Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Hyrwyddo gwydnwch ecosystemau o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth

Rydym yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n fywiog ac yn fioamrywiol lle'r ydym yn gwrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a lle caiff rhywogaethau a chynefinoedd allweddol eu gwerthfawrogi a'u deall gan ei chymunedau

Wiwer goch mewn coeden

Llun gan Johnathon Rothwell

Mae'r Datganiadau Ardal yn crynhoi trafodaethau o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn addasu ein cynlluniau ynglŷn â digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd pandemig y coronafeirws.

 

Sylwch fod yr holl feysydd parcio, mannau chwarae a blociau toiledau yng ngwarchodfeydd a choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gau o 23 Mawrth 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein prif dudalen ynghylch y coronafeirws.

Pam y thema hon?


Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae pwysau sylweddol ar sut rydym yn defnyddio'n tir. Daw o ddiwydiant, ffermio, tai, gwasgariad trefol, defnydd tir gwledig, cynlluniau ynni adnewyddadwy, a hyd yn oed trafnidiaeth. Mae enghreifftiau o berthynas uniongyrchol rhwng amgylcheddau gwael a chymunedau mwy difreintiedig. Mae ein bywyd gwyllt hefyd yn dirywio, gyda rhai rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu.

Mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Gorffennaf, roedd y neges yn glir – mae angen i ni wella'n bioamrywiaeth. Yr hyn sydd yr un mor bwysig yw bod angen i ni gynnal a chadw ein bywyd gwyllt a'n safleoedd gwarchodedig presennol.

Nid yn unig y ffordd rydym yn rheoli ein tir sy'n rhoi natur dan bwysau. Mae'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn cael effaith anferthol, fel y mae llygredd. Er bod amrywiaeth y llygryddion wedi lleihau'n sylweddol dros y degawdau diwethaf, mae llygredd yn parhau i gael effaith ar gynefinoedd sensitif, ynghyd â dyfroedd croyw a morol, nid yn unig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ond ledled y DU.

Er gwaethaf cynnig anheddau trefol sylweddol, mae Gogledd-ddwyrain Cymru'n cefnogi amrywiaeth gyfoethog o fathau o ecosystemau sy'n ffurfio blociau adeiladu hanfodol amgylchedd naturiol gwydn. Yn wir, mae llawer o'n hardaloedd trefol hefyd yn hafanau pwysig i fywyd gwyllt. Yr unig le yng Nghymru lle y byddwch yn dod o hyd i un gwiddonyn penodol, sef math o chwilen, yw Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Yn yr un modd, un o'r prif gynefinoedd ar gyfer madfallod dŵr cribog yng ngogledd Cymru yw chwareli gwag yn Wrecsam.

Mae Gogledd-ddwyrain Cymru'n ardal sydd â chynefinoedd ucheldir, coetir ynn, glaswelltiroedd calchfaen, mwyngloddiau hanesyddol, ac aberoedd eang ac agored. Mae safleoedd gwarchodedig fel afon Dyfrdwy, Mynydd Helygain, aber afon Dyfrdwy, a Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd. Gyda'i gilydd, maent yn cefnogi trysor ein bioamrywiaeth, gan ddiogelu rhywogaethau dan fygythiad ac a warchodir fel y gylfinir, y boda tinwyn a’r fôr-wennol fach. Mae modd gweld gwiwerod coch o hyd yng Nghoedwig Clocaenog, er mewn niferoedd bach. Yn yr un modd, pathewod. Mae modd hefyd dod o hyd i ddyfrgwn lawer yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGC) Bae Lerpwl o bwys rhyngwladol i rydwyr gaeafol, gan gynnwys y ganwraidd goesgoch a'r pibydd, ynghyd â môr-wenoliaid cyffredin sy’n bridio. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Gronant a Chwningar Talacre yn gartref i’r unig haid o fôr-wenoliaid bach yng Nghymru, wrth ddarparu cynefin hefyd ar gyfer madfallod y tywod a llyffantod y twyni. Mae morloi llwyd hefyd yn byw yn aber afon Dyfrdwy.

Mae ein cymoedd coediog a'n hadeiladau cysylltiedig yn gynefinoedd delfrydol i ystlumod, gan gynnwys nifer sylweddol o'r ystlum trwyn pedol lleiaf. Mae ystlumod adain-lydan hefyd yn cael eu gweld bellach mewn safleoedd penodol yn Nyffryn Clwyd ac o'i amgylch. Ar lawr gwlad, mae sir Wrecsam yn gartref i gors iseldir fwyaf Cymru, Mawnogydd Fenn's a Whixall, sy'n cael ei hatgyweirio ar hyn o bryd ar ôl blynyddoedd o echdynnu mawn at ddibenion garddwriaethol a garddio. Mae’r gors yn cynnwys llawer o blanhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys andromeda'r gors a llygod y dŵr.

Mwsogl Whixhall yn Wrecsam© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Mae hyrwyddo gwydnwch ecosystemau o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth yn helpu i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau canlynol y Polisi Adnoddau Naturiol:

Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth

Yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, cafodd ei ddatgelu bod bywyd gwyllt yng Nghymru'n parhau i ddirywio, gydag 17% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Ers y 1970, mae glöynnod byw a gwyfynod wedi dioddef dirywiad o 52% yng Nghymru. Mae rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Ngogledd-ddwyrain Cymru'n cynnwys y gylfinir, yr eog, y rugiar ddu, y wiwer goch a'r fadfall ddŵr gribog.

Datblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn

Mae angen i ni wneud lle i natur. Mae angen i'n safleoedd gwarchodedig gael eu rheoli'n well. Mae angen mwy ohonynt arnom, yn ddelfrydol wedi'u huno drwy rwydwaith o safleoedd natur lleol. Bydd cysylltu a gwella cynefinoedd yn helpu'n bywyd gwyllt i ddod yn fwy gwydn, yn enwedig yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

Gwella ansawdd ein dŵr a sicrhau cyflenwad digonol ohono

Ceir dau brif dalgylch yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, sef afon Clwyd ac afon Dyfrdwy. Mae’r rhan fwyaf o ddalgylch afon Clwyd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, er bod mwyafrif un is-afon fawr, afon Elwy, yn ardal Gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae rhannau uchaf afon Dyfrdwy hefyd yn ymestyn i ardal Gogledd-orllewin Cymru, gyda'r dalgylch isaf yn lledu dros ffin Lloegr i Wastadedd Sir Gaer ac aber afon Dyfrdwy.

Mae bron tair miliwn o bobl yn cael eu dŵr yfed o afon Dyfrdwy, gyda llawer ohonynt yn byw yng Ngogledd-orllewin Lloegr. Mae pwysigrwydd strategol afon Dyfrdwy fel ffynhonnell dŵr yfed, a'r perygl iddi oherwydd llygredd, wedi arwain at yr afon yn dod yn un o'r afonydd sy’n cael eu gwarchod fwyaf yn Ewrop, gan ddod yn Barth Diogelu Dŵr dynodedig yn 1999.

Mae gan afon Clwyd ei rhagnentydd yng Nghoedwig Clocaenog, ac mae afon Elwy'n codi i'r gorllewin ar Fynydd Hiraethog. Mae amaethyddiaeth â’r dylanwad mwyaf yn nalgylch gwledig afon Clwyd. Mae rhan o'r dalgylch isaf yn Barth Perygl Nitradau ar gyfer dŵr wyneb a dŵr daear. Yn 2015, nid oedd 68% o’r holl gyrff dŵr croyw (fel y’u diffiniwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cyflawni statws da neu'n well yn gyffredinol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd y ffactorau cyfrannol yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd addasu ffisegol yn gyfrifol am 22% o fethiannau oherwydd pwysau fel rhwystrau yn atal pysgod rhag mudo (e.e. coredau)

  • Roedd llygredd o garthion a dŵr gwastraff yn gyfrifol am 22% o fethiannau

  • Roedd llygredd o ardaloedd gwledig (gan gynnwys arferion rheoli tir yn ogystal ag effeithiau o ddefnyddiau eraill fel ceffylau/stablau a chyrsiau golff) yn gyfrifol am 24% o fethiannau

  • Roedd llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth yn gyfrifol am 8% o fethiannau

  • Roedd llygredd o fwyngloddiau’n gyfrifol am 6% o fethiannau

Mae'r traeth yn y Rhyl wedi'i amgylchynu gan y dref ei hun ac wedi'i leoli ger aber afon Clwyd. Yma, gall y dynodiad dŵr ymdrochi fod yn amodol ar y llygredd a achosir wrth i law trwm olchi deunydd ysgarthol i'r môr o dda byw, carthion a draeniau trefol ar hyd afonydd a nentydd. Ers 2015, mae'r dŵr ymdrochi wedi'i ddynodi fel 'digonol'. Bron nad oes rhaid dweud bod y dyfroedd ymdrochi ar hyd yr arfordir yn hanfodol i'r economi twristiaeth leol.

Sicrhau poblogaethau pysgod iach

Mae afon Dyfrdwy yn cefnogi pysgodfa eog o bwys rhyngwladol. Mae pysgota am frithyllod y môr hefyd wedi dod yn fwy cyffredin dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal, afon Dyfrdwy yw un o bedair afon fynegai ar draws y DU lle mae gwybodaeth fiolegol yn cael ei chasglu. Roedd nifer yr wyau eogiaid a ddyddodwyd yn 2018 yn is na'r terfyn cadwraeth. O ganlyniad, ystyrir afon Dyfrdwy ar hyn o bryd fel afon 'mewn perygl'. Mae'r rhagamcaniad hyd at 2023 yn dangos peth gwelliant posib o ran nifer yr wyau sy’n cael eu dyddodi, er y disgwylir, erbyn yr adeg honno, y bydd y dosbarthiad 'mewn perygl yn ôl pob tebyg' o hyd. Mae'r boblogaeth o frithyllod y môr hefyd wedi'i dosbarthu fel 'mewn perygl yn ôl pob tebyg' ar hyn o bryd a disgwylir iddi barhau fel hynny wrth edrych tua 2023.

Yn 2018, dosbarthwyd afon Clwyd fel 'mewn perygl' ar gyfer eogiaid, gyda rhagamcaniad y bydd dal 'mewn perygl' yn 2023. Roedd y stoc o frithyllod y môr hefyd wedi'i dosbarthu fel 'mewn perygl' yn 2018 a disgwylir iddi barhau fel hynny wrth edrych tua 2023. Fodd bynnag, gwnaeth genweirwyr adrodd bod 2019 yn flwyddyn dda ar gyfer pysgota am frithyllod y môr, gyda dros 1,000 yn cael eu dal ar draws dalgylch afon Clwyd.

Gwella rheolaeth coetiroedd presennol a defnydd mwy eang o goed

Ar wahân i fod yn dda i fywyd gwyllt, gall coetiroedd a choedwigoedd hefyd gysylltu ardaloedd o gynefin gwerthfawr. Gall tirwedd sydd wedi'i chysylltu gan goetiroedd newydd a phresennol ond helpu i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae coed sydd wedi cael eu plannu yn y lleoedd cywir yn cefnogi bioamrywiaeth, ac mae gan goed trefol y potensial i gynnal a gwella bioamrywiaeth drefol a lleihau colli bioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae'r pwyslais ar y lleoedd cywir oherwydd nid yw'r holl fywyd gwyllt yn elwa ar blannu coed. Dylai plannu sensitif sicrhau bod cynefinoedd pwysig sydd eisoes yn storio symiau sylweddol o garbon, neu'n cefnogi cynefinoedd a/neu rywogaethau â blaenoriaeth, yn peidio â chael eu plannu â choed lle byddai'r effeithiau ar yr amgylchedd yn niweidiol.

Cynnal gallu cynhyrchiol / gwella bioddiogelwch

Amcangyfrifwyd bod rhywogaethau estron goresgynnol yn costio £128 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae rhywogaethau o'r fath yn cynnwys clymog Japan, jac y neidiwr, y wiwer lwyd a chranc manegog Tsieina.

Sbriws Sitka yw un o'r cnydau coedwigaeth mwyaf pwysig yn economaidd yng Nghymru. Er bod tyfu'n naturiol mewn planhigfeydd yn fanteisiol i'r diwydiant coedwigaeth, gall hunan-hadu y tu allan i'r planhigfeydd hyn gael effaith ar gynefinoedd ucheldir agored a safleoedd gwarchodedig.

Mewn ardaloedd o ucheldir yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym rai coetiroedd ynn cymysg sy’n hynod bwysig. Bydd clefydau coed fel clefyd coed ynn yn cael effaith sylweddol ar y llawer o rywogaethau bywyd gwyllt sy'n gysylltiedig â choetir ynn a choed amwynder ynn.

Addasu i'r newid yn yr hinsawdd

Mae bioamrywiaeth yn chwarae rôl bwysig wrth reoleiddio'r hinsawdd, gan gyfrannu felly at liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Ar yr un pryd, mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fioamrywiaeth mewn sawl ffordd drwy ryngweithiadau cymhleth ymysg rhywogaethau a'u cynefinoedd a rhyngddynt. Felly, mae'n amhosib mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth heb fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae'r un mor amhosib i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd heb hefyd fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Mae ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys y canlynol:

Creu/ymestyn partneriaethau rhanddeiliaid strategol i gynghori ar reoli bioamrywiaeth

Mae partneriaethau lleol ar gyfer natur yn gweithredu yn y tair sir ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae BioNet, sy'n rhan o Gymdeithas Frenhinol Bioleg, eisoes yn cysylltu cynrychiolaeth bioamrywiaeth ymhlith yr awdurdodau lleol. Mae'r cyfle'n bodoli i ehangu'r rhwyd i gynnwys rheolwyr tir, busnesau, y sector iechyd ac eraill i arloesi ymagweddau newydd ynghylch bioamrywiaeth.

Cyfoeth Naturiol Cymru'n archwilio sut mae modd cynnal a chadw ei asedau ei hun i wella bioamrywiaeth

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio cyfleoedd i ymgorffori gwelliannau bioamrywiaeth yn yr holl asedau mae'n eu rheoli (os na fydd gwelliannau o'r fath yn niweidiol i berfformiad yr asedau dan sylw).

Rheoli safleoedd gwarchodedig

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n ymgymryd â phrosiect gwerthuso gwaelodlin cenedlaethol i gyflawni asesiadau cyflwr 'dangosol' ar gyfer ein holl safleoedd gwarchodedig. Bydd y dystiolaeth ganlyniadol yn helpu i flaenoriaethu dulliau gweithredu o ran cynefinoedd, rhywogaethau a geoamrywiaeth (mewn dull yn y dyfodol sy'n seiliedig ar risg), gan hefyd helpu i reoli safleoedd mewn modd sy’n seiliedig ar le.

Golygfa o lwybr pren yn nhwyni Gronant hefo arwydd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn y bleandir© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol

Mae angen i ni ddatblygu ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb a rennir rhwng sefydliadau rhanddeiliaid allweddol, rheolwyr tir a chymunedau er mwyn lleihau'r bygythiad a berir gan rywogaethau estron goresgynnol, sydd, wrth eu natur, yn lledaenu heb ystyried ffiniau siroedd. Gyda dalgylchoedd afon Dyfrdwy ac afon Clwyd yn ymestyn ar draws ardaloedd Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru (mae'r blaenorol hefyd yn ymestyn i Loegr), mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru'n archwilio cyfleoedd i adeiladu gwydnwch bioamrywiaeth gwell yn ein prosesau cyn cyflwyno cais a thrwyddedu

Gallai hyn gynnwys gofynion yn cael eu rhoi ar weithredwyr i wella bioamrywiaeth unwaith bod safle wedi cau, er enghraifft drwy blannu rhywogaethau brodorol fel rhan o adferiad cynaliadwy, neu osod amodau bioamrywiaeth ar drwyddedau gwaith carthion.

Blaenoriaethu rhywogaethau dan fygythiad

Mae sawl rhywogaeth eiconig dan fygythiad yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y gylfinir, yr eog a’r rugiar ddu. Dylai'r rhain ddod yn ffocws ymgyrch gadwraeth ranbarthol sy'n cysylltu pobl â natur, wrth helpu hefyd i wella cynefinoedd cysylltiedig.  Lle mae cynefinoedd a thirweddau'n croesi, byddwn yn cydweithio â Datganiadau Ardal eraill a rhanddeiliaid o Loegr.

Cynyddu gwydnwch drwy gysylltu safleoedd gwarchodedig drwy seilwaith gwyrdd lleol

Mae angen mwy o safleoedd bywyd gwyllt lleol arnom i ffurfio rhan o dirwedd gysylltiedig sy'n cynnwys clustogfeydd, coridorau a cherrig camu i fywyd gwyllt sy’n gweithredu fel cysylltiadau rhwng safleoedd dynodedig cenedlaethol (fel gwarchodfeydd natur a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau)). Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn fwy gwydn i'r newid yn yr hinsawdd.

Gwella gwrychoedd a chyfleoedd am goed ffermdir

Er mai prif ddiben gwrychoedd yw rheoli stoc neu ddynodi ffiniau, maent hefyd yn adnodd i gynefinoedd, rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i rywogaethau ffermdir. Gall cyfran sylweddol o goed newydd gael eu hintegreiddio mewn defnyddiau tir presennol, er enghraifft drwy blannu mewn corneli caeau, pentiroedd a gwrychoedd ar ffermydd, gan roi hwb i gynhyrchiant amaethyddol wrth hefyd gyflwyno manteision carbon ac i fywyd gwyllt.

Adfer cynefinoedd mawndir ar gyfer storio carbon, ansawdd dŵr, cyflenwadau digonol o ddŵr a bioamrywiaeth

Mae cynefinoedd mawndiroedd yn helpu i reoleiddio ein hinsawdd a'n cylchred dŵr, y mae'r ddau ohonynt yn hanfodol i'n llesiant. Mae priddoedd mawn dwfn yn bwysig er mwyn lliniaru'r newid yn yr hinsawdd oherwydd eu bod yn amsugno ac yn storio carbon atmosfferig. Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae angen i ni asesu cyflwr ein cynefinoedd mawndir a, lle y bo'n briodol, trwsio'r difrod a wnaed eisoes i'n dalfeydd carbon naturiol. Mae gan Fynydd Hiraethog a’r Berwyn rai o'r crynodiadau o orgorsydd naturiol mwyaf helaeth yng Nghymru. Mae sawl safle cyforgors iseldir yn bodoli yn yr ardal, a'r mwyaf o'r rhain yw Mawnogydd Fenn's a Whixall ar y ffin rhwng sir Wrecsam a Lloegr. Byddai hyn yn golygu cydweithio rhwng ardal Canolbarth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau yn Lloegr. Gyda llaw, ystyrir mai dim ond 30% o bridd mawn Cymru mewn 'cyflwr da'.

Newid goleuadau LED i liniaru colli pryfed a diogelu awyr dywyll

Mae llygredd golau'n gyrrwr sylweddol ond yn aml heb ei ystyried yn nirywiad cyflym poblogaethau o bryfed. Mae gormod o olau awyr agored yn aflonyddu bywyd gwyllt nosol, gan effeithio ar adar, pryfed a rhywogaethau eraill. Mae lleihau golau allanol i 3000K LED yn hyfyw yn economaidd, yn ynni effeithlon, ac yn ffordd o rwystro'r dirywiad cyflym hwnnw.

Cynllun credyd amgylcheddol i fusnesau

Byddai cynllun credyd amgylcheddol yn annog busnesau i weithredu mewn ffordd sy'n fwy ystyrlon o'r amgylchedd. Byddai busnesau'n creu credydau bioamrywiaeth o gamau rheoli sy'n gwella bioamrywiaeth ar eu safle. Yna byddai'r credydau hyn yn cronni ac yn arwain at fuddiannau fel rhyddhad treth ac achrediadau lleol.

Deall dal a storio carbon

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae angen i ni goladu gwybodaeth a nodi bylchau mewn gwybodaeth ar gyfer stociau carbon a phrosesau dal a storio carbon, mewn llystyfiant a phriddoedd, ar gyfer cynefinoedd daearol, arfordirol a morol pwysig. Drwy ddeall a chyfleu gwerthoedd dal a storio carbon ar gyfer cyfres gyfan o gynefinoedd a defnyddiau tir, gallwn wneud penderfyniadau rheoli gwybodus sy'n diogelu ac yn gwella storfeydd carbon.

Gwella rheolaeth cynefinoedd i leihau'r risg o danau gwyllt

Yn haf 2018, gwnaeth tân yn Llandysilio-yn-Iâl yn Sir Ddinbych losgi am 40 o ddiwrnodau, gan gostio £290,000 i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei reoli a'i ddiffodd. Achosodd ddifrod sylweddol i gynefin ac adeiladwaith pridd mynydd, yn ogystal â phryder sylweddol i drigolion lleol. Dylai rheolaeth effeithiol o dirweddau ucheldir drwy gydweithio agosach rhwng cyrff statudol, perchnogion tir, porwyr a chymunedau leihau'r risg o danau tebyg yn digwydd. Mae rhai o'r tirweddau hyn yn croesi’r ffin rhwng ardaloedd Canolbarth Cymru a Gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru ac felly byddai angen cydweithio.

Creu offeryn ymgysylltu 'Map Stori'

Byddai creu offeryn 'Map Stori' er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd yn galluogi pobl i ddilyn cynnydd, gan ddangos tystiolaeth a llwyddiant yn erbyn y thema. Gallai hyn, yn ei dro, alluogi mwy o newid, dylanwadu ar farn a chynyddu ymwybyddiaeth. Byddai'r mapiau hyn yn cael eu dylunio ar gyfer unrhyw gynulleidfa â mynediad i'r rhyngrwyd.

Datblygu astudiaethau achos

Mae straeon yn bwysig. Maent yn ennyn ein diddordeb, felly rydym yn dysgu ganddynt. Mae angen i ni ddatblygu a rhannu astudiaethau achos am brosiectau bioamrywiaeth sy'n amlinellu'r problemau a'r ymyriadau ac sy'n dangos y llwyddiannau. Drwy wneud hynny, gallwn dynnu sylw at fwy o gyfleoedd o ran bioamrywiaeth. Dylai'r astudiaethau achos hyn hefyd fynd i'r afael â'r gamdybiaeth gyffredin fod manteision amgylcheddol yn cael eu cyflawni ar draul datblygiad economaidd.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


I gyd, daeth 148 o bobl yn cynrychioli 68 o sefydliadau ar draws 28 o sectorau gwahanol (â chylchoedd gorchwyl eang) i bum digwyddiad ymgysylltu wedi'u trefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2019. Gwnaeth pob un ond un ddigwydd mewn lleoliadau cymunedol lleol, ac eithrio lleoliad mwy, trefol, Neuadd Tref Dinbych ym mis Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ymgysylltu ag uwch-reolwyr ac arweinwyr portffolio'r tri awdurdod lleol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Dafydd Thomas, ymgynghorydd llesiant allanol, yn bresennol ym mhob digwyddiad, a oedd yn cynnwys gweithdrefn arloesol o'r enw 'cylch cyfarfod' wedi'i dylunio i annog cyfranogwyr i rannu eu teimladau gwirioneddol, blaenoriaethu'r hyn oedd wir yn bwysig iddynt, a gweithio gyda'i gilydd i gael canlyniadau.

Mewn rhai o'r digwyddiadau ymgysylltu, roedd yn glir nad oedd dod i gonsensws ymhlith rhanddeiliaid yn mynd i fod yn hawdd. Roedd trafodaethau'n aml yn frwdfrydig, heb ddigon o amser i fynd i'r afael â rhai o'r prif faterion. Dyma rywbeth rydym yn ymwybodol ohono ac y byddwn yn mynd i'r afael ag ef wrth i'n gwaith ymgysylltu barhau. Fodd bynnag, nodwyd rhai cyfleoedd hynod werth chweil i hyrwyddo gwydnwch ecosystemau a chynnal a gwella bioamrywiaeth.

Er gwaethaf bod llawer o sectorau'n cael eu cynrychioli, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol fod angen ehangu apêl Datganiadau Ardal y tu hwnt i'r 'bobl arferol'. Mae angen i gymunedau a'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd gymryd rhan (hyd yn hyn, roedd cyfranogwyr o'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd ond yn cyfri am 15% o'r sawl a gymerodd ran). Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, anfonwyd gwahoddiadau at oddeutu 2,500 o fusnesau bach a chanolig, eto mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn siomedig. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad Cymru Ifanc, a gynhaliodd gyfres o weithdai ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru a fydd yn cyfrannu at y Datganiad Ardal ac, yn y broses, yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu grymuso.

Rydym bob tro wedi cydnabod pa mor bwysig yw ymgysylltu â chymunedau, ac rydym yn y broses o ystyried y ffordd orau o wneud hynny er mwyn mwyafu ar y cyfleoedd sydd wedi cael eu trafod hyd yn hyn. Gadewch i ni eich sicrhau, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog ac yn cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n rhannu nodau neu ddibenion cyffredin, gan eu helpu i lunio a chyflawni'r Datganiad Ardal fel ei fod o fudd i'w cymunedau lleol.

Beth yw'r camau nesaf?


Drwy gydol 2020, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni ddechrau cyflwyno'r cyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiad Ardal. Rydym yn disgwyl i fwy o gyfleoedd godi wrth i'r broses ymgysylltu fynd yn ei blaen.

Mae'r camau gweithredu i CNC a'n rhanddeiliaid yn cynnwys y canlynol:

  • Ceisio ehangu apêl proses y Datganiad Ardal, gan annog sefydliadau i ddeall bod hyn yn rhywbeth y gallant ei llunio, dylanwadu arni ac ymgysylltu â hi

  • Adolygu'r Datganiad Ardal yn gyson, gan ddatgelu syniadau a thystiolaeth newydd sy'n dod i'r amlwg, ynghyd â thrafodaethau sy'n cael eu cynnal

  • Parhau i fapio'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ofalus, gan estyn allan i sectorau a sefydliadau nad ydyn ni wedi siarad â hwy hyd yn hyn

  • Cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n cyfrannu at y Datganiad Ardal, a chael mwy o ymdeimlad yn y broses o ran ai'r cyfleoedd sy'n cael eu nodi yw'r rhai cywir

  • Annog amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddod ynghyd a ffurfio grŵp ffocws 'thema' i ddatblygu'r cyfleoedd a nodwyd ymhellach

  • Annog ffyrdd newydd o weithio, i berthnasau newydd gael eu meithrin, a pharhau i feithrin ymddiriedaeth gyda'n phartneriaid presennol

  • Cynnwys adborth o sesiynau ymgysylltu Cymru Ifanc yn y Datganiad Ardal

  • Cyfeirio partneriaid a chymunedau tuag at gyfleoedd am ariannu sy'n cefnogi cyflawniad y Datganiad Ardal, gan gynnwys rhaglen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun

  • Codi pwyntiau a thrafodaethau penodol am bolisi sy'n ymwneud â Datganiadau Ardal yn ein rôl fel prif ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru

  • Gwella'n defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, wrth ystyried ffyrdd arloesol eraill o gynnwys pobl ym mhroses y Datganiad Ardal

  • Annog gwaith gwell rhwng portffolios ar draws cynghorau a sefydliadau eraill, gyda'r nod o fwyafu canlyniadau bioamrywiaeth

  • Gosod targedau realistig ond ystyrlon a mesuradwy ar gyfer gwydnwch ecosystemau

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae'r egwyddorion sy'n sail i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn hanfodol i broses y Datganiad Ardal. Wrth wraidd ei ddatblygiad y mae ein hymgysylltiad cydweithredol ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, rhai presennol a rhai newydd. Rydym wedi ceisio dechrau sgyrsiau sy'n bwysig, gan ofyn i bobl siarad â phobl nad ydynt yn eu hadnabod, neu na fyddent fel arall yn siarad â hwy. Wrth wneud hynny, daeth yn glir fod llawer yn rhannu gweledigaeth debyg o'r dyfodol, un a oedd yn y pen draw yn gosod y sylfeini ar gyfer ein pum thema. Er bod rhai o'r sgyrsiau hynny'n heriol, roeddent bob tro'n werth chweil ac yn gynhyrchiol.

Mae'r broses hon wedi'n helpu i ddiffinio'r broblem ar y cyd ac ennill dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r camau gweithredu posib, cyn penderfynu ar yr hyn sydd angen cael ei wneud i gyflawni'n 'gweledigaeth' a rennir. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o ran sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio. Yn y gorffennol, rydym wedi parhau gyda'n hopsiynau dewisol heb ymgysylltu na chwilio am unrhyw fath o gonsensws. Yr her nawr yw gweithio gyda'n partneriaid, ein rhanddeiliaid a'n cymunedau wrth lunio, ac yn y pen draw, gyflawni'r cyfleoedd hyn.

Bydd y Datganiad Ardal yn galluogi pob un ohonom i wneud penderfyniadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu nid yn unig ar yr wybodaeth sydd gennym, ond dystiolaeth mae ein partneriaid yn ei darparu. Bydd llawer o'r data ar gael i bawb drwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (potential link to go here?). Mae perthynas gref rhwng gwydnwch ecosystemau wrth gynnal a gwella bioamrywiaeth, y pedair thema arall sy'n creu Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, a'r cyfle i gyflawni manteision lluosog sy'n rhyng-gysylltu. Dylai hyn, ynghyd â pheth o'r dystiolaeth y mae ein rhanddeiliaid wedi'i chasglu, sicrhau y bydd gan Ddatganiadau Ardal ran ganolog yn y broses o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth o hyd, ond rydym yn gweithio i'w llenwi.

Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod bod angen i ni ddiogelu ein hecosystemau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu drwy feithrin gwydnwch. Mae perthynas gref rhwng gwydnwch ecosystemau wrth gynnal a gwella bioamrywiaeth, ein pedair thema Datganiad Ardal arall, a'r cyfle i gyflawni manteision lluosog sy'n rhyng-gysylltu. Mae'r holl themâu hyn wedi'u dylunio i wneud ein gwasanaethau ecosystemau’n fwy gwydn, i liniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac i helpu'n cymunedau i addasu i hinsawdd sy'n newid. Unwaith eto, nid yw rhai o'r manylion am sut orau i ddatblygu'r cyfleoedd hyn wedi cael eu trafod. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod modd mwyhau llawer ohonynt naill ai trwy ddilyn y llwybr seiliedig ar Ogledd-ddwyrain Cymru a ddiffinnir yma, neu drwy ymgymryd ag ymagwedd fwy rhanbarthol ar y cyd â Gogledd-orllewin Cymru.

Glöyn byw glas cyffredin ar draeth Rhyl© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, rydym yn rhagweld y bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn y ddadl ynghylch bioamrywiaeth drwy fwy o ymgysylltu. Caiff manylion eu cyhoeddi wrth i broses y Datganiad Ardal ddatblygu. Cadwch lygad allan felly. Os ydych am gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch northeast.as@naturalresourceswales.gov.uk

Rhowch adborth

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.