Lleoli cored mewnlif ar gyfer cynllun ynni dŵr

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau effaith amgylcheddol cored mewnlif yw pennu'r lleoliad cywir iddi yn y cwrs dŵr. Yn aml, gall rhai cynlluniau confensiynol gael effeithiau amgylcheddol niweidiol dim ond oherwydd eu bod wedi'u lleoli yn y man anghywir a bod egwyddorion cynllunio sylfaenol wedi'u hanwybyddu. Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad oes gan rai afonydd neu nentydd leoliadau addas ar gyfer adeiladu cored.

Gall y buddion a geir o ganlyniad i leoli adeileddau'n dda gynnwys y canlynol:

  • ei gwneud yn bosibl adeiladu adeiledd hydrolig llai
  • lleihau'r angen i wneud gwaith sefydlogi glannau neu wely'r afon
  • cynyddu sefydlogrwydd adeileddol
  • lleihau'r angen i wneud gwaith cynnal a chadw
  • lleihau'r ymdrech a chostau adeiladu

Dylid cynllunio coredau mewnlif fel eu bod yn gweddu i nodweddion penodol pob safle gyda'r nod o ail-greu nodweddion sianel naturiol cyfagos. Dylid eu cynllunio gan ystyried ‘dull gydol oes’ o'r cam gosod, trwy gyfnod eu gweithredu a'u cynnal a'u cadw a hyd at eu datgomisiynu. Gall dyluniad ymgorffori sawl egwyddor cynllunio arfer da, ond nid oes ‘un ateb sy'n addas i bob sefyllfa’.

Gellir nodi cyfleoedd o ran pennu safleoedd isel eu heffaith ar gyfer coredau trwy ystyried y canlynol:

  • y nodweddion naturiol a geir mewn afon
  • daeareg leol
  • deunydd gwely'r afon (maint, siâp a swm)
  • proffiliau ac uchder glannau'r afon
  • graddiant y sianel a'i safle o fewn y proffil hir yn gyffredinol
  • cynefin glannau'r afon (e.e. osgoi coed neu nodweddion gwerthfawr eraill ar lan yr afon)4

Graddiant gwely'r afon, uchder y gored, a hyd y cilddwr

Dylid lleoli coredau mewnlif newydd ar hydoedd sydd â gwely afon serth, a sicrhau bod eu cribau yn isel o'u cymharu â lefel naturiol gwely'r cwrs dŵr i fyny'r afon. Dylid eu lleoli ar risiau, sgydau neu raeadrau naturiol yn sianel yr afon, neu'n uniongyrchol i lawr yr afon ohonynt. Bydd hyn yn lleihau dyfnder a hyd y cilddwr a grëir i fyny'r afon o'r gored ac yn lleihau'r gofod y gellid dal a chronni gwaddod ynddo. Mae gwaddod yn debygol o lenwi cilddyfroedd bach yn gyflym gan ei gwneud hi'n bosibl i'r broses trosglwyddo gwaddod naturiol ailddechrau dros ben y gored.

Mae trosglwyddo gwaddod yn debygol o barhau os nad yw'r cilddwr yn fwy na childdyfroedd neu nodweddion pwll cyfagos eraill sydd wedi’u ffurfio’n naturiol lle mae priodoleddau sianel yr hyd afon yn debyg i'r rheiny a geir ar safle'r gored.

Ceir hydoedd afon â graddiant gwely isel ar yr ucheldir, yn enwedig ar lwyfandir neu rostir, lle gall croniadau dŵr gael effaith sylweddol ar drosglwyddo gwaddod. Mae gan lawer o'r sianeli â graddiant isel a geir mewn dalgylchoedd blaenddwr briddoedd mawn. Mae'r lleoliadau hyn yn anaddas ar gyfer coredau gan y gall eu cilddyfroedd newid yr hydroleg leol, gan arwain at ansefydlogrwydd gwely a glannau'r cwrs dŵr.

Gellir lleihau effaith cored newydd drwy lenwi'r cilddwr i fyny'r afon gyda cherrig mawrion neu waddod bras, ar ôl y gwaith adeiladu, hyd at lefel sydd union o dan grib y gored. Bydd hyn yn lleihau'r gofod sydd ar gael i ddal gwaddod sy'n llifo i lawr yr afon a'i gwneud yn bosibl i waddod ddechrau symud yn ei flaen unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi na ddylid cloddio'r cerrig a ddefnyddir ar gyfer ôl-lenwi o rannau eraill o wely'r afon, ei glannau, na'i sianel. Ni ddylid defnyddio ôl-lenwi fel modd o wneud iawn am leoli cored yn wael.

Mae cored mewnlif ag uchder crib isel a childdwr byr yn debygol o fod yn fwy derbyniol i dirfeddianwyr cyfagos, ac mae'n golygu y gellir lleihau maint unrhyw ysgol bysgod neu ramp osgoi cymaint â phosibl.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau micro-hydro â choredau â chwymp mawr a mewnlif gorlif, dylid gadael i waddod gronni i fyny'r afon ac nid oes angen ei dynnu i ffwrdd. Mae'n annhebygol o gael effaith ar dynnu dŵr, ac mae'n ei gwneud yn bosibl i waddod barhau i symud i lawr yr afon a dros y gored yn naturiol, gan atal unrhyw groniadau o waddod ymhellach i fyny'r afon.

Cwrs yr afon

Dylid lleoli coredau ar rannau syth o sianeli afonydd. Mae rhannau syth yn fwy sefydlog nag ystumiau, sy'n fwy agored i'r prosesau naturiol o erydu a dyddodi gwaddod.  

Gall dyddodiad ar ochr fewnol ystumiau arwain at groniadau mawr o waddod i fyny'r afon tuag un ochr o adeiledd cored. Gallai hyn atal dŵr rhag llifo i fewnlifau, holltau llif isel a llwybrau pysgod, neu ei ddargyfeirio ohonynt, gyda'r potensial o beryglu gallu'r cynllun i weithredu a pheri bod angen gwneud llawer o waith cynnal a chadw.

Dylid gosod coredau yn unionsyth i'r sianel ac i gyfeiriad llif y ffrwd. Dylid osgoi defnyddio coredau ar ongl neu â siâp V oherwydd bod mwy o berygl iddynt newid patrymau llif lleol ac addasu prosesau geomorffolegol. Mae eithriadau i hyn yn cynnwys safleoedd mwy lle bydd angen i gynlluniau cored, o bosib, ddarparu ar gyfer gofynion penodol i'r safle o safbwynt ysgol bysgod.

Nid yw rhai cyrsiau dŵr yn addas ar gyfer adeiladu unrhyw fath o gored.

Os yw'n angenrheidiol lleoli cored cronni dŵr ar ystum (trwy gytundeb â'n harbenigwyr), yna dylid lleoli crib llif gweddilliol y gored a’r hollt llif isel yn ganolog, neu ar ochr allanol yr ystum, er mwyn atal gwaddod rhag cronni. Bydd hyn yn sicrhau bod llai o berygl y bydd gwaddod yn atal y cyfansoddion hyn, gan ei gwneud yn bosibl i'r llif gweddilliol fynd yn ei flaen er mwyn cynnal parhad ecolegol.

Proffiliau ac uchder glannau'r afon

Mae'n well lleoli coredau lle ceir glannau uchel naturiol ar y naill ochr a'r llall i sianel yr afon. Yn ystod amodau llif uchel, bydd hyn yn lleihau'r perygl o ddŵr yn mynd heibio i ochrau'r gored, ac yn atal y glannau cyfagos rhag erydu a chael effaith ar y sefydlogrwydd adeileddol. Mae'n gostus gwneud gwaith adfer er mwyn sefydlogi glannau afonydd rhag erydu, a byddai'n ofynnol cael caniatadau a chydsyniadau ychwanegol i wneud gwaith o'r fath.

Mae nentydd â gwely serth ar yr ucheldir yn fwy tebygol o fod â sianel sydd wedi'i rhychu, a glannau uwch, a fydd yn ei gwneud yn bosibl cadw llifau uchel oddi mewn iddynt.

Yn ystod y gwaith adeiladu, dylai datblygwyr orbwmpio, neu greu argaeau coffr neu gafnau dros dro er mwyn creu safle gwaith sych ar gyfer y gwaith o adeiladu cored yn yr afon. Dylid osgoi'r arfer o gloddio sianel dargyfeirio gan y byddai'n achosi llawer iawn o niwed i'r amgylchedd afon. Byddai hefyd yn peri creu llwybr llif a ffefrir, gan y gall dŵr dreiddio i ddeunydd ôl-lenwi nad yw wedi'i gywasgu, gan leihau sefydlogrwydd y deunydd a ddefnyddiwyd i adfer glannau a gwely'r sianel o ganlyniad, a pheri i'r sianel dargyfeirio ailagor yn ddiweddarach yn ystod amodau llifogydd.

Lled y sianel

Ni ddylid newid lled naturiol sianel yr afon ar safle cored. Mae afonydd a nentydd yn datblygu lled sianel yn naturiol sy'n adlewyrchiad cyfunol o arfer y llif, topograffi'r dalgylch, defnydd y tir a'r ddaeareg. Lle gwneir newidiadau i led y sianel, perir risg o ansefydlogi'r deunydd naturiol sydd eisoes yn ffurfio gwely a glannau'r afon. Mae lledaenu sianel afon neu nant yn achosi dyddodiadau a all beryglu gweithrediad cynllun a geomorffoleg hyd afon penodol. I'r gwrthwyneb, gall culhau'r sianel, neu fewnlenwi llwybrau llifogydd naturiol, darfu ar gydbwysedd egni naturiol yr afon, gan achosi erydu gormodol a all ddifrodi'r cynllun ynni dŵr, y geomorffoleg a'r cynefinoedd a geir mewn hyd afon penodol.

Lleoli'r mewnlif er mwyn lleihau'r effaith ar lifau

Dylid lleoli mewnlifoedd i fyny'r afon o aberoedd lle mae isafonydd yn llifo i mewn i'r brif sianel er mwyn lliniaru, yn rhannol, effeithiau'r gostyngiad yn y llifau a achosir gan weithgareddau tynnu dŵr. Bydd y llif sy'n dod i mewn o isafon yn cyflwyno cyfaint llif mwy, a mwy o amrywioldeb i'r hyd afon sydd wedi'i leihau, ac yn helpu i gynnal rhywfaint o nodweddion llif naturiol.

Dylid hefyd ystyried llwyth gwaddod unrhyw fewnlif o isafon yn ofalus. Ni waeth pa mor ddeniadol yw'r syniad o leoli cored mewnlif yn uniongyrchol i lawr yr afon o gydlifiad isafon er mwyn sicrhau'r swm mwyaf posibl o ddŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr, mae cydlifiad hefyd yn bwynt lle mae llwyth gwaddod o ddalgylch isafon yn dod i mewn i'r brif afon. Mae hyn yn aml yn creu amodau lle ceir lefel uchel o ddyddodi a chronni gwaddod.

Cadw nodweddion geomorffolegol naturiol  

Dylid cadw cerrig mawrion sydd eisoes yn gorwedd ar wely ac ar lannau afon yn eu safleoedd naturiol, ac ni ddylid eu symud yn ystod y broses adeiladu. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cerrig mawrion a chroniadau o waddod mwy bras, fel creigiau a cherrig crynion, yn nodweddion geomorffolegol sefydledig sy'n rhoi sefydlogrwydd i sianel yr afon mewn amodau llif uchel. Byddai symud y nodweddion ‘angori’ hyn yn peri ansefydlogi sianel afon, gan arwain at fwy o erydu, o bosibl, wrth i'r prosesau geomorffolegol ar y safle geisio ailgydbwyso ac adfer y sianel i gyflwr naturiol.

Egwyddorion allweddol – ble i leoli coredau mewnlif

  • Dylech leoli unrhyw gored mewnlif ar hyd afon â gwely serth a fydd yn arwain at greu cilddwr byr (ni ddylai hyd y cilddwr fod yn hwy na hyd cilddyfroedd naturiol o fewn yr un hyd afon).
  • Dylech leoli coredau mewnlif ar nodweddion gris naturiol a geir yn sianel yr afon.
  • Dylech gadw uchder crib y gored mor isel â phosibl.
  • Dylech osgoi safleoedd â graddiant isel, a safleoedd ar lwyfandir neu rostir.
  • Dylech leoli coredau mewnlif ar safleoedd lle ceir deunyddiau sefydlog ar wely ac ar lannau'r afon, a lle nad oes tystiolaeth o erydu na thanseilio, na bod y sianel wedi symud yn flaenorol.
  • Dylech leoli coredau mewnlif yn rhannau cul cymoedd lle mae'r sianel wedi'i rhychu a lle ceir glannau uchel.
  • Dylech leoli coredau mewnlif ar rannau o afonydd sy'n syth ac yn sefydlog.
  • Dylech leoli croniadau dŵr i fyny'r afon o unrhyw fan lle mae is-afon yn llifo i mewn i'r brif sianel.
  • Dylech gadw lled naturiol sianel afon.
  • Dylech gynllunio coredau fel eu bod yn unionsyth â chyfeiriad llif yr afon – dylid osgoi defnyddio coredau ar ongl neu â siâp V.
  • Dylech leihau faint o darfu a wneir ar safle adeiladu, yn enwedig o safbwynt glannau a gwely'r afon.
  • Dylech sicrhau y cedwir cerrig mawrion, creigiau a cherrig crynion sydd eisoes yn bresennol yn eu safleoedd naturiol yn sianel yr afon ac ar y glannau y tu hwnt i ôl troed adeiledd y gored.
  • Dylech ôl-lenwi'r cilddwr i fyny'r afon o gored newydd â cherrig mawrion a chreigiau o'r tu allan i sianel yr afon.

Darllenwch am egwyddorion dylunio coredau ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf