Gwneud cais am ddata
Cyn gwneud cais am ddata gennym, ceisiwch ddod o hyd i’r data ar-lein.
Gallwch wneud y canlynol:
- gwirio eich perygl llifogydd tymor hir o afonydd ac o’r môr gan ddefnyddio’r syllwr map perygl llifogydd
- gwirio lefelau afonydd
- lawrlwytho a gweld data amgylcheddol at MapDataCymru a syllwr MapDataCymru
- cael mynediad i ddata ecoleg, e.e. rhywogaethau a chynefinoedd, ar NBN Atlas Cymru
- gwirio’r cofrestrau cyhoeddus am drwyddedau ac eithriadau
- edrych ar y data llif afonydd ar National River Flow Archive
- darganfod adroddiadau tystiolaeth ar-lein, neu chwilio’r llyfrgell
- edrych ar y mapiau
Gwneud cais am ddata
Os na allwch ddod o hyd i’r data sydd ei angen arnoch o’n hadnoddau ar-lein:
- chwiliwch y catalog data i ganfod data arall sydd ar gael
- cwblhewch ffurflen gwneud cais am ddata
Gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i gyflenwi data nad yw ar gael ar-lein.
Os na allwch ddarganfod adroddiadau ar-lein cysylltwch â’n llyfrgell: library@naturalresourceswales.gov.uk.
Trwyddedau agored ac amodol
Rydym yn darparu data CNC dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) a thrwydded amodol CNC. Rydym yn defnyddio trwydded amodol ar gyfer data CNC sensitif sy’n gofyn am gyfyngiadau ailddefnyddio penodol.
Data trydydd parti
Mae data sydd wedi ei nodi fel data trydydd parti yng nghatalog y llyfrgell yn cael ei gadw ar gyfer ei ailddefnyddio’n fewnol gan CNC. Fel arfer ni ellir trwyddedu data trydydd parti i ymgeiswyr allanol. Bydd angen ichi gysylltu â’r darparydd trydydd parti yn uniongyrchol.