Adroddiad ar berfformiad 2023-24
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad blynyddol a'n cyfrifon 2023/24
Dros y tudalennau canlynol mae ein Prif Weithredwr, Clare Pillman, yn cynnig ei phersbectif ar ein perfformiad dros y flwyddyn ac rydym yn amlinellu pwrpas ein sefydliad, ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd newydd, y prif risgiau a phroblemau sy’n ein hwynebu, ac yn egluro sut rydym wedi llwyddo i gyflawni ein hamcanion eleni.
Datganiad y Prif Weithredwr
Mae sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus yn wynebu heriau cynyddol o ran cwrdd â galwadau gwasanaeth dwysach, a hynny wrth ymdopi â llai o gyllid a chyfyngiadau yn y gyllideb, ac nid ydym yn eithriad i hyn. Rydym wedi wynebu pwysau ychwanegol sylweddol eleni, yn enwedig mewn perthynas â rheoli costau uwch yn ogystal ag ansefydlogrwydd yn yr incwm pren. Rydym wedi gweithio'n galed i liniaru'r pwysau hwn ar ein cyllideb, megis drwy rewi recriwtio allanol a lleihau cyllidebau nad ydynt yn ymwneud â staff, ond mae heriau difrifol yn parhau.
Rydym wedi cynnal adolygiad trylwyr o'n holl weithgareddau i wneud y gostyngiadau pellach yn y gyllideb sydd eu hangen i'n gosod ar lwybr cynaliadwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac wedi hynny. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd mwyaf posibl er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen, ond mae'n amlwg y bydd angen i ni leihau a/neu atal rhai o’r gwasanaethau. Rydym yn ystyried ein holl opsiynau ond, yn anffodus, bydd rhai penderfyniadau anodd i’w gwneud, ac mae’n anochel y caiff hyn effaith ar wasanaethau y mae’r cyhoedd yn eu mwynhau ac yn eu disgwyl. Serch hynny, rydym yn cydnabod y byddwn yn pennu cyllideb o dros £270 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy’n fuddsoddiad sylweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, hinsawdd a llygredd. Ein cynllun corfforaethol newydd yw ein seren y Gogledd o ran cyflawni’r newid yr ydym am ei weld ar gyfer natur a phobl hyd at 2030 a’r tu hwnt.
Rydym wedi ymrwymo i gryfhau’r system ar gyfer monitro cyflawniad yn erbyn ein hamcanion llesiant fel y gallwn gael ein dwyn i gyfrif gan Weinidogion a phobl Cymru. Rydym wedi cryfhau ein fframwaith rheoli perfformiad yn erbyn cyflawni’r cynllun, gan gynnwys datblygu datganiadau effaith uchelgeisiol i gyd-fynd â’r dangosyddion strategol a’r naratifau ategol. Mae’r datganiadau effaith uchelgeisiol hyn yn edrych tuag allan ac yn cydnabod yn glir na allwn eu cyflawni ar ei ben ei hun.
Wedi’i chytuno eleni, mae ein strategaeth adeiladau yn nodi’r weledigaeth ar gyfer ein portffolio dros y degawd nesaf, gyda’r nod o sicrhau y byddwn yn diwallu anghenion busnes ymatebwr Categori 1 wrth drawsnewid tuag at ddyfodol carbon sero net. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol yn y sector cyhoeddus i archwilio synergeddau, rydym yn canolbwyntio ar wasanaethau a rennir ar ein hystad adeiledig, wrth wella llesiant staff. Mae symud ein swyddfa yng nghanol Caerdydd i lawr pwrpasol yn adeilad LlC ym Mharc Cathays yn rhan o gynllun sy’n anelu at wneud arbedion allyriadau ac effeithlonrwydd sylweddol i ni a’r sector cyhoeddus ehangach, gan sicrhau arbedion o rhwng £3 miliwn a £4 miliwn wrth leihau ein hallyriadau gwresogi a goleuo tua 50% dros y deng mlynedd nesaf.
Natur
Gan adlewyrchu argymhellion ein sgwrs genedlaethol, Natur a Ni, rydym yn falch o’n ffocws ar adferiad byd natur yn ein cynllun corfforaethol. Rydym wedi croesawu Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru yn fawr iawn, sydd wedi canolbwyntio ar egni a sut y bydd Cymru yn cyflawni’r ymrwymiadau 30:30 o COP15. Mae’r archwiliad dwfn bellach ar fin cyrraedd cam hollbwysig o ran adrodd ac edrychwn ymlaen at ei argymhellion a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.
Rydym hefyd yn falch bod yn parhau â’n gwaith fel gwesteiwr Natur am Byth, sef prosiect Adfer Gwyrdd blaenllaw Cymru sy’n uno naw elusen amgylcheddol i ddarparu rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad. Gyda dros £4 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a chymorth ychwanegol i’w groesawu gan Lywodraeth Cymru, mae’r bartneriaeth yn rhoi’r gallu, y mae mawr ei angen, i’r sector treftadaeth naturiol i achub rhywogaethau sydd o dan fygythiad rhag diflannu, a hynny wrth ailgysylltu pobl â byd natur.
Yr hinsawdd
Wrth i effeithiau’r hinsawdd waethygu, mae angen inni ddeall y gofynion buddsoddi fel y gallwn ni, fel cymdeithas, gynllunio’n effeithiol i reoli’r effaith. Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd adroddiad gennym sy’n amlinellu’r heriau sydd ynghlwm wrth reoli, ac ariannu’r perygl o lifogydd a achosir gan y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, dros yr hirdymor.
Ar lawr gwlad, i raddau helaeth, cafodd gwaith ar y cynllun rheoli perygl llifogydd gwerth £4.1 miliwn yn Rhydaman ei gwblhau y gaeaf hwn, ac yng Nghasnewydd, Gwent, rydym ar fin cwblhau cynllun £21 miliwn sy’n cynnwys cyfuniad o waliau llifogydd, gatiau ac argloddiau glaswellt. Mae’r ddau yn brosiectau sylweddol a fydd, gyda’i gilydd, yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 2,000 o gartrefi ac ardaloedd diwydiannol pwysig, gan gadw busnesau ar agor a chefnogi’r economi leol ehangach.
Mae mawndiroedd ymhlith ein cynefinoedd pwysicaf, nid yn unig o ran bioamrywiaeth ond hefyd o ran dal a storio carbon. Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn brosiect sylweddol a fydd yn ein helpu i adfer y mawndiroedd hynny sydd, yn ogystal â’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud fel rhan o’r rhaglen Argyfwng Natur a Hinsawdd, yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at wrthdroi’r dirywiad mewn natur a mynd i'r afael ag effeithiau hinsawdd.
Lleihau llygredd
Diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, eleni rydym wedi penodi a hyfforddi tuag 20 o swyddogion i gyflawni’r rhaglen o gynnal arolygiadau cydymffurfedd o weithgareddau amaethyddol risg uchel ledled Cymru a ddechreuodd o ddifrif ym mis Tachwedd. Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ansawdd dŵr yn ehangach hefyd, gan weithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn Lloegr ar yr effeithiau ar afon Gwy, yn ogystal â gweithio gyda’r tasglu aml-asiantaeth, Gwella Ansawdd Afonydd Cymru, er mwyn sicrhau bod ein dulliau rheoleiddio, a’n hymdrechion ar y cyd i leihau llygredd, yn addas ar gyfer y dyfodol.
Ni fu ein perthynas â’n rhanddeiliaid erioed mor bwysig, ac rwy’n falch o weld cryfder yr ymrwymiad cadarn ar draws y sefydliad i feithrin ein cysylltiadau â phartneriaid allweddol fel y cyrff ffermio, ein cyrff anllywodraethol amgylcheddol (eNGOs), a’r sector preifat ledled Cymru, yn gadarnhaol.
Ond, wrth inni wynebu rhwystrau gwleidyddol ac economaidd cynyddol anodd, mae pegynnu’r ddadl gyhoeddus yn golygu bod ein hegni cyfunol yn aml yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth yr hyn a ddylai fod yn un gwir nod inni, sef mynd i’r afael ag effaith yr argyfwng natur a hinsawdd. Nid nawr yw’r amser ar gyfer sgorio pwyntiau neu agendâu personol, mae llawer gormod yn y fantol.
Mae’n hollbwysig inni i gyd gofio bod llawer mwy sy’n ein huno nag sy’n ein rhannu, er mwyn i natur a phobl allu ffynnu gyda’n gilydd.
Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro - 16 Hydref 2024
Cyflwyno CNC
Rydym yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio dros bobl Cymru, a'n dyletswydd yw ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae'r egwyddorion arweiniol hyn yn sail i bopeth a wnawn, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio ein cysylltiadau ac yn dod â phobl ynghyd i greu a chyflawni canlyniadau a rennir er natur, yr hinsawdd a lleihau llygredd.
Mae cariad ac angerdd dros natur, gwybodaeth fanwl ac arbenigedd, yn ogystal â bod yn falch o gefnogi cymunedau ledled Cymru i weithredu, yn bethau yr ydym yn eu rhannu â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill.
Ein gweledigaeth
Byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.
Ein cenhadaeth:
Canolbwyntio ein hangerdd a’n camau gweithredu ar y cyd tuag at sicrhau’r canlynol:
- adfer byd natur
- datblygu’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
- lleihau llygredd
drwy reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy.
Ein gwerthoedd
Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru drwy fyw ein gwerthoedd:
- Perthyn: rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas ddofn â thir a dŵr, a natur a chymunedau Cymru ac, rydym yn creu partneriaethau ystyrlon
- Beiddgar: rydym yn defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain trwy osod esiampl
- Ystyriol: rydym yn gwrando er mwyn deall ac yn gofalu am ein gilydd, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a'r amgylchedd yr ydym i gyd yn dibynnu arno
- Dyfeisgar: rydym yn archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau yn effeithiol.
Mae'r gwerthoedd hyn yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth a'n cenhadaeth newydd yn llwyddiannus.
Ein hamcanion llesiant hyd at 2030
Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd:
- byd natur wrthi’n gwella
- cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
- llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf.
Drwy ganolbwyntio ar y tri amcan llesiant gyda’i gilydd, byddwn yn diogelu ac yn gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
CNC mewn ffigurau
Dyma ffigurau sy’n ymwneud â'n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys rhywfaint o waith gydag eraill:
Amcan llesiant 1: Byd natur wrthi’n gwella
Rydym yn cefnogi adferiad byd natur drwy wneud y canlynol:
- dynodi 1,168 o safleoedd Cymreig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG) a/neu’n Barc Cenedlaethol, gan gefnogi dyfodol yr ardaloedd hyn
- cefnogi 46 o brosiectau rhwydweithiau natur yn uniongyrchol i sicrhau adferiad cynefinoedd a rhywogaethau
- cyhoeddi 1,712 o drwyddedu rhywogaethau fel bod anghenion rhywogaethau yn cael eu hystyried mewn perthynas â gweithgareddau a fyddai’n effeithio arnynt
- rheoli 56 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol (rhai mewn partneriaeth ag eraill) ac annog pobl i archwilio, mwynhau a gwerthfawrogi’r safleoedd arbennig hyn
Amcan llesiant 2: Cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Rydym yn cefnogi gallu cymunedau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy wneud y canlynol:
- bod yn aelod o bob un o’r 13 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, gan rannu a datblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu
- ymateb i 7,982 o ymgyngoriadau ar geisiadau cynllunio i sicrhau bod ein safbwynt ar gynigion datblygu wedi’i nodi’n glir, gan gynnwys unrhyw amodau a ddisgwylir
- cynhyrchu £32 miliwn mewn incwm pren gan gefnogi’r gwaith parhaus o reoli’r ystad goetir yn gynaliadwy
- cynnal dros 3,900 o asedau rheoli perygl llifogydd wrth reoli perygl llifogydd yn y dyfodol
- 109,346 eiddo wedi'u cofrestru i gael rhybuddion llifogydd gan ddarparu rhybuddion am lifogydd disgwyliedig neu bosibl ymlaen llaw
Amcan llesiant 3: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Rydym yn cefnogi lleihau llygredd drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau 85 o erlyniadau am droseddau amgylcheddol yn 2023 fel rhan o’n dull o gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio
- Derbyn oddeutu 25,000 o ymholiadau cyffredinol dros y ffôn neu drwy e-bost, a helpu pobl gyda’u hymholiadau a’u ceisiadau am wasanaethau yn Gymraeg/Saesneg
- Ymateb i 10,845 adroddiad am ddigwyddiadau amgylcheddol,a 198 o ddigwyddiadau amgylcheddol sydd wedi achosi effaith ddifrifol (fawr neu arwyddocaol)
Crynodeb o risgiau allweddol
Mae risg yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Roedd lansiad ein cynllun corfforaethol newydd yn gyfle i adolygu’r risgiau allweddol mewn perthynas â chyflawni ein hamcanion llesiant. Fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Atebolrwydd, mae ein risgiau'n cael eu nodi, eu hasesu, eu rheoli, eu hadolygu, eu craffu a'u cofnodi.
Ein risgiau strategol yw'r rhai a allai gael yr effaith fwyaf a mwyaf dwys ar gyflawni ein hamcanion. Mae'r chwe risg isod yn cael eu rheoli'n weithredol gan berchennog risg ar lefel cyfarwyddwr ynghyd â'i reolwr(wyr) risg. Mae gan bob risg strategol lefel archwaeth risg (parodrwydd i dderbyn risg) a bennir gan y Bwrdd. Ceir isod grynodeb o’n meysydd risg allweddol, a sut maent wedi newid:
Cynaliadwyedd ariannol
Mae angen i ni weithredu cyllideb gytbwys a sicrhau bod ein penderfyniadau’n cael effaith gadarnhaol ar ein cynaliadwyedd ariannol hirdymor er mwyn cyflawni'r cynllun corfforaethol. Mae effeithiau allanol chwyddiant, costau cynyddol a heriau o fewn y gadwyn gyflenwi yn cynyddu'r angen am reolaeth risg effeithiol, a dealltwriaeth glir o'n parodrwydd i dderbyn risg, yn ogystal â'r angen i fod yn ystwyth ac yn addasadwy i'r newidiadau cyson ac ansefydlogrwydd economaidd.
Cydnerthedd sefydliadol
Mae angen inni baratoi’n ddigonol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau ar raddfa fawr a allai achosi aflonyddwch busnes sylweddol, ee ymosodiad seiberddiogelwch neu ddigwyddiad tywydd garw. Mae’r risg yn canolbwyntio ar yr angen inni sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau o’r fath, yn ymateb iddynt ac yn adfer ar eu hôl drwy waith sganio’r gorwel, cynllunio senarios a sicrhau bod cynlluniau parhad busnes a chynlluniau adfer ar ôl trychineb effeithiol ar waith.
Iechyd a diogelwch
Fel rhan o’n darpariaeth weithredol, rydym yn ymgymryd â gweithgareddau risg uchel, sy’n cynnwys gweithio gyda pheiriannau trwm, gweithio mewn dŵr, gweithio gyda llifiau cadwyn – yn aml ar dir anodd. Mae’r risg yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y seilwaith, yr hyfforddiant a’r cymwyseddau ar waith a’n bod yn rheoli’r risgiau hynny yn unol â gofynion y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith i leihau tebygolrwydd y risg, a’i heffaith. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler papurau chwarterol y Bwrdd ynglŷn â ‘llesiant, iechyd a diogelwch’.
Gwerthoedd a ffyrdd o weithio
Mae'r risg hon yn canolbwyntio ar yr angen inni sicrhau bod ein ffyrdd o weithio a'n gwerthoedd yn cyd-fynd â’i gilydd er mwyn cyflawni'r cynllun corfforaethol. Mae angen i’n model gweithredu, y strwythur llywodraethu, y methodolegau blaenoriaethu, y parodrwydd i dderbyn risg, yr ymddygiadau a’r arferion sy’n cefnogi ein gwerthoedd fod yn sail ar gyfer cyflawni ein hamcanion llesiant. Gweler yr enghreifftiau o dan y pennawd ‘Dadansoddiad o berfformiad’ sy’n ymwneud â datganiadau effaith drafft ynghylch gwerthoedd ac ymddygiadau i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
Pobl
Mae angen inni ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad ein staff mewn ffordd sy'n golygu ein bod yn cyflawni yn y ffordd orau bosibl. Mae angen lleoli'r bobl iawn yn y mannau cywir, ac fel sefydliad mae angen inni sicrhau bod hyblygrwydd yn ein strwythur a bod blaenoriaethu a chynllunio adnoddau / olyniaeth yn cyd-fynd â'n cynllun corfforaethol.
Yr amgylchedd gwleidyddol, deddfwriaethol ac economaidd
Mae angen inni ddehongli a rhagweld yr amgylchiadau gwleidyddol, deddfwriaethol ac economaidd newidiol sy’n effeithio ar weithgareddau CNC a dylanwadu arnynt, cynllunio ar eu cyfer ac addasu ac ymateb iddynt. Mae’r dirwedd wleidyddol newidiol ledled Cymru a’r DU wedi creu angen i sicrhau bod CNC yn cadw i fyny, yn cryfhau perthnasoedd, yn defnyddio ac yn datblygu rhwydweithiau ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol er mwyn helpu i hwyluso camau gweithredu trawsnewidiol. Mae angen inni achub ar bob cyfle i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein hamcanion llesiant drwy weithio’n effeithiol gyda’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid.
Crynodeb ariannol
Cyfanswm ein hincwm am y flwyddyn oedd £134 miliwn ac roedd hyn yn cynnwys £34 miliwn o grantiau gan Lywodraeth Cymru tuag at ystod o ganlyniadau. Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru £141 miliwn o gymorth grant, y cafodd £58 miliwn ohono ei ddyrannu ar gyfer rheoli llifogydd a risgiau arfordirol. Darparodd Llywodraeth Cymru hefyd £3 miliwn ar ffurf cyllid cyfalaf gweithio. Yn y datganiadau ariannol, caiff cymorth grant a chyllid cyfalaf gweithio eu cofnodi fel ‘Cyllid gan Lywodraeth Cymru’ a’u hystyried yn gyfraniad gan awdurdod â rheolaeth ac nid yn ffynhonnell incwm.
Yn 2023/24, cynyddodd ein gwariant o £272 miliwn i £300 miliwn. Mae nifer o resymau’n gyfrifol am y newid mewn gwariant, gan gynnwys cynnydd yng nghostau staff – yn bennaf oherwydd ein dyfarniad cyflog a'r taliad costau byw (gostyngodd nifer ein staff mewn gwirionedd) – a’r gwaith o gynnal ein rhaglenni cyfalaf. Gwnaethom leihau costau mewn nifer o feysydd (prynu gwasanaethau i mewn) er mwyn gallu fforddio'r effaith a gafodd chwyddiant a’r gostyngiad yn yr incwm pren ar ein cyllidebau. Dyma ddosbarthiad cyfanswm ein cyllid a’n gwariant:
- Cyllid fesul math:
- Cyllid gan Lywodraeth Cymru (52% / £144 miliwn),
- Taliadau (18% / £50 miliwn),
- Incwm masnachol ac incwm arall (17% / £46 miliwn),
- Grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru (12% / £34 miliwn),
- Cyllid Ewropeaidd a chyllid allanol arall (1% / £3 miliwn)
- Gwariant fesul math:
- Costau staff (44% / £131 miliwn),
- Arian a wariwyd ar waith cyfalaf yn ystod y flwyddyn (16% / £48 miliwn),
- Gwariant arall (40% / £120 miliwn)
Rheoli ein harian
Yn 2023/2024, o ran lefelau arian parod, roedd swm y cyllid ‘craidd’ a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn debyg i’r flwyddyn ariannol flaenorol. Hefyd, parhaodd Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant penodol i ni ar gyfer rhaglenni sydd wedi'u targedu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Gwnaethom gynnal ein buddsoddiad mewn rhaglenni a ariennir yn allanol – gan fuddsoddi mwy na £5 miliwn mewn rhaglenni a ariennir gan Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Gwelwyd gostyngiad yn ein hincwm pren wrth i’r sefyllfa economaidd effeithio ar y galw am bren ac wrth i’n lefelau incwm ynni adnewyddadwy hefyd ostwng o uchafbwynt y flwyddyn flaenorol. Mae’r lefelau incwm o godi tâl wedi cynyddu'n gymedrol ers cyflwyno ffioedd trwyddedu a cheisiadau diwygiedig. Cymeradwywyd y gyllideb gan y Bwrdd a chraffwyd arni drwy gydol y flwyddyn ariannol gan y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.
Edrych i'r dyfodol
Rydym wedi cyhoeddi ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’n cynllun busnes ar gyfer 2024/2025, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn/blynyddoedd ariannol sydd i ddod. Rydym wedi gosod ein cynlluniau ar sail adnoddau disgwyliedig, gan gynnwys cymorth grant, incwm o godi tâl, a dyraniadau ac amcangyfrifon incwm masnachol. Rydym newydd dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer y taliadau a godir gennym ar gyfer 2024/2025. Gall ein hincwm masnachol fod yn llai rhagweladwy gan ei fod yn sensitif iawn i newidiadau yn y gyfradd gyfnewid, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno trothwy er mwyn ein diogelu rhag gostyngiadau yn yr incwm o bren. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ein dyraniad cymorth grant ar gyfer 2024/2025 ar lefel arian parod debyg, ond ein her fwyaf yw fforddio effaith lefelau cyflog a chwyddiant ac rydym ar hyn o bryd yn asesu sut y byddwn yn gwneud newidiadau i’n gwasanaethau fel eu bod yn fforddiadwy.
Asedau anghyfredol
Ar 31 Mawrth 2024, gwerth ein hasedau anghyfredol oedd £2,750 miliwn, sef gostyngiad o 0.7% (£19 miliwn) o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Yr elfen fwyaf arwyddocaol yw gwerth yr ystad goedwig a’r asedau biolegol sy’n cyfrif am £2,146 miliwn, sef gostyngiad o 4% (£89 miliwn) oherwydd cyfuniad o ostyngiad ym mhrisiadau cnydau wedi’i wrthbwyso gan gynnydd ym mhrisiad sylfaenol y tir.
Taliadau masnachol a thaliadau eraill
Rydym wedi ymrwymo i dalu 95% o gyflenwyr o fewn 30 o ddiwrnodau, ac rydym yn ceisio mynd y tu hwnt i'r targed hwn pan fo'n bosibl. Gwnaethom lwyddo i dalu 96% eleni.
Perfformiad dyledwyr
O ganlyniad i’n dull parhaus o reoli dyled fasnachol, bu gostyngiad bach yn y ddyled fasnachol, gan olygu mai 0 diwrnod oedd nifer cyfartalog y diwrnodau i gwsmeriaid dalu o gymharu â 2022/2023, ac mae hynny o fewn ein targed o ddau ddiwrnod.
O ran y ffordd yr ydym yn rheoli dyled reoleiddiol, gwelwyd lefel y ddyled yn aros yr un fath, sef 6.5% yn 2022/2023 a 6.5% ddiwedd 2023/2024, a oedd yn dal yn is na'n targed o 7%. Byddwn yn anelu at osod targed sy'n well na 6.5% ar gyfer 2023/2024 – gallai fod yn anodd cyflawni hyn yn yr hinsawdd bresennol.
Ar 31 Mawrth 2024, ein colled credyd ddisgwyliedig oedd £0.2 miliwn.
Busnes hyfyw
Mae’r datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023 yn dangos bod ecwiti trethdalwyr yn £2,683 miliwn, sy’n gadarnhaol. Bydd ein rhwymedigaethau yn y dyfodol yn cael eu hariannu gan gymorth grant Llywodraeth Cymru a thrwy gymhwyso incwm yn y dyfodol. Mae gennym gynllun corfforaethol a chynllun busnes cymeradwy ar gyfer 2024/25. Felly, mae'n briodol mabwysiadu dull busnes hyfyw wrth baratoi'r datganiadau ariannol.
Pensiynau
Datgelir y rhwymedigaeth/gwarged pensiwn yn y datganiadau ariannol, sy’n seiliedig ar Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19. Mae’r gwarged ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi lleihau o £65 miliwn i £58 miliwn yn 2023/2024.
Mae hyn yn wahanol i'r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau cyllido. Roedd rheolwyr Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amcangyfrif bod ganddi ddigon o asedau i fodloni 153% o'i rhwymedigaethau disgwyliedig yn y dyfodol ar 31 Mawrth 2024.
Archwilwyr
Caiff ein cyfrifon eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rhagwelir mai’r ffi archwilio ar gyfer 2023/2024 fydd £213,000.
Adroddiadau eraill
Fel sefydliad, rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau yn rheolaidd, a gellir gweld llawer ohonynt yma, gan gynnwys y ddogfen hon, sef yr adroddiad blynyddol a chyfrifon, yr adroddiad cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant blynyddol, ac adroddiad amgylcheddol. Mae strategaethau a chynlluniau ar gyfer Cymru ar gael yma, gan gynnwys ein cynllun corfforaethol newydd, ein Strategaeth fasnachol a'n Datganiadau Ardal (sy’n amlinellu’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer ardaloedd yng Nghymru). Mae adroddiadau tystiolaeth ac ymchwil a gyhoeddwyd ar gael yma (gan gynnwys Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (SoNaRR)ar gyfer Cymru).
Crynodeb o berfformiad
Mae’r holl fesurau ar ddangosfwrdd ein cynllun busnes yn ymwneud â’n hamcanion llesiant, fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol newydd. Mae’r dangosfwrdd yn adlewyrchu detholiad cynrychioliadol o fesurau sy’n cyd-fynd â’r amcanion llesiant rydym yn gweithio tuag atynt, gan gynnig trosolwg o’n gwaith. Ochr yn ochr â'r mesurau detholedig hyn, mae llawer iawn o waith arall yn digwydd. O dan ofynion dwysach ar wasanaethau, cyllid heriol a chyfyngiadau cyllidebol, rydym wedi wynebu pwysau ychwanegol sylweddol eleni. Rydym wedi gweithio'n galed i liniaru'r pwysau hyn ar ein cyllideb, gan gynnwys drwy rewi recriwtio allanol a lleihau cyllidebau nad ydynt yn ymwneud â staff. Mae hyn i gyd wedi cael effaith ar draws y sefydliad, ac mae rhywfaint o’n gweithgareddau wedi arafu, neu heb eu cyflawni, o ganlyniad.
Fel yr amlinellwyd yn ein Hadroddiad Atebolrwydd, mae adrodd a chraffu ar yr adroddiadau ar fesurau ar y dangosfwrdd yn digwydd mewn sesiwn gyhoeddus agored yn ystod ein cyfarfodydd Bwrdd bedair gwaith y flwyddyn, ac mae craffu pellach ar yr adroddiadau hyn yn digwydd drwy Lywodraeth Cymru.
Ar ddiwedd blwyddyn 2023/2024, roedd y dangosfwrdd yn cynnwys 22 o fesurau ac, o blith y rhain:
- roedd 15 yn wyrdd (hy cyflawnwyd y targed neu garreg filltir)
- roedd chwech yn oren (hy bron â chyflawni’r targed neu garreg filltir)
- roedd un yn goch (hy methwyd â chyflawni’r targed neu garreg filltir)
O gymharu’r perfformiad â’r flwyddyn flaenorol (2022/23), ar ddiwedd 2023/24 roedd gennym bum mesur yn llai a oedd yn oren neu’n goch, a phedwar yn llai o fesurau gwyrdd (ac roedd dangosfwrdd 2023/24 yn adlewyrchu’r ffaith bod naw mesur yn llai yn gyffredinol).
Gellir gweld ein hadroddiadau ar gyfer blynyddoedd blaenorol yma (gweler ‘Adroddiadau blynyddol a chyfrifon’).
Dadansoddiad o berfformiad
Nod y rhan hon o'r adroddiad ar berfformiad yw adlewyrchu rhywfaint o'r hyn a gyflawnwyd eleni, gan gynnwys enghreifftiau sy'n adlewyrchu uchafbwyntiau penodol a meysydd lle profwyd heriau sylweddol.
Rydym yn amlinellu'r canlynol fesul amcan llesiant:
- Y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn (crynodeb) ar gyfer pob un o’r mesurau ar ddangosfwrdd ein cynllun busnes
- Rhywfaint o'n gweithgareddau â blaenoriaeth arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod
- Nifer o enghreifftiau cyflawni cysylltiedig
Nodir perthnasoedd cyflawni hefyd gyda:
- Nodau Llesiant Cymru, ar gyfer pob un o’n tri amcan llesiant
- Datganiadau o effaith drafft, ar gyfer enghreifftiau detholedig o gyflawni
Amcan llesiant 1: Byd natur wrthi’n gwella
Mwy cyfartal, Iachach, Cydnerth, Llewyrchus, Cyfrifol ar lefel fyd-eang, Diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu, Cymunedau cydlynus
Beth sydd ei angen er mwyn sicrhau adferiad byd natur?
“Mae hyn yn golygu cymryd camau brys i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a datblygu gallu ecosystemau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd gan ganiatáu i natur addasu i hynny, a pharhau i fod yn sail i fywyd yn gyffredinol – hynny yw, aer glân, dŵr glân, bwyd a hinsawdd sefydlog. Mae angen i Gymru weithredu nawr er mwyn osgoi methiant trychinebus o ran ein hecosystem.”
Mae ein cynllun corfforaethol yn nodi y byddwn yn cymryd camau i sicrhau adferiad byd natur erbyn 2030 drwy wneud y canlynol: Gwarchod natur; adfer natur; sicrhau bod natur yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau; ailgysylltu natur, pobl a chymunedau; bod yn sefydliad natur gadarnhaol enghreifftiol; ac adfer byd natur yn ein cymunedau. Bob blwyddyn, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae ein cynllun busnes ar gyfer 2024/2025 yn adlewyrchu ein hymrwymiadau blynyddol â blaenoriaeth diweddaraf, gan gynnwys cyflawni’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur; dynodi parc cenedlaethol newydd; a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, erbyn diwedd 2023/2024 roeddem wedi cyflawni’r canlynol:
- Hyrwyddo gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol hyd at 2050 (Natur a Ni / Nature and Us). Statws y mesur: Gwyrdd (gweler ‘Gweledigaeth a rennir …’)
- Cwblhau camau blaenoriaeth ar safleoedd gwarchodedig er mwyn gwella cyflwr nodweddion, gyda chyllid cyfalaf Rhwydwaith Natur yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r camau a gwblhawyd. Statws y mesur: Gwyrdd
- Wedi bwrw ymlaen â’n hadolygiad ansawdd dŵr, er bod oedi yn y contract dylunio yn golygu y bydd dyluniad rhwydwaith monitro ‘gwarchodol’ newydd bellach yn cael ei gyflawni yn ystod 2024/25 oherwydd ansicrwydd ynghylch cyllido’r prosiect a phwysau ar staff. Statws y mesur: Oren
- Gweithredu dros rywogaethau sy'n prinhau neu'r rhai sydd bron â diflannu, gan gynnwys drwy Natur am Byth. Statws y mesur: Gwyrdd
- Parhau i ddatblygu a gweithredu rhaglen i archwilio parc cenedlaethol newydd (yng ngogledd ddwyrain Cymru). Statws y mesur: Gwyrdd
- Camau gweithredu mewn perthynas â rheoli’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru, gan gynnwys camau ynghylch proffiliau newid hinsawdd. Statws y mesur: Gwyrdd
- Rheoli a chyfrannu at raglenni i fynd i’r afael â cholli cynefinoedd ledled Cymru, a’u hadfer, gan gynnwys darparu ar gyfer rhwydweithiau natur a rhaglenni LIFE. Statws y mesur: Gwyrdd
Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am rai o'r uchod ar y tudalennau canlynol.
Gweledigaeth ar y cyd, a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Crëwyd y weledigaeth Natur a Ni ar gyfer Cymru gan bobl yng Nghymru, ac mae’n disgrifio dyfodol lle mae natur a’r gymdeithas yn ffynnu gyda’i gilydd, ynghyd â’r newidiadau y mae angen inni eu gwneud er mwyn cyflawni hyn. Mae’r weledigaeth, a phrofiad ehangach o’r rhaglen Natur a Ni, yn darparu offerynnau gwerthfawr ar gyfer hwyluso cydweithredu tuag at adferiad byd natur.
Crëwyd y weledigaeth Natur a Ni ar gyfer Cymru 2050 gan gynulliad dinasyddion a gynhaliwyd gan CNC yn gynnar yn 2023. Cafodd y weledigaeth ei rhyddhau yn ystod haf 2023, ac mae’n nodi chwe thema ar gyfer gweithredu os yw natur a chymdeithas i ffynnu gyda’i gilydd. Mae’r weledigaeth yn adeiladu ar farn miloedd o bobl a gymerodd ran yn sgwrs genedlaethol Natur a Ni yn 2022.
Llywiodd y sgwrs Natur a Ni ‘Ein cynllun corfforaethol hyd at 2030: byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd’ (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023), ac roedd ein tri amcan llesiant yn adeiladu ar ganfyddiadau Natur a Ni. Ym mis Rhagfyr gwnaethom gyhoeddi ein hymateb i'r weledigaeth mewn llythyr agored.
Eleni, mae gwerthusiad o broses rhaglen Natur a Ni yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni o’i chryfderau a’i gwendidau, ac yn argymell ffyrdd o ymgorffori ein dysgu – gan wella ein heffaith a’n heffeithiolrwydd. Daw’r gwerthusiad i ben ym mis Ebrill 2024, a byddwn yn rhannu ei ganfyddiadau ar draws ein sefydliad a chyda phartneriaid.
Bydd Gweledigaeth Natur a ni ar gyfer Cymru 2050 yn parhau i ddylanwadu ar ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf, er yn amlwg nid yw’r weledigaeth yn rhywbeth y gall ein sefydliad ei chyflawni ar ei ben ei hun. Byddwn yn parhau i feithrin a chryfhau partneriaethau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cyflymu effaith y gwaith hwn, rhannu gwybodaeth gyfunol a dangos arweiniad tuag at wireddu’r weledigaeth. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth, rydym yn gwybod bod angen gweithredu nawr; gan bobl, y llywodraeth a sefydliadau ledled Cymru.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Rhannu ein data, mynd i'r afael â heriau
Mae rhannu data yn cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion llesiant ledled Cymru. Rydym yn cyhoeddi cannoedd o asedau data ar Fap Data Cymru ac yn cynnal cofnodion helaeth ar-lein mewn mannau eraill. Mae rhannu data yn fath modd yn cefnogi’r gwaith o gydymffurfio â rheoliadau, ac fe’i defnyddir ar gyfer datblygu cydweithrediadau. Rydym wedi gwella’r ffordd yr ydym yn rhannu data yn ystod 2023/2024, ac rydym hefyd wedi gwella ansawdd a hygyrchedd data.
Adlewyrchir yr angen i rannu data yn ein cynllun corfforaethol, ac mae'n hanfodol ar gyfer datblygu cydweithrediadau, gan sicrhau bod ein gwybodaeth allweddol yn cael ei defnyddio'n fwy effeithiol. Er enghraifft, o ran gweithgareddau sy’n ymwneud ag adfer natur, rydym wedi dweud y byddwn yn rhannu data monitro ag eraill ac yn sefydlu cyfres o blatfformau arddangos.
Rydym yn cyhoeddi dros 200 o asedau data, sy’n cynnwys mwy na 500 o setiau data unigol drwy Fap Data Cymru. Darparwn fynediad i dros ddwy filiwn o gofnodion ynghylch presenoldeb rhywogaethau drwy Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Rydym hefyd yn cynnal catalog o ddata, sydd gennym ar ein gwefan, ar gyfer dros 1,500 o setiau data yn Darganfod Data (sef ein cronfa ddata o fetadata).
Mae rhannu data mewn modd agored, tryloyw a hygyrch yn rhan allweddol o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r broses o sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau cysylltiedig. Fel rhan o’n gwaith ynghylch rhannu data, rydym yn:
- Nodi data sensitif er mwyn sicrhau mai dim ond gwybodaeth a ganiateir yn gyfreithiol a gyhoeddir.
- Adlewyrchu ansawdd data drwy fetadata, golygu data y gwyddys eu bod o ansawdd gwael, a/neu nodi'n glir unrhyw gyfyngiadau ynglŷn â’u defnyddio.
- Defnyddio technoleg i awtomeiddio cyhoeddi, gan sicrhau bod y dystiolaeth ddiweddaraf ar gael yn rhwydd
Mae rhannu data, ynghyd â gweithgareddau cysylltiedig eraill, yn sail bellach i gyflawni amcanion llesiant a rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol; gan ei gwneud yn bosibl i’r dystiolaeth gael ei defnyddio mewn platfformau data sy’n wynebu’n allanol, fel ein Porth Gwybodaeth Amgylcheddol ar gyfer Prosiect Arddangos Afon Teifi ac, yn y dyfodol, drwy ran o borth profi cysyniad dŵr croyw sy’n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd.
Enghraifft allweddol o hyn yw cyhoeddi ein Harchif Ansawdd Dŵr ar Fap Data Cymru ym mis Mai 2023, sy’n cael ei ddiweddaru’n fisol. Mae hwn am ddim i'r cyhoedd ei gyrchu, mae'n gwella tryloywder ac yn cefnogi ymgysylltiad mewn perthynas ag ansawdd dŵr. Mae'r archif yn sylfaen dystiolaeth allweddol ar gyfer cyrff morol a dŵr croyw yng Nghymru, gan ehangu cyrhaeddiad y dystiolaeth hon, a hefyd darparu arbedion effeithlonrwydd drwy ddarparu cyfleuster hunanwasanaeth fel y gall pobl gyrchu'r wybodaeth hon.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Paratoi’r adroddiad nesaf ar gyflwr adnoddau naturiol (SoNaRR)
Rydym wedi dechrau casglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad nesaf ar sefyllfa adnoddau naturiol, gan adeiladu ar ein hadroddiad diwethaf. Bydd adroddiad dros dro, ym mis Rhagfyr 2024, yn nodi’n fanwl ein cynlluniau ar gyfer ein hadroddiad nesaf.
Bydd ein trydydd asesiad o reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol Cymru, sef yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR2025), yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025, yn dilyn cyhoeddi adroddiad dos dro ym mis Rhagfyr 2024. Disgwyliwn i’r adroddiad nesaf hwn ar sefyllfa adnoddau naturiol barhau i fod yn sylfaen dystiolaeth bwysig – gan gynnull a llywio camau gweithredu ledled Cymru, a hynny gan sicrhau canlyniadau gwell i natur a phobl wrth barhau i ddarparu trywydd clir i’r dystiolaeth greiddiol. Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn gwneud y canlynol:
- Darparu tystiolaeth a chyd-destun Cymreig ynghylch y newid yn yr hinsawdd, llygredd a sbardunau newid eraill;
- Adlewyrchu’r pwysau sydd ar ein hadnoddau naturiol, a’u cyflwr – gan gynnwys bioamrywiaeth, dŵr, aer, priddoedd a’r ecosystemau yng Nghymru;
- Disgrifio'r effeithiau ar lesiant pobl Cymru a’r tu hwnt;
- Nodi cyfleoedd ar gyfer gweithredu i lunwyr polisi a chynllunwyr i wella’r ffordd y rheolir adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.
Yn ystod 2023, fe wnaethom gynllunio’r asesiad a dechrau gweithio i ddiweddaru’r dystiolaeth. Nododd yr adroddiad diwethaf ar sefyllfa adnoddau naturiol, SoNaRR2020, sut y mae Cymru’n dechrau pontio’r bwlch tuag at gynaliadwyedd, drwy ddefnyddio’r nodau llesiant a’r ffyrdd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) , ynghyd ag egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Bydd SoNaRR2025 yn diweddaru’r dystiolaeth, gan gynnwys y cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodwyd yn SoNaRR2020, ac yn disgrifio’r hyn sydd wedi’i wneud ac unrhyw gamau gweithredu arfaethedig newydd.
Cyflwynodd yr adroddiad interim diwethaf (drafft), yn 2019, bedwar mesur o reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol ac fe ganolbwyntiodd ar y prif heriau y mae adnoddau naturiol Cymru yn eu hwynebu,- sef y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Amlinellwyd dau gyfle integredig (yr economi gylchol a seilwaith gwyrdd) i reoli adnoddau er budd natur a phobl
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad interim 2019, disgrifiwyd y mesurau fel nodau. Cafodd yr asesiad yn erbyn y nodau (stociau o adnoddau naturiol, ecosystemau cydnerth, lleoedd iach ac economi adfywiol), y dystiolaeth y tu ôl i'r heriau, a mabwysiadu dull systemau cyfan eu harchwilio ymhellach yn y fersiwn derfynol o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020.
Yn SoNaRR2025, rydym yn disgwyl datblygu’r dystiolaeth a’r negeseuon polisi ynghylch yr heriau datblygu integredig o ran y canlynol: iechyd dynol a'r amgylchedd; llesiant diwylliannol a'r amgylchedd; a llesiant economaidd a'r amgylchedd. Mae gan bob un ohonynt gysylltiadau uniongyrchol â’n cynllun corfforaethol newydd a’n hamcanion llesiant (sydd wedi defnyddio’r dystiolaeth yn SoNaRR2020 mewn perthynas â’u datblygiad), wrth hefyd adlewyrchu uchelgais ein sefydliad, sef bod yn feiddgar, yn gydweithredol ac arwain ar arferion gorau.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Amcan llesiant 2: Cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Mwy cyfartal, Iachach, Cydnerth, Llewyrchus, Cyfrifol ar lefel fyd-eang, Diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu, Cymunedau cydlynus
Beth sydd ei angen i sicrhau’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd?
“Mae hyn yn golygu cymryd camau brys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyflymu camau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan leihau’r risgiau a’r effeithiau i bob sector o’r economi a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon niwtral erbyn 2030 a Chymru sero net erbyn 2050"
Mae ein cynllun corfforaethol yn nodi y byddwn yn cymryd camau i wneud yn siŵr y gall cymunedau wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd erbyn 2030 drwy sicrhau bod atebion sy'n seiliedig ar natur yn cael eu mabwysiadu'n eang; bod y risgiau yn sgil y newid yn yr hinsawdd yn cael eu rheoli ac yr addasir iddynt; bod gostyngiad mewn allyriadau hinsawdd; bod pobl, cymunedau a busnesau yn gweithredu’n barhaus ar y newid yn yr hinsawdd; bod y sefydliad yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer ar gyfer creu sector cyhoeddus carbon-bositif; a sicrhau bod byd natur a chymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Bob blwyddyn, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae ein cynllun busnes ar gyfer 2024/2025 yn adlewyrchu ein hymrwymiadau blynyddol â blaenoriaeth diweddaraf, gan gynnwys ymrwymiadau ynghylch camau gweithredu â blaenoriaeth yn ein cynllun sero net; cyflwyno system rhybuddion llifogydd newydd; a chynyddu darpariaeth y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, erbyn diwedd 2023/2024 roeddem wedi cyflawni’r canlynol:
- Lleihau'r perygl o lifogydd (neu wedi sicrhau amddiffyniad parhaus) ar gyfer 1,047 eiddo drwy gynlluniau cyfalaf. Statws y mesur: Gwyrdd
- Cynnal asedau perygl llifogydd, gan gyflawni 97.2% (targed 98%) ar gyflwr targed o fewn systemau risg uchel. Mae cyfnodau hir o dywydd gwlyb, stormus wedi achosi diffygion newydd, wedi effeithio ar y gallu i drwsio diffygion presennol ac wedi golygu bod adnoddau'n cael eu cyfeirio at reoli digwyddiadau mewn ffordd ymatebol. Statws y mesur: Oren
- Cynnig 706,000m3 o bren i'r farchnad. Statws y mesur: Gwyrdd
- Creu coetir newydd ar y tir yn ein gofal, gan wneud iawn am golledion, gyda 504 hectar o dir wedi’i gaffael ar gyfer hyn dros y blynyddoedd diwethaf er nad oedd yn bosibl cyrraedd ein targed ar gyfer eleni oherwydd problemau cyflenwad. Statws y mesur: Oren
- Gweithredu i adfer mawndiroedd Cymru, sy’n cyfrif am fwy na 450 hectar o weithgarwch adfer mawndiroedd (gan gynnwys 131 hectar ar y tir yn ein gofal). Statws y mesur: Gwyrdd (gweler ‘… y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd …’ am ragor o wybodaeth am hyn)
- Datblygu ond heb gwblhau ein hymrwymiadau ynghylch y fflyd a’r ystadau adeiledig. Mae newid y ffordd yr ydym yn caffael a phroblemau’n ymwneud ag adnoddau staff wedi achosi mwy na naw mis o oedi. Statws y mesur: Coch
- Gweithredu’r argymhellion/y camau gweithredu a nodwyd yn yr adolygiad o lifogydd, gyda 31 yn parhau i fod yn gamau gweithredu tymor hwy. Statws y mesur: Gwyrdd
- Llunio'r fersiwn ddiweddaredig o’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer Cymru. Statws y mesur: Gwyrdd (gweler ‘Ein cynllun rheoli perygl llifogydd’ am ragor o wybodaeth)
Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am rai o'r uchod ar y tudalennau canlynol.
Gwella’r rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig drwy’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur Forol
Drwy ein rhaglen Rhwydweithiau Natur Forol tair blynedd rydym yn darparu cyfres o brosiectau sy'n canolbwyntio ar faterion â blaenoriaeth sy'n effeithio ar reolaeth a chyflwr y rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig. Nod y prosiectau yw atal effeithiau negyddol ar ecosystemau; cefnogi arfordiroedd cydnerth ac adfer morfeydd heli.
Drwy ein rhaglen Rhwydweithiau Natur Forol tair blynedd (2022-2025) rydym yn cyflawni cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion â blaenoriaeth sy’n effeithio ar reolaeth a chyflwr y rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig. Mae’r rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig, sy’n ffurfio tua 70% o ardal glannau Cymru, yn allweddol o ran ei gwneud yn bosibl rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac adfer byd natur yn y môr.
Mae’r prosiectau rydym wedi bod yn gweithio arnynt yn cynnwys y canlynol:
- Datblygu cynlluniau bioddiogelwch ar gyfer chwe safle Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), gan gynnwys ACA Bae Ceredigion ac ACA Aber Afon Dyfrdwy, er mwyn atal ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol megis yr ewin mochyn, a all gael effaith ddinistriol ar ecosystemau. Mae’r gwaith wedi cynnwys cynnal cyfres o weithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid, megis cymunedau cychod hamdden a chymunedau pysgota, i drafod mesurau effeithiol i atal rhywogaethau estron goresgynnol rhag lledaenu.
- Deall ar ba raddfa debygol y mae nodweddion cynefin yn cael eu colli o ran yr Ardal Forol Warchodedig oherwydd y wasgfa arfordirol, a nodi lle y gall fod cyfleoedd i addasu. Mae colli cynefinoedd rhynglanwol ac arfordirol wrth i lefel y môr godi yn cael effaith gynyddol ar y rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig. Tystiolaeth hanfodol ar gyfer llywio ffyrdd o reoli yn y dyfodol er mwyn hybu arfordiroedd cydnerth.
- Adfer morfeydd heli yn ACA Aber Afon Hafren lle, yng Nglanfa Fawr Tredelerch, rydym yn rhoi prosiect ar waith i greu ac adfer ‘polderau gwaddodiad’ (codi ffensys a lleihau symudiad dŵr er mwyn ffurfio morfa heli ymhen amser). Ffocws eleni oedd creu dyluniad addas gan gydnabod bod Aber afon Hafren yn hynod ddynamig, gydag amrediadau llanw eithafol, ac roedd rhaid i’r dyluniad fod yn ddichonadwy, cynorthwyo’r broses o gronni gwaddodion a gwrthsefyll y pwysau ffisegol yn yr amgylchedd hwn. Rydym hefyd wedi sefydlu cydweithrediadau gyda phrifysgolion i gefnogi’r gwaith o fonitro a datblygu dealltwriaeth o'r math hwn o adferiad.
Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni ac ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol eleni ac yn symud i gam olaf cyflawni’r prosiect yn 2024/2025.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, gweithredu ar y cyd
Ein cynllun rheoli perygl llifogydd
Mae ein cynllun rheoli perygl llifogydd yn nodi ein blaenoriaethau, mesurau arfaethedig a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd hyd at 2029, gan sicrhau bod cymunedau’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn wyneb hinsawdd sy’n newid a digwyddiadau tywydd mwy eithafol.
Gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi’i ddiweddaru ym mis Tachwedd 2023. Mae’r cynllun yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd hyd at 2029 ar gyfer yr ardaloedd lle ceir llifogydd y mae gennym ni’r prif gyfrifoldebau amdanynt, gan gynnwys llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr. Mae’r cynllun wedi’i rannu’n adran genedlaethol drosfwaol ochr yn ochr â chwe adran sy’n canolbwyntio ar leoedd. Bydd y set o fesurau a chamau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun yn mynd i’r afael â’r amcan cyffredinol o leihau’r risg i bobl a chymunedau o lifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr, ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r 14 blaenoriaeth yr ydym wedi’u nodi yn y cynllun. Mae’r holl flaenoriaethau yn y cynllun yr un mor bwysig â’i gilydd, ac mae rhai ohonynt yn ymwneud â:
- Datblygu a darparu dulliau dalgylch i leihau llifogydd a chyfrannu at gydnerthedd ecosystemau, gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid;
- Gwella gallu cymunedau i wrthsefyll y perygl o lifogydd;
- Ceisio a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer iechyd a llesiant cymunedau, bioamrywiaeth a’r amgylchedd;
- Gwella ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd.
Mae’r cynllun yn amlygu sut mae’n rhaid i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd gael eu cynnwys yn ein gweithredoedd, y gofynion addasu hirdymor sy’n benodol i feysydd allweddol, a’r cyfraniad y gall rheoli llifogydd naturiol ei wneud tuag at reoli’r perygl o lifogydd. Fel rhan o hyn, mae’r cynllun yn cynnwys y rhagamcanion diweddaraf ynghylch eiddo sydd mewn perygl yng Nghymru – nawr, ac yn y dyfodol (2120). Byddwn yn defnyddio’r cynllun fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau a chynnal trafodaethau mwy gwybodus ynghylch cyflawni gyda phartneriaid, fel bod buddsoddiadau mewn lleihau’r perygl o lifogydd yn cael eu targedu at y cymunedau y mae llifogydd yn debygol o gael yr effaith fwyaf arnynt.
Mae un o’n hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer 2024/2025 yn canolbwyntio ar ddarparu system rhybuddion llifogydd newydd.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Gweithgareddau adfer ar fawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Rydym yn adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan weithio gyda phartneriaid cyflawni, a’r tir yn ein gofal.
Ers ei chychwyn yn 2020, mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd wedi cymryd camau breision drwy weithgareddau adfer mawndiroedd ledled Cymru, ac rydym o’r farn ei bod yn enghraifft o ateb sy’n seiliedig ar natur, sy’n lleihau allyriadau carbon ac yn gwella bioamrywiaeth (carbon isel / natur uchel). Mae’r dull adfer hefyd yn arwain at fanteision economaidd drwy greu swyddi, yn ogystal â sicrhau bod arferion rheoli tir cynaliadwy yn cael eu rhoi ar waith. Dros y flwyddyn, rydym wedi gwneud y canlynol:
- Mynd y tu hwnt i darged 2023/24 o gyflawni gwerth 450 hectar y flwyddyn o weithgarwch adfer mawndiroedd drwy gyflawni’n uniongyrchol ar y tir yn ein gofal a darnau eraill o dir (mewn partneriaeth â thirfeddianwyr a rheolwyr tir eraill);
- Lansio ein grant cyflawni adfer cystadleuol newydd.
- Ariannu cyfanswm o 18 partner;
- Cynnal ein digwyddiad Ymarferwyr Cenedlaethol cyntaf er mwyn rhannu arferion gorau, gan gynnwys yr hyn sy’n gweithio (a’r hyn nad yw’n gweithio) ‘ar lawr gwlad’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r dasg inni i dyfu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, gan ddatblygu ymrwymiad a wnaed ym mis Hydref 2022 i dreblu’r targed blynyddol o fawndiroedd sy’n cael eu hadfer er mwyn cyflawni gwerth 1,800 hectar (y flwyddyn) erbyn 2030/2031.
Byddai cyflawni 1,800 hectar y flwyddyn yn rhoi Cymru ar drywydd a fyddai’n golygu y gellid cyflawni’r elfen defnydd tir (mawndiroedd) o sero net erbyn 2050 – gan sicrhau gostyngiad o 38% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o fawndiroedd Cymru erbyn 2050. Gyda chyllideb o £5.6 miliwn ar gyfer 2024-25, byddwn yn parhau i ehangu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd fel un o’n hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer 2024/25, gan gynyddu nifer y staff ar gyfer hyn ac, yn ei dro, gynyddu nifer yr hectarau o fawndir sydd wedi’u hadfer.
I gael rhagor o wybodaeth am gamau i adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, ac adroddiadau blaenorol ar hyn, gweler: Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Datganiad(au) effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Dysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer
Rydym yn datblygu ac yn darparu rhaglenni addysg ar gyfer y sectorau addysg ac iechyd, gan wybod bod gan bob plentyn ac unigolyn ifanc yr hawl i fyw, dysgu, chwarae a thyfu mewn amgylchedd naturiol iach a reolir mewn ffordd gynaliadwy.
Gan gydnabod y rôl sydd gan blant a phobl ifanc i’w chwarae mewn rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn y dyfodol, ynghyd â’n cyfrifoldebau fel sefydliad Hawliau Plant, rydym yn parhau i ddatblygu a chyflwyno ein rhaglenni addysg ar gyfer y sectorau addysg ac iechyd. Mae ein rhaglenni dysgu yn yr awyr agored, a’n rhaglenni hinsawdd a natur yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu elwa ar gyrhaeddiad uwch, mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol, a’r iechyd meddwl a llesiant gwell a geir drwy gysylltu â’r byd natur.
Mae ein hamcanion llesiant a’r angen i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn thema gyffredin ar draws ein hadnoddau addysg dwyieithog er mwyn cefnogi pob addysgwr a lleoliad i gyflawni gofynion ar draws y Cwricwlwm i Gymru. Rydym bellach yn gweld yr adnoddau hyn yn cael eu defnyddio gan grwpiau a sefydliadau eraill er mwyn cefnogi cwricwla ffurfiol ac anffurfiol.
Mae ein sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb a gweminarau hefyd wedi ennyn sylw pobl o’r tu allan i’r sector addysg oherwydd, o ganlyniad i’n defnydd parhaus o dechneg ‘Mantell yr Arbenigwr’, mae athrawon yn newid eu harferion, ac yn barod i rannu eu profiadau gan gefnogi dysgwyr drwy ein cyfres o flogiau (ee mewn perthynas â thyfu bwyd, a’r cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd)
Gan weithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, rydym yn cyflwyno Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, sy’n ddigwyddiad lle mae’r sector yn dod ynghyd i ddathlu. Mae ein gwaith gyda phartneriaid yn Rhwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn helpu i sicrhau safonau ac ansawdd ystod gynyddol o gymwysterau Agored Cymru. Mae ein gwaith gyda Chymwysterau Cymru yn ein helpu i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol a materion cynaliadwyedd wedi’u plethu drwy’r cwricwlwm diwygiedig i blant 14 i 16 oed, ac rydym yn parhau i ehangu ein cyfleoedd i gael lleoliad o fewn CNC, ac mae gennym chwe phrentis yn yr adran Gorfodi ar hyn o bryd a 12 o fyfyrwyr addysg uwch yn ein rhaglen swyddogaeth rheoleiddio gwastraff. Mae gwirfoddolwyr yn ein cefnogi yn Neorfa Cynrig ac ar Benrhyn Gŵyr, ac yn ystod haf 2023 gwnaethom groesawu 22 o fyfyrwyr ar brofiad gwaith ar draws ein timau a Chymru.
Mae cymorth arall yn cynnwys: ein cylchlythyr misol, sydd bellach wedi'i ehangu i gynnwys iechyd a llesiant; cymorth ar gyfer ymweliadau hunanarweiniol ar y tir yr ydym yn berchen arno ac yn ei reoli; darparu cyngor a chyfarwyddyd ar fanteision sy’n deillio o dreulio amser ym myd natur; tynnu sylw at sut mae ymgysylltiad â natur yn fuddiol, gan arwain at ymddygiadau o blaid yr amgylchedd; ein rhestr chwarae Addysg, dysgu, chwarae ac iechyd ar YouTube; ac ymgyrchoedd fel Miri Mes.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Amcan llesiant 3: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Mwy cyfartal, Iachach, Cydnerth, Llewyrchus, Cyfrifol ar lefel fyd-eang, Diwylliant bywiog a'r Gymraeg yn ffynnu, Cymunedau cydlynus
Beth sydd ei angen i sicrhau bod llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf?
“Mae hyn yn golygu cymryd camau i atal hyd yr eithaf y pethau hynny sy’n niweidio iechyd dynol a bioamrywiaeth ac sy’n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr – gan leihau gwastraff ar yr un pryd drwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu hailddefnyddio a’u hamnewid mewn sectorau allweddol o economi Cymru.”
Mae ein cynllun corfforaethol yn nodi y byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod byd natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llygredd erbyn 2030 drwy wneud y canlynol: Defnyddio offer a dulliau rheoleiddio yn effeithiol; ymateb i ddigwyddiadau ar sail risg; defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon a mabwysiadu'n eang y defnydd o ddeunyddiau amgen; atal hyd yr eithaf llygredd gan bobl, cymunedau a busnesau; bod yn sefydliad sero llygredd a gwastraff enghreifftiol; ac atal llygredd yn ein cymunedau hyd yr eithaf. Bob blwyddyn, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae ein cynllun busnes ar gyfer 2024/25 yn adlewyrchu ein hymrwymiadau blynyddol â blaenoriaeth diweddaraf, gan gynnwys ynghylch gweithredu'r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle newydd; atal llygredd afonydd a moroedd hyd yr eithaf; ac adolygu ein dull o reoli digwyddiadau. Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, erbyn diwedd 2023/2024 roeddem wedi cyflawni’r canlynol:
- Gorfodi toriadau cydymffurfedd er mwyn cymryd camau dilynol ynghylch gweithgareddau cydymffurfedd o fewn chwe mis. Statws y mesur: Gwyrdd
- Cymryd camau i leihau effaith maethynnau mewn afonydd yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, gan gynnwys drwy newidiadau i fwy na 100 o drwyddedau. Statws y mesur: Gwyrdd (gweler ‘Ein dŵr’ i gael rhagor o wybodaeth am hyn)
- Datblygu gweithgareddau i atal llygredd o fwyngloddiau metel hyd yr eithaf. Statws y mesur: Gwyrdd
- Cwblhau’r holl gamau o fewn ein rheolaeth mewn perthynas â Rhaglenni Cynllunio Cwmnïau Dŵr ond, oherwydd oedi gan Ofwat, bu oedi gyda’r mewnbwn terfynol i'w benderfyniad drafft PR24. Statws y mesur: Oren (gweler ‘Ein dŵr’ i gael rhagor o wybodaeth am hyn)
- Datblygu rhaglenni i adolygu gofynion ansawdd dŵr statudol, ond nid ydym wedi cwblhau’r adolygiad o gynnydd ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Basn Afon, a bydd y gwaith hwn yn parhau hyd at fis Mai 2024. Statws y mesur: Oren
- Ymateb i ddigwyddiadau, gan ragori ar ein targed o 95% ar gyfer ymateb o fewn pedair awr i ddigwyddiadau yn y categori ‘uchel’. Statws y mesur: Gwyrdd
- Penderfynu ar ymatebion gorfodi priodol (i droseddau amgylcheddol) gan gyhoeddi adroddiadau cysylltiedig, er na chyflawnodd pob penderfyniad ein targed o 95% o fewn tri mis a hynny oherwydd effeithiau cynyddol y cyfyngiadau ar adnoddau. Statws y mesur: Oren (gweler ‘Ein dŵr’ i gael rhagor o wybodaeth am hyn)
Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am rai o'r uchod ar y tudalennau canlynol.
Gweithio gyda Network Rail
Eleni fe wnaethom ailddatgan ein perthynas waith agos gyda Network Rail drwy adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth – partneriaeth sy’n ein galluogi i gydweithio i fynd i’r afael ag adferiad byd natur, gwella gallu cymunedau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac atal llygredd hyd yr eithaf.
Rydym wedi parhau i gryfhau partneriaeth hanfodol gyda Network Rail, sy’n cefnogi’n frwd ein meysydd ffocws a rennir sy’n berthnasol i’n hamcanion ar y cyd. Rydym wedi canolbwyntio ar osod y cyfeiriad sydd ei angen ar gyfer y dyfodol er mwyn mynd i’r afael â’n nodau cyffredin drwy adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth eleni rhwng ein sefydliadau ar gyfer sicrhau buddion amgylcheddol a chymunedol sylweddol dros y blynyddoedd i ddod.
Mae ein hamcanion ar y cyd blynyddol yn canolbwyntio ar amrywiaeth o feysydd ar draws atodiadau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd (rheoli perygl llifogydd a rheoli asedau, arfordirol a morol, bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau a rheoli digwyddiadau), yn ogystal â mynd i'r afael â materion mwy cymhleth i wella effeithlonrwydd prosesau trwyddedu a chaniatáu. Mae’r rhain yn feysydd sy’n hanfodol ar gyfer cyflymu ein hymateb ar y cyd i heriau amgylcheddol a rhyngweithio ag adnoddau naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Mae ein sefydliadau eisoes wedi helpu ei gilydd mewn perthynas â chynlluniau arfordirol ac afonydd er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd, diogelu cynefinoedd, rheoli tir a chynllunio prosiectau’n well ers creu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gwreiddiol yn 2016. Mae’r gwaith partneriaeth a wnaed gennym yn flaenorol wedi cynnwys gwaith adfer yn dilyn digwyddiad (yn 2020, yn Llangennech) pan ddaeth trên cludo nwyddau oddi ar y cledrau. Golygodd hyn y bu’n rhaid cloddio’r 30,000 tunnell o bridd a oedd wedi'u trwytho â thanwydd.
Drwy lynu wrth egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, rydym yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau a gweithrediadau o ddydd i ddydd. Credwn fod ein cydweithio yn helpu i liniaru risgiau amgylcheddol uniongyrchol ac yn gosod cynsail ar gyfer stiwardiaeth amgylcheddol gyfrifol ledled Cymru. Dros y flwyddyn sydd i ddod, ein nod yw adeiladu ar ein partneriaeth gyda mwy o egni fyth, gan sicrhau ein bod yn parhau i weithio tuag at amgylchedd naturiol sy’n gydnerth ac yn ffynnu.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Lleihau llygredd amaethyddol
Rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â rhaglen flaenoriaethol o arolygiadau o safleoedd amaethyddol risg uwch er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol – gan weithio’n gyda ffermwyr mewn ffordd adeiladol er mwyn eu cefnogi i gyflawni eu rhwymedigaethau mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
Cyflwynwyd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleihau colledion llygryddion amaethyddiaeth i’r amgylchedd drwy osod rheoliadau ar gyfer arferion ffermio penodol (ee taenu tail).
Mae’r dull gweithredu’r rheoliadau wedi bod trwy gyfnod pontio o bedair blynedd a bydd y set derfynol o fesurau, sy’n ymwneud â chyfnodau caeedig ar gyfer taenu, gyda therfynau dilynol ar gyfer llwytho nitrogen a gofynion storio cysylltiedig, yn dod i rym yn 2024/2025.
Mae gennym gytundeb lefel gwasanaeth gyda Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ariannu, i gynnal rhaglen flaenoriaethol o arolygiadau cydymffurfedd o weithgareddau amaethyddol sydd â risg uwch ledled Cymru (mae 800 wedi’u cynllunio ar gyfer 2024). Mae gennym dîm newydd o swyddogion sydd wedi’u hyfforddi (wedi'u rhannu'n adrannau i ogledd a de Cymru) sy'n ymroddedig i gynnal y rhaglen flaenoriaethol hon o arolygiadau.
Dechreuodd y rhaglen arolygu ym mis Tachwedd 2023 a bydd yn parhau tan 2024/2025. Erbyn 31 Mawrth 2024, roedd 203 o ffermydd wedi cael eu harolygu. Ar yr ymweliad cyntaf, canfuwyd nad oedd 127 (63%) yn cydymffurfio ag un neu ragor o'r rheoliadau tra bo 76 (37%) yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau sydd mewn grym. Erys rhai gofynion yn y cyfnod pontio, ee ni fydd y gofynion storio slyri o dan Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn dod i rym tan 1 Awst 2024. Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd 14 o ffermydd (11% o’r ffermydd nad oeddent yn cydymffurfio) wedi’u dychwelyd i gydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau, tra bo 20 (17%) yn nodi eu bod yn gwneud cynnydd gweithredol tuag at gydymffurfio’n llawn. Byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda'r holl ffermydd a arolygir er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Ein dŵr
Mae dŵr yn adnodd hanfodol – i bobl, busnesau ac amaethyddiaeth, ac yn hollbwysig o ran galluogi’r economi i ffynnu. Er mwyn sicrhau bod llygredd yn cael atal hyd yr eithaf, rydym yn nodi camau gweithredu sy'n ofynnol gan amrywiaeth o sectorau, a ninnau. Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Dylanwadu ar fuddsoddiadau cwmnïau dŵr yn y dyfodol – bu cynnydd triphlyg mewn buddsoddiadau yn yr amgylchedd, gan gynnwys:
- mwy na 100 o welliannau i orlifoedd storm;
- 28 cynllun llwybr pysgod;
- dau dreial gwlyptir adeiledig; a
- llawer o ymchwiliadau a gweithredoedd eraill.
- Cyflawni ein hymrwymiadau i Gynllun Gweithredu’r Prif Weinidog ar gyfer afonydd yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a chadeirio’r bedwaredd uwchgynhadledd ym mis Mawrth 2024.
- Amrywio 140 o drwyddedau a fydd yn cyfrannu at leihau faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i afonydd yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, neu’n sicrhau na fydd unrhyw ddirywiad.
- Asesu cydymffurfedd â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol drwy dîm newydd sy’n anelu at arolygu mwy nag 800 o ffermydd yn 2024, gan asesu cydymffurfedd â’r gofynion ar gyfer gweithgareddau risg uwch gan gynnwys cynhyrchu, storio, neu ddefnyddio lefelau uchel o wrteithiau organig. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler yr enghraifft sydd wedi’i adlewyrchu o dan y pennawd ‘Lleihau llygredd amaethyddol’.
- Datblygu rhaglenni i adolygu gofynion ansawdd dŵr statudol (un o’r mesurau ar ddangosfwrdd ein cynllun busnes ar gyfer y flwyddyn), gan gyrraedd carreg filltir o ran gweithgareddau sy’n ymwneud â gorlifoedd storm. Nid ydym wedi cwblhau ein carreg filltir mewn perthynas â chynnydd gyda Chynlluniau Rheoli Basn Afon, a bydd gwaith hwn yn parhau i 2024/25. Roedd argaeledd adnoddau staff ac argaeledd systemau TGCh (ar gyfer cydgysylltu camau gweithredu â chanlyniadau) hefyd wedi effeithio ar ein gwaith ar ddalgylchoedd cyfle a’r rhaglen ymchwiliadau yn 2023/2024
- Mabwysiadu dull arloesol o weithio mewn partneriaeth, ochr yn ochr â 18 o sefydliadau, er mwyn datblygu Prosiect Arddangos Afon Teifi. Gwnaethom ymgysylltu’n fewnol ac yn allanol wrth ei gyd-gynhyrchu, gan gynnwys digwyddiad hacathon dros ddau ddiwrnod er mwyn cynhyrchu syniadau ac atebion mewn perthynas â materion ansawdd dŵr. Byddwn yn dysgu o’r fenter hon a’r ymgynghoriad ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ er mwyn cynnwys yr hyn a ddysgwyd yn y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Rheoli Basn Afon.
- Buddsoddi tua £65 miliwn dros y pedair blynedd diwethaf, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, er mwyn targedu’r frwydr yn erbyn yr argyfwng natur a hinsawdd. Mae hyn wedi cyflawni ar draws ystod o brosiectau er mwyn gwella ein safleoedd gwarchodedig a'n hamgylchedd dŵr. Rydym yn rhagweld gwariant pellach o £28 miliwn yn 2024-25.
Mae un o’n hymrwymiadau blaenoriaeth ar gyfer 2024/2025 yn canolbwyntio ar atal llygredd ein hafonydd a’n moroedd hyd yr eithaf.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd
Ymateb i danau gwyllt a stormydd
Mae digwyddiadau yn peri heriau sylweddol i bobl, i’r amgylchedd, i economi Cymru ac i ni – er enghraifft o ran yr angen i ymateb i (a chynllunio ar gyfer) tanau gwyllt a stormydd.
Yn dilyn ymlaen o 2022 (sef y flwyddyn gynhesaf yn y DU ers 1884), achosodd sawl tân gwyllt ddifrod yn ystod haf 2023 ac fe wnaethom ymateb i nifer o stormydd yn ystod gaeaf a fu’n eithriadol o wlyb.
Ymhlith y digwyddiadau y buom ni iddo ar y cyd, ar 9 Mehefin 2023, oedd tân gwyllt mawr ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru ar Fynydd y Rhigos. Effeithiodd hyn ar ardal sylweddol (tua 160 hectar) mewn sawl ffordd, gan gynnwys dinistrio cynefin, achosi i ffyrdd gael eu cau ac achosi i fusnesau hamdden lleol (ee Zip World, ar hen safle Glofa Tower) gau am gyfnod. Drwy weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym wedi defnyddio adnoddau helaeth, gan gynnwys hofrennydd o dan gontract arbenigol ac adnodd pwrpasol ar y safle i sefydlu rhwystrau tân. O ganlyniad i’n gweithredoedd cyfunol, cafodd seilwaith lleol ei ddiogelu, ni chafodd unrhyw eiddo eu difrodi, ac ataliwyd rhagor o ddifrod i’r amgylchedd a’r ecosystemau lleol.
Roedd tân gwyllt y Rhigos yn un o sawl tân a effeithiodd ar amgylchedd naturiol Cymru ym mis Mehefin 2023. Un o’r pethau y gwnaeth prosiect arddangos a thystiolaeth Llethrau Iach ganolbwyntio arno yn flaenorol oedd hyrwyddo ymateb cydweithredol i danau gwyllt, er mwyn rheoli ein hadnoddau naturiol yn well a lleihau effaith a difrifoldeb tanau gwyllt.
Yn dilyn ymlaen o’r pedair ‘storm a enwyd’ dros yr hydref, digwyddodd chwech arall dros y gaeaf, a bu heriau a pheryglon unigryw yn sgil pob un ohonynt. Gwnaethom barhau i annog unigolion i fod yn barod ar gyfer llifogydd dros gyfnod y gaeaf, a gwnaethom barhau i greu seilwaith llifogydd, ei gynnal a’i gadw, a’i atgyweirio ond, yn anochel, ni ellir osgoi effeithiau stormydd.
Er enghraifft, yn ystod storm Gerrit, ar 27-28 Rhagfyr 2023, chwythodd gwyntoedd o bron 70 milltir yr awr ar hyd arfordir gorllewinol Cymru, ac effeithiodd llifogydd ar oddeutu 40 eiddo (yn sgil stormydd Gerrit a Hank). Cafodd ein timau llifogydd eu defnyddio yn helaeth drwy gydol y gaeaf er mwyn sicrhau bod rhybuddion yn cael eu cyhoeddi, a bod ymateb gweithredol yn digwydd mewn ardaloedd a oedd o dan lifogydd. I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol, gweler yr enghraifft sydd wedi’i adlewyrchu o dan y pennawd ‘Ein cynlluniau rheoli perygl llifogydd’.
Mae un o’n hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer 2024/2025 yn canolbwyntio ar adolygu ein dull o reoli digwyddiadau.
Datganiad(au) o’r effaith drafft cysylltiedig: Bioamrywiaeth, y newid yn yr hinsawdd, llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gweithredu ar y cyd, gwerthoedd ac ymddygiadau
Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Swyddog Cyfrifyddu Dros Dro - 16 Hydref 2024