Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru

Croeso i Ogledd-ddwyrain Cymru, ardal fywiog ac amrywiol iawn sydd wedi'i llunio dros y canrifoedd gan bobl a natur

Mae Gogledd-ddwyrain Cymru'n cynnwys tair sir ar wahân, sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n cynnwys cymunedau dinesig mawr, diwydiant, sawl un o brif wythiennau trafnidiaeth y wlad a rhai golygfeydd godidog.

Gwylwyr cyhoeddus yn gwylio'r tân rhostir ym Mynydd Llantysilio ar hyd Bwlch y Bedol, Corwen ger Llangollen wrth i'r tân losgi dros y mynydd oherwydd tymereddau tywydd poeth yn y DU Yr argyfwng yn yr hinsawdd: gwydnwch ac addasu

Rydym yn byw mewn ardal, sef Gogledd-ddwyrain Cymru, lle'r ydym yn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd, a lle mae ein tirweddau adeiledig a naturiol, ein seilwaith ategol, ein heconomi a'n cymdeithas yn barod am y newid yn yr hinsawdd ac yn gallu addas iddo a’i wrthsefyll.

Coed a choedwig yn ardal trefol yn Wrecsam Datblygu a gwella seilwaith gwyrdd trefol/gwledig

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym ardaloedd trefol gwyrddach a mwy croesawgar sy'n darparu manteision lluosog ac sy'n cefnogi pobl i fyw'n fwy iach ac mewn ffordd fwy gweithgar. Mae atebion sy’n seiliedig ar natur yn cyflwyno amrywiaeth eang o fanteision amgylcheddol ac ar gyfer iechyd a llesiant i'n cymunedau.

Coed Llangwyfan Cynyddu'r gorchudd coetir er budd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd

Caiff gogledd-ddwyrain Cymru ei hadnabod am safon uchel ei choetiroedd. Bydd creu coetir o'r newydd yn adlewyrchu cymeriad y dirwedd a diwylliant lleol, ac ar yr un pryd bydd yn darparu'r llu o fuddion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol sydd gan goetiroedd a choedwigoedd i'w cynnig.

Wiwer goch mewn coeden Hyrwyddo gwydnwch ecosystemau o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth

Rydym yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n fywiog ac yn fioamrywiol lle'r ydym yn gwrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a lle caiff rhywogaethau a chynefinoedd allweddol eu gwerthfawrogi a'u deall gan ei chymunedau.

Golygfa o Bont Dyfrdwy ar yr Afon Dyfrdwy yn dangos cynefin dôl Gwarchod dŵr a phridd trwy reoli tir yn gynaliadwy a ffermio

Mae system bwyd amaethyddol a rheoli tir cynaliadwy a gwydn sy'n cefnogi bywoliaethau, gwarchod pridd a dŵr, cynnal a gwella bioamrywiaeth ar yr un pryd â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn cyfrannu'n sylweddol i fudd y cyhoedd.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.