Cwynion a chanmoliaeth

Cwynion anffurfiol

Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym wedi gweithredu, ag unrhyw ddiffyg gweithredu, neu â’r safon neu’r gwasanaeth yr ydym yn eu darparu, gadewch inni wybod. Mae hyn yn rhoi’r cyfle inni gywiro pethau ac adolygu’r ffordd yr ydym yn eu gwneud yn y dyfodol.

Gellir datrys y rhan fwyaf o broblemau drwy drafod y mater gyda’r unigolyn yr ydych wedi bod yn delio ag ef neu gyda’i reolwr llinell. Yn aml gellir datrys cwynion yn syth fel hyn.

Cwynion ffurfiol

Os ydych am godi cŵyn yn swyddogol, gallwch chi:


Neu ffonio 0300 065 3000 i godi cwyn dros y ffôn

Bydd y rhain yn cael eu trin yn unol â'n Polisi Cwynion a Chanmoliaeth.

Cofiwch nad yw cwyn yr un peth â:

  • cais cychwynnol am wasanaeth - mae'r manylion ar y dudalen Cysylltu â ni
  • yn apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad 'a wnaed yn briodolgan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eithrio pan fod y trydydd parti hwnnw yn fusnes rheoledig sy'n gwneud apêl anffurfiol
  • ffordd o geisio newid y gyfraith neu benderfyniad polisi 'a wnaed yn briodol'
  • ffordd i grwpiau lobïo neu sefydliadau eraill hyrwyddo eu hachos

Os yw'r mater yn ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth neu Ddiogelu Data, cysylltwch â timmynediadatwybodaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os ydych yn teimlo bod y ffordd yr ydym wedi delio â'ch cwyn wedi bod yn anfoddhaol, cysylltwch â'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl eich bod wedi dod â'ch pryderon i'n sylw ni yn gyntaf fel bod wedi cael cyfle i wneud pethau'n iawn.

Iaith Gymraeg

Gallwch wneud cwyn i ni os byddwn ni'n methu â darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os oes unrhyw un yn anfodlon gyda safon y gwasanaeth Cymraeg rydym yn ei ddarparu. 

Gallwch hefyd wneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg.

 Byddwn yn delio â'r holl gwynion a dderbyniwn yn unol â’n Polisi Cwynion a Chanmoliaeth gan gynnwys y rhai a dderbyniwn mewn perthynas â'n methiant i gydymffurfio â'n Safonau Iaith Gymraeg, Safonau Cyflenwi Gwasanaethau, Safonau Cadw Polisi a Safonau Gweithredol. Ni fydd cwynion sy'n cael eu derbyn yn Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn wahanol o ran yr amseroedd ymateb.

Mae gennym Dîm Cwynion a Chanmoliaeth pwrpasol sy'n ymdrin â chwynion yn ôl Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â'n Safonau Iaith Gymraeg. Bydd unrhyw gŵyn a dderbyniwn mewn perthynas â'n Safonau yn cael ei thrafod gyda'n Cynghorydd Polisi Iaith Gymraeg a rhan berthnasol y busnes dan sylw. Mae ein Tîm Cwynion a Chanmoliaeth yn cydlynu'r ymateb ac yn cyfathrebu â'r achwynydd ym mhob achos.

Diweddarwyd ddiwethaf