Gwneud cais am drwydded i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg

Os nad oes modd cofrestru eich gollyngiad elifion fel esemptiad, byddwch angen Trwydded Amgylcheddol. Mae’r gollyngiadau hyn yn cynnwys:

  • Gollwng elifion masnach i’r ddaear neu i ddŵr wyneb
  • Gollwng elifion cymysg (masnach a charthion) i’r ddaear neu i ddŵr wyneb
  • Gollwng i ddŵr daear trwy dwll turio, ffynnon neu strwythur dwfn arall
  • Gollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb

Os ydych eisiau gollwng elifion carthion domestig, mae gennym dudalen we bwrpasol i’ch helpu i wneud cais am drwydded

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B6 ar-lein.


Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng i ddŵr daear trwy dwll turio, ffynnon neu strwythur dwfn arall

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B6 ar-lein.


Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Gwneud cais am drwydded i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B1.

Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Ffioedd a thaliadau

Bydd angen ichi dalu ffi ymgeisio ar gyfer y Drwydded Amgylcheddol hon. Bydd y ffi yn amrywio yn ôl faint o elifion y byddwch yn eu gollwng ac i ble y byddwch yn eu gollwng.

Os byddwch yn gollwng i ddŵr wyneb (hynny yw, i afonydd, ffosydd, llynnoedd, pyllau, camlesi ac aberoedd neu i’r môr), mae’r ffioedd ymgeisio fel a ganlyn:

  • Gollyngiadau sy’n llai na 5000 litr (5 o fetrau ciwbig) y dydd - £3,610.
  • Gollyngiadau rhwng 5000 ac 20,000 litr (5 i 20 o fetrau ciwbig) y dydd - £5,838.
  • Gollyngiadau o 20,000 litr (20 o fetrau ciwbig) neu fwy y dydd - £10,076.

Os byddwch yn gollwng i’r ddaear (hynny yw, i gae draenio neu i system ymdreiddio), mae’r ffioedd ymgeisio fel a ganlyn:

  • Gollyngiadau sy’n llai na 5000 litr (5 o fetrau ciwbig) y dydd - £3,415.
  • Gollyngiadau rhwng 5000 a 15,000 litr (5 i 15 o fetrau ciwbig) y dydd - £5,517.
  • Gollyngiadau o 15,000 litr (15 o fetrau ciwbig) neu fwy y dydd - £9,516.

Ffi ar gyfer Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd

Os byddwch yn gollwng ger safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen inni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wrth asesu eich cais am drwydded.  Bydd angen talu ffi ychwanegol am hyn.

Yn achos gollyngiadau i ddŵr wyneb, y ffi ar gyfer asesiad cynefinoedd yw £4,951.

Yn achos gollyngiadau i’r ddaear, y ffi ar gyfer asesiad cynefinoedd yw £4,671.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â phryd mae angen cynnal yr asesiadau hyn, gweler ein tudalen we ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol’.

Ffi ar gyfer Asesiadau Risg Amgylcheddol

Os bydd yr elifion a ollyngwch i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus, efallai y bydd yn rhaid inni gynnal Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd angen talu ffi ychwanegol am hyn, sef £4,951.

I gael rhagor o wybodaeth am y cemegau a’r elfennau peryglus hyn a phryd mae angen cynnal yr asesiadau, gweler ein tudalen we ‘Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau dŵr’.

Ceisiadau na ellir bwrw ymlaen â nhw oherwydd manylion annigonol

Os byddwn yn dychwelyd eich cais gan na chyflwynwyd digon o fanylion, ac os na allwn felly fynd y tu hwnt i’r cam ‘derbyniwyd y cais’, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio. Dim ond ar ôl rhoi cyfle ichi gyflwyno’r wybodaeth goll y byddwn yn dychwelyd unrhyw gais.

Os penderfynwch dynnu eich cais am drwydded yn ôl

Os penderfynwch dynnu eich cais am drwydded yn ôl ar ôl inni ei dderbyn, byddwn yn cadw 100% o’r ffi ymgeisio. Os penderfynwch dynnu eich cais yn ôl cyn inni fynd ymhellach na’r cam ‘derbyniwyd y cais’, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio.

Ffi flynyddol

Bydd angen ichi dalu tâl blynyddol parhaus i dalu am ein costau o ran cynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded a chan fonitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.

Cewch ragor o wybodaeth am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf