Penderfyniad rheoleiddio 086: Dadbacio a storio offer diogelu personol nas defnyddiwyd (PPE)

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Awst 2023, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol i dderbyn, storio, dad-becynnu â llaw a datgymalu cyfarpar diogelu personol gwastraff nas defnyddiwyd (PPE) ac sydd wedi dod o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC).

Os gallwch ddilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cewch wneud y canlynol:

  • derbyn offer diogelu personol gwastraff nad yw'n beryglus nas defnyddiwyd (Rhestr Gwastraff cod 15 02 03), i’w storio, eu dad-becynnu â llaw, a’u datgymalu.
  • trin y deunydd hwn ymhellach yn y lleoliad hwnnw ar yr amod bod trwydded neu esemptiad yn ei le sy'n caniatáu i'r gweithgaredd hwnnw gael ei gyflawni.

Fel rheol, byddwch yn cyflawni trosedd os ydych yn derbyn gwastraff ar safle y mae’n ofynnol cael trwydded gwastraff ar ei gyfer ond nad oes trwydded o’r fath ganddo. Ond os yw eich gweithgaredd yn bodloni’r disgrifiad hwn, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi os ydych yn cydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Er mwyn cydymffurfio â'r penderfyniad rheoleiddiol hwn:

  • rhaid i'ch gweithgaredd fodloni'r disgrifiad a nodir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn
  • rhaid i chi ond derbyn gwastraff sydd wedi dod o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n dwyn y cod LoW cywir a disgrifiad, gan gynnwys Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff y Ddyletswydd Gofal sy’n manylu ar yr holl gyfarpar diogelu personol gwastraff nas defnyddiwyd a dderbynnir ar eich safle.

    Dylai hyn gofnodi:
    - y dyddiad cyrraedd
    - y math o wastraff, gan gynnwys y cod LoW 15 02 03
    - y swm a dderbyniwyd

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid eich rhwymedigaethau cyfreithiol o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn dadbacio ac yn storio offer diogelu personol nas defnyddiwyd.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf