Cael mynediad i'n data

Mae gennym ddau gategori o ddata:

  • Data agored
  • Data sensitif

Data agored 

Mae Data Agored yn ddata am ddim y gall unrhyw un edrych arno, ei ailddefnyddio neu ei ailgyhoeddi os yw’r ffynhonnell wreiddiol wedi ei phriodoli. Rydym yn sicrhau fod y data hwn ar gael dan Trwydded Llywodraeth Agored (OGL).

Rydym yn cyhoeddi mwy o’n data fel Data Agored yn barhaus, a hynny er budd ein cwsmeriaid, yr amgylchedd a’r economi.

Yn achos rhai data, mae’n rhaid inni gyfyngu mynediad o ganlyniad i resymau diogelu data, rhesymau cyfreithiol neu resymau eraill. Mae’r data hyn ar gael dan drwydded ddata amodol.

MapDataCymru

Gallwch lawrlwytho ein Data Agored cyhoeddedig o MapDataCymru. Gellir gweld rhywfaint o ddata hefyd a'i gyfuno â data arall o'r catalog ar syllwr MapDataCymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu MapDataCymru ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Mae'n cyflwyno gwybodaeth ac offer daearyddol gyda ffocws ar Gymru.

Syllwyr map

Gallwch weld data dethol ar ein syllwyr map, megis lefelau afonydd.

Defnyddiwch y syllwr map perygl llifogydd i wirio eich perygl llifogydd hirdymor o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chronfeydd dŵr. Gellir gweld data hefyd ar syllwr MapDataCymru.

Archif Genedlaethol Llif Afon

Mae data llif afonydd ar gael yn yr Archif Genedlaethol Llif Afon.

Os nad yw’r data i Gymru yr ydych eu hangen ar gael ar y wefan hon, cysylltwch gallwch wneud cais am ddata. Rhowch wybod inni beth yw’r cyfnod amser a lefel angenrheidiol y manylder (e.e. cyfanswm dyddiol) wrth gyflwyno eich cais.

Porth API data byw

Gall datblygwyr data lawrlwytho ein APIs Data Agored o Borth API Cyfoeth Naturiol Cymru.

Setiau data sydd ar gael ar hyn o bryd

  • APIs Darogan Perygl Llifogydd (Data Agored) – arwydd o’r perygl llifogydd ar gyfer ar gyfer y pum niwrnod nesaf
  • APIs Rhybuddion a Hysbysiadau Llifogydd Byw (Data Agored) – rhestr o’r holl rybuddion sydd mewn grym ar y pryd. Caiff ei ddiweddaru bob 15 munud
  • APIs Lefelau Afonydd (Data Agored) – yn darparu gwybodaeth ar lefelau’r môr, glawiad a lefelau afonydd

NBN Atlas Wales

Rydym yn cyhoeddi’r rhan fwyaf o’n data ecoleg, megis rhywogaethau a chynefinoedd, ar NBN Atlas Wales.

Mae Data a gwybodaeth ecolegol yr esemptir rhag eu rhyddhau’n gyffredinol o dan reoliadau RhGA/RhG yn egluro pam y mae rhywfaint o ddata ar gael unig dan drwydded ddata amodol. 

Cynhyrchion data llifogydd, gan gynnwys modelau llifogydd

Gofynnir am y rhain fel arfer ar gyfer eu defnyddio mewn Asesiadau Perygl Llifogydd neu Asesiadau Canlyniadau Llifogydd.

Gallwn ddarparu Adroddiadau Perygl Llifogydd at ddibenion yswiriant.

Cysylltwch â ni i gael data, modelau ac adroddiadau pwrpasol.

Mae data crai ar gael ar Data llifogydd agored CNC ar Map Data Cymru.

Adroddiadau

Chwiliwch ein hadroddiadau neu cysylltwch â'n llyfrgell trwy e-bost: library@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Sut y gellir darganfod a yw data yn agor neu sensitif?

Gallwch ddarganfod a yw data yn agored neu sensitif, neu chwilio am ddata, drwy edrych ar ein catalog data

Diweddarwyd ddiwethaf