Os yw eich busnes yn Lloegr, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd, yn yr Alban, SEPA,, ac yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â NIEA.

Yr hyn na allwch ei gofrestu’n esemptiad

Ni allwch gofrestru:

  • Dinwyo sylweddau sy’n teneuo’r osôn
  • Trin WEEE sydd i’w waredu i dirlenwi neu i’w losgi
  • Cymysgu gwastraff peryglus gyda gwastraff peryglus neu wastraff sydd ddim yn beryglus eraill
  • Derbyn neu drin bylbiau neu diwbiau goleadau fflworoleuol

Os dim ond storio WEEE yr ydych

Os dim ond storio WEEE yr hoffech chi cyn iddo gael ei drin yn rhywle arall, darllenwch am storio gwastraff a sut i gofrestru esemptiad S2.

Cofrestrwch eich esemptiad ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff

Mae'r esemptiad yn para tair blynedd ac yn costio £840.

Ar ddiwedd y cyfnod tair blynedd, bydd angen i chi wneud cais newydd am esemptiad.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn gwirio manylion eich cais ac yn trefnu i un o'n harolygwyr ymweld â'ch safle. Byddant yn gwirio eich cyfleusterau i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cadw at eich cyfrifoldebau.

Os yw popeth yn foddhaol, byddwn yn cofrestru eich safle ac yn rhoi gwybod i chi drwy'r post neu drwy e-bost.

Pan fyddwch yn cael cadarnhad o'ch cofrestriad, gallwch ddechrau gweithredu. Rhaid ichi beidio â gweithredu nes ichi gael ein cadarnhad.

Amodau allweddol

Yr amodau allweddol yw:

  • Rhaid defnyddio’r technegau trin, adfer ac ailgychu gorau posib (BATRRT) wrth drin y gwastraff – am fwy o wybodaeth edrychwch ar ganllawiau BATRRT am fwy o wybodaeth edrychwch ar ganllawiau BATRRT
  • Dylai’r ardal ble caiff WEEE ei storio neu ei drin fod ag arwyneb anhydraidd gyda chyfleusterau ar gyfer casglu colledion a, ble y bo’n addas, tywalltwyr a glanhawyr-diseimyddion.
  • Dylai’r ardal ble storir WEEE gael gorchudd gwrthdywydd – cynhwysydd gyda gorchudd neu adeilad â tho.
  • Dylid storio cydrannau WEEE cyfan a’r darnau mewn modd addas er mwyn rhwystro unrhyw ddifrod iddynt a fyddai’n peri iddynt beidio cael eu hailddefnyddio neu’n achosi perygl i’r amgylchedd.
  • Dylid storio gwastraff peryglus, megis batris, mewn cynhwyswyr addas.
  • Y prif bwrpas yw sicrhau fod y WEEE yn cael ei ddefnyddio eto fel offer cyfan, os yw’n bosib. Os nad yw hyn yn bosib, gellir datgymalu’r offer er mwyn defnyddio’r darnau eto. Os nad yw hynny’n bosib, gellir datgymalu’r offer er mwyn ailgylchu’r defnyddiau.

Cysylltu â ni

Os hoffech gymorth i lenwi'r ffurflen hon, canllawiau ar esemptiadau, neu wneud unrhyw newidiadau i'ch cofrestriad, ffoniwch 0300 065 3000 rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu anfonwch e-bost atom: oteg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf