Adfer dulliau cynaliadwy o dynnu dŵr

Beth yw dulliau cynaliadwy o dynnu dŵr (RSA)?

Mae’r rhaglen RSA wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gyda deiliaid trwydded i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu o’r amgylchedd. Mae hefyd yn eu helpu i atal a lleihau difrod i’r amgylchedd mewn ffyrdd eraill, trwy:

Symud neu gyfnewid cynlluniau tynnu dŵr trwyddedig presennol (er enghraifft symud cynllun tynnu dŵr mawr ymhellach i lawr yr afon ac un llai i fyny’r afon).

  • Chwilio am atebion amgen sy’n defnyddio dŵr yn fwy effeithlon a llai niweidiol
  • Sicrhau mai dim ond y dŵr sydd ei angen a ganiateir i’w dynnu
  • Mae hyn yn atal difrod i’r amgylchedd e.e. trwy ddileu’r peryglon i safleoedd dynodedig Cyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd
  • Rhoi amodau ar drwyddedau sy’n caniatáu i chi dynnu dŵr sy’n debygol o greu’r niwed lleiaf i’r amgylchedd
  • Sicrhau bod deiliaid trwydded yn ymrwymo i dynnu llai o ddŵr pan fo cyflenwadau amgen ar gael
  • Cydweithio â sefydliadau a grwpiau lleol eraill i ddatrys problemau sy’n ymwneud â thynnu dŵr
  • Adfer prosesau ffisegol, er enghraifft, trwy reoli gro a gwella cynefinoedd

Beth rydym ni’n ei wneud

  • Rydym yn nodi, ymchwilio ac ymroi i ddatrys peryglon neu broblemau amgylcheddol a achosir gan ddulliau anghynaliadwy o dynnu dŵr ledled Cymru
  • Rydym yn ystyried effeithiau tynnu dŵr ar yr amgylchedd
  • Hoffem weithio gyda phawb sy’n tynnu dŵr mewn modd a allai effeithio ar yr amgylchedd, er mwyn dod o hyd i atebion effeithiol
  • Bydd y newidiadau a gyflwynir gennym yn adfer lefelau dŵr afonydd, nentydd, llynnoedd, gwlyptiroedd a chorsydd. Byddant yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl. Byddant hefyd yn darparu rhagor o gyfleoedd hamdden
  • Mae ymchwiliadau dan raglen RSA wedi’n cynorthwyo ni i nodi’r gwelliannau a fydd yn cyfrannu at fodloni amcanion y DU ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewropeaidd. Daeth hwn i rym ym mis Rhagfyr 2000 ac yn ddeddf gwlad yn y DU ym mis Rhagfyr 2003
  • Mae cysylltiad agos rhwng yr RSA a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae’r RSA yn parhau i wella ardaloedd dyfrol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr lle gallai’r ecoleg fod mewn perygl oherwydd dulliau anghynaliadwy o dynnu dŵr. Bydd dyfroedd afonydd, aberoedd, arfordiroedd a dyfrhaenau yn gwella dan fesurau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, megis Cynlluniau Rheoli Basn Afonydd
  • Pan fo trwydded yn newid, mae angen gwneud hynny drwy newid gwirfoddol (adran 51 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991), neu newid gorfodol (adran 52 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991)
Diweddarwyd ddiwethaf