Cynlluniau o'r lleoliad a lluniadau technegol ar gyfer cynlluniau ynni dŵr

Pam mae angen cynlluniau o'r lleoliad a lluniadau technegol arnom?

Maen nhw'n ein galluogi i weld sut y gall dyluniad yr adeileddau ar gyfer eich cynllun ynni dŵr effeithio ar yr amgylchedd afon. Bydd angen i chi ddarparu cynlluniau o'r lleoliad a lluniadau o safon ar gyfer gwaith parhaol wrth wneud unrhyw gais am drwydded neu gais cynllunio.

Dylai cynlluniau a lluniadau technegol gynnwys manylion am leoliad a dyluniad unrhyw adeiledd sy'n gysylltiedig â chronni, dosbarthu, tynnu, trawsgludo a gollwng dŵr. Bydd angen i chi hefyd gynnwys manylion am sianel bresennol yr afon yn eich lluniadau, gan gynnwys y glannau a'r gwely, ynghyd â dangos sut y gall y rhain newid gyda'ch cynllun.

Ar gyfer cynllun ynni dŵr â chwymp mawr sy’n dibynnu ar lif yr afon arferol, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • y gored cronni dŵr a/neu fewnlif cysylltiedig â sgrin
  • y llifddor o'r mewnlif i'r lan
  • llwybr y llifddor, gan gynnwys croesfannau afon
  • asgellfuriau, adeileddau ategol, a graddau unrhyw fesurau lliniaru arfaethedig ar gyfer sefydlogi'r gwely neu'r glannau
  • ysgol bysgod neu ramp osgoi

Er bod ein canllawiau ynni dŵr yn cynnwys ein cyngor ynghylch egwyddorion cynllunio ar gyfer adeileddau gollwng dŵr, mae'r adeileddau hyn, llwybr y llifddor, croesfannau nentydd/afonydd, ac unrhyw waith sefydlogi glannau neu wely sy'n gysylltiedig â nhw, yn cael eu rheoleiddio drwy gydsyniadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin, Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd, a chydsyniadau Cynllunio Gwlad a Thref, yn hytrach na thrwy drwyddedau tynnu a chronni dŵr. Fodd bynnag, byddwn am sicrhau bod ein hegwyddorion cynllunio'n cael eu cymhwyso drwy'r llwybrau hyn.

Bydd angen i chi hefyd ddarparu lluniadau ar gyfer unrhyw waith dros dro sy'n gysylltiedig â'r broses adeiladu ar gyfer Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd neu gydsyniadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin.

Byddwn yn asesu'r lluniadau technegol a gyflwynir gyda chais er mwyn gweld a fydd yr adeileddau hydrolig yn gweithredu'n unol â'r trefniadau tynnu dŵr arfaethedig, ac er mwyn sicrhau y bydd y cynllun yn bodloni gofynion eraill ar gyfer diogelu'r amgylchedd afon fel a amlinellwyd gennym yn ein canllawiau. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau dylunio i sicrhau bod yr hollt llif isel o'r maint cywir, ac y bydd y ramp osgoi i bysgod yn sicrhau amodau llif addas ar gyfer mudo pysgod.

Bydd yn hawdd asesu cynllun ynni dŵr sydd wedi'i gyflwyno'n eglur mewn lluniadau technegol, a bydd hynny'n arwain at benderfyniad cyflymach ynghylch y drwydded. Gall cais ar gyfer cynllun nad yw wedi'i ddylunio'n dda, sy'n methu ymgorffori'n hegwyddorion cynllunio amgylcheddol, neu sy'n cynnwys lluniadau o ansawdd isel neu luniadau anghyflawn, gael ei ddychwelyd, arwain at ymestyn yr amser a gymerir i ddod i benderfyniad ynghylch y drwydded, neu ei wrthod.

Bydd y lluniadau technegol a gymeradwyir gennym yn ffurfio rhan o'r trwyddedau tynnu a chronni dŵr. Cânt eu defnyddio at ddibenion cydymffurfio. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r gored mewnlif a'r adeileddau cysylltiedig gael eu hadeiladu yn unol â'r cynllun cymeradwy. Mewn achosion lle maent wedi'u hadeiladu mewn lleoliad gwahanol, neu yn ôl cynllun gwahanol i'r hyn a bennwyd ar y lluniadau a drwyddedwyd, gallwn gymryd camau gorfodi a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i chi gywiro hyn yn unol â'n polisi gorfodi a sancsiynau.

Pa luniadau sydd eu hangen?

Bydd angen i chi ddarparu'r lluniadau canlynol ar gyfer pob cynllun ynni dŵr:

  • map o'r lleoliad neu gynllun bloc ar raddfa o 1:5,000, 1:10,000 neu fwy, yn amodol ar faint y datblygiad, gan ddangos ble caiff yr adeileddau arfaethedig eu lleoli mewn perthynas â nodweddion lleol eraill.
  • lluniadau cynllun, proffil a thrawstoriad ar gyfer yr adeiledd cronni dŵr a/neu adeiledd y mewnlif, yr ysgol bysgod / ramp osgoi, a'r ollyngfa, a hynny ar raddfa cydraniad o 1:20 neu uwch er mwyn dangos y topograffi presennol a'r nodweddion naturiol, ynghyd â manylion y cynllun arfaethedig, gan gynnwys gwaith addasu glannau a gwely'r sianel.

Sylwer bod y lluniadau hyn yn ogystal ag unrhyw fapiau sy'n dangos ffiniau perchenogaeth sy'n arddangos hawliau mynediad.

Yn achos cynlluniau bach, fel arfer gellir cynnwys manylion am yr ysgol bysgod / ramp osgoi yn y lluniadau ar gyfer adeiledd y mewnlif. Ar gyfer cynlluniau mwy, neu safleoedd lle mae'r ysgol bysgod / ramp osgoi wedi'i leoli i ffwrdd o brif adeiledd y mewnlif, neu lle mae'n ofynnol cael cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer llwybr pysgod, yna mae'n bosibl y bydd angen lluniadau ychwanegol er mwyn dangos manylion dylunio'r ysgol bysgod.

Yn y canllaw hwn, cyflwynir cyfres o luniadau enghreifftiol sy'n dangos cynllun ynni dŵr arferol â chwymp mawr sy’n dibynnu ar lif yr afon. Maent wedi'u llunio i ddangos dyluniad cyffredinol sy'n cynnwys system rheoli goddefol, cored gorlif, a mewnlif â gollyngfa gysylltiedig. Maent yn cynnwys y nodweddion a gwybodaeth dylunio allweddol y dylid eu cynnwys ar luniadau technegol.

Ar y golwg cyntaf, gall y rhestr o ofynion gwybodaeth ar gyfer lluniadau technegol ymddangos yn helaeth, ond maent yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau bod cynllun ynni dŵr o unrhyw faint yn cael ei gynllunio a'i adeiladu yn briodol.

Darperir rhestr wirio o ofynion ar ddiwedd yr adran hon er mwyn helpu ymgeiswyr i gwblhau eu lluniadau.

Beth yw'r safon ofynnol ar gyfer lluniadau?

Rhaid sicrhau bod lluniadau wedi'u cyflwyno'n eglur a'u bod yn cynnwys y manylion dylunio allweddol a restrir yn yr adran nesaf. Byddant fel arfer wedi'u llunio gan ddefnyddio meddalwedd dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), a'u cyflwyno ar ffurf dogfen PDF. Byddwn yn derbyn cynlluniau â llaw ar bapur A4 neu A3 ar yr amod eu bod o safon dda ac wedi'u llunio ag inc, a'u bod yn cynnwys y manylion a restrir isod. Ni fyddwn yn derbyn lluniadau pensil.

Pa wybodaeth sydd angen ei chynnwys ar y lluniadau?

Dylid sicrhau bod pob lluniad yn cydymffurfio â'r gofynion canlynol:

  • yn cynnwys pennawd sy'n disgrifio'r lluniad
  • yn cynnwys enw'r safle a'r prosiect
  • wedi'i lunio i raddfa, lle nodir y raddfa mewn perthynas â maint y papur (e.e. 1:50 ar bapur A3)
  • yn cynnwys dyddiad, awdur, a rhif fersiwn y lluniad

Mae'n ofynnol gennym fod lefelau a dimensiynau allweddol wedi'u cynnwys ar luniadau.

Dylid nodi dimensiynau mewn unedau metrig. Ar luniadau manwl, dylid eu nodi mewn milimetrau, e.e. 1250 mm.

Dylid nodi lefelau fel gwerth absoliwt mewn metrau uwch na’r seilnod ordnans (mAOD) hyd at dri phwynt degol, e.e. 68.395 metr. Gellir casglu lefelau absoliwt sy'n deillio o arolwg topograffig trwy ddefnyddio offer tirfesur GPS, neu eu trosglwyddo o feincnod lleol. Dylid cynnwys manylion am leoliad ac uchder y meincnod(au) lleol gyda'ch lluniadau technegol.

Gwybodaeth dopograffig

Bydd angen i luniadau gynnwys gwybodaeth am nodweddion y sianel afon naturiol, y tirffurf cyfagos, ac unrhyw nodweddion ffisegol naturiol eraill sy'n bresennol cyn dechrau unrhyw waith adeiladu. Gellir casglu'r wybodaeth hon drwy gynnal arolwg topograffig o'r safleoedd arfaethedig ar gyfer y mewnlif a gollyngfa er mwyn cael mesuriadau ar y safle. Dylai'r rhain gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • amlinelliad o sianel yr afon (gwaelod y lan), a mesuriadau o led y sianel i fyny ac i lawr yr afon o'r pwyntiau arfaethedig ar gyfer y mewnlif a'r ollyngfa
  • trawstoriadau o sianel yr afon ar y pwyntiau arfaethedig ar gyfer y mewnlif a'r ollyngfa
  • amlinelliad o frigau'r glannau, a'u huchder (y pwynt lle mae llethr y lan yn newid o sianel yr afon i'r defnydd tir cyfagos)
  • proffil hir o wely naturiol yr afon mewn rhannau lle datblygir adeileddau
  • lleoliad unrhyw nodwedd amlwg naturiol yn y sianel neu ar y glannau, megis isafonydd, ardaloedd erydu, barrau graean, brigiadau creigiog neu gerrig mawrion.

Manylion am y gored cronni dŵr ac adeiledd y mewnlif

Mae'r dyluniad hydrolig ar gyfer y gored cronni dŵr ac adeiledd y mewnlif yn allweddol o ran sicrhau bod y llif dŵr wedi'i ddosbarthu'n briodol rhwng yr hyn y trwyddedir ei dynnu a'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer diogelu'r ecoleg yn y rhan o’r afon sydd wedi colli dŵr.

Mae felly'n hanfodol bod perfformiad hydrolig y gored ac adeiledd y mewnlif wedi'i asesu'n gywir ac wedi'i ymgorffori yn y cynllun. Rhaid i luniadau technegol gynnwys manylion am y dimensiynau ac uchderau allweddol ar gyfer y gored ac adeiledd mewnlif sy'n darparu rheolaeth hydrolig, a dylent gynnwys y canlynol:

  • lled ac uchder y crib ar gyfer rhannau mewnlif a llif gweddilliol y gored arfaethedig
  • lefelau presennol ac arfaethedig gwely'r afon wrth ymyl yr adeiledd, ynghyd â hyd y cilddwr a grëir gan y croniad dŵr
  • lled, dyfnder a lefel wrthfwaol yr hollt llif isel, ac unrhyw bwynt gollwng arall, fel agoriad estyll atal, llwybr llyswennod, neu lwybr mudo pysgod
  • lled, hyd, dyfnder a lefel lonydd y dŵr ar gyfer y plymbyllau
  • lled, hyd, dyfnder a'r lefel wrthfwaol ar gyfer hollt all-lif y plymbwll
  • y llifddor a'i ddiamedr
  • llwybr llyswennod

Rydym hefyd yn ystyried bod asgellfuriau, ac unrhyw waith sefydlogi'r glannau neu'r gwely, fel cerrig mawrion, yn rhan o’r gored cronni dŵr ac adeiledd y mewnlif oherwydd eu bod yn nodweddion peirianyddol sy'n effeithio ar y forffoleg naturiol yn sianel yr afon. Dylid sicrhau y defnyddir cyn lleied o fesurau sefydlogi glannau a gwely'r afon â phosibl, a'u bod ond yn cael eu defnyddio lle mae cyfrifiadau dylunio'n dangos bod angen profedig i'w gweithredu er mwyn cynnal sefydlogrwydd y sianel a'r adeiledd, a lle y gellir dangos na fyddai dulliau biobeirianneg yn addas.

Dylid cynnwys math, lleoliad, graddau ac uchder pob mesur sefydlogi arfaethedig yn y lluniadau technegol.

Manylion am yr ysgol bysgod neu ramp osgoi

Fel y manylwyd ynghynt yn y canllaw hwn, dylid dylunio llwybrau pysgod ffurfiol, a dyluniadau mwy ffurfiol o rampiau osgoi, yn unol â safonau a amlinellir yn y Fish Pass Manual er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'r amodau llif penodol ar gyfer mudo pysgod. Bydd rhai o uchderau a dimensiynau penodol y llwybrau hyn yn fanwl gywir, a dylid eu cynnwys yn y lluniadau technegol. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • hyd, lled, dyfnder a lefel lonydd y dŵr ar gyfer pyllau
  • lled, dyfnder a lefel wrthfwaol yr holltau rhwng pyllau
  • uchder crib y gored rhwng pyllau
  • cyfanswm hyd adeiledd y llwybr

Mae rampiau osgoi creigiog yn adeileddau llai ffurfiol y gall fod yn anos weithiau darparu dyluniad manwl ar eu cyfer. Ar gyfer rampiau osgoi creigiog sy'n seiliedig ar safonau dylunio'r Fish Pass Manual, dylai lluniadau gynnwys dimensiynau ac uchderau tebyg i rai'r ysgolion pysgod ffurfiol uchod. Ar gyfer rampiau osgoi creigiog sy'n ceisio efelychu nodweddion lleol yn yr afon, dylai'r lluniadau technegol gynnwys y canlynol, o leiaf:

  • amlinelliad o adeiledd y ramp, gan gynnwys dimensiynau cyfanswm y lled, y dyfnder a’r hyd
  • hyd, lled, dyfnder a lefel lonydd y dŵr ar gyfer y pwll cyntaf i lawr yr afon o hollt lefel isel y gored mewnlif
  • llwybr sianel canolig y llif isel trwy'r ramp

Dylid cynnwys lleoliad, dimensiynau ac uchderau pyllau a sianeli canolig lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Manylion am adeiledd yr ollyngfa

Mae'r wybodaeth allweddol ofynnol ar gyfer dangos dyluniad yr ollyngfa yn cynnwys safle'r ollyngfa o'i gymharu â sianel yr afon, y mesurau a gymerwyd i leihau cyflymder y llif o'r ollyngfa, a'r adeileddau a ddefnyddir i adeiladu'r cefnfur, sianel yr ollyngfa, ac unrhyw waith sefydlogi glannau neu wely'r afon. Mae'r gofynion allweddol ar gyfer lluniadau technegol ar gyfer gollyngfeydd fel a ganlyn:

  • lleoliad a diamedr y bibell ffrwd isaf
  • lefelau gwrthfwaol y bibell ffrwd isaf ar y pwynt gollwng
  • adeiledd sianel yr all-lif
  • lefel y gwely ym mhrif sianel yr afon ar bwynt ei chydlifiad â sianel yr all-lif
  • uchderau'r adeileddau lleihau cyflymder llif ar yr ollyngfa
  • amlinelliad o unrhyw waith sefydlogi'r glannau a gwely'r afon, gan gynnwys cefnfur, ac uchderau cysylltiedig

Rhestr wirio ar gyfer lluniadau

Dylech gynnwys y lluniadau canlynol gyda'ch cais am drwydded:

  • cynllun o'r lleoliad (gan gynnwys y mewnlif, llwybr y llifddor, tŷ'r tyrbin a'r ollyngfa)
  • cynllun, trawstoriad a phroffil hir o adeiledd y mewnlif
  • cynllun, trawstoriadau a phroffil hir ar gyfer ysgol bysgod / ramp osgoi (lle bo gofyniad amdanynt ar wahân)
Diweddarwyd ddiwethaf