Prif Ymgynghorydd Polisi Niwclear a Rheoleiddio

Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 9: £59,547 - £65,004 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £59,547 yn codi i £65,004 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203856

Y rôl

Ydych chi'n arbenigwr mewn strategaeth a rheoleiddio niwclear, yn barod i ddylanwadu ar benderfyniadau seilwaith ynni mawr yng Nghymru? Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol iawn i arwain datblygiad polisi niwclear a mewnbwn rheoleiddio strategol ar y lefel genedlaethol.

Fel Prif Ymgynghorydd Strategaeth a Pholisi Niwclear, byddwch yn darparu cyngor awdurdodol ar ynni niwclear, rheoleiddio a thrwyddedu – gan gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn trafodaethau cenedlaethol allweddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, diwydiant a phartneriaid rheoleiddio. Bydd eich gwaith yn cefnogi'r defnydd diogel a chynaliadwy o dechnolegau niwclear newydd ac yn arwain y gwaith o ddatgomisiynu seilwaith etifeddol mewn modd cyfrifol.

Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw wrth lunio safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygiadau niwclear sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys y prosesau Asesiad Dylunio Generig (GDA) a’r prosesau Cyfiawnhau, gan sicrhau bod gan Gymru lais cryf ym maes cynllunio ynni cenedlaethol. Fel aelod allweddol o'r tîm Ymbelydredd a Diwydiant, byddwch hefyd yn helpu i arwain dull ehangach CNC o ymdrin â sylweddau ymbelydrol a pholisi amgylcheddol diwydiannol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno wrth i chi gael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Paul Gibson ar Paul.Gibson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain y gwaith o ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni hirdymor ar gyfer portffolio eang sy’n ymwneud â’r diwydiant niwclear, sylweddau ymbelydrol a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy;
  • Darparu'r arweinyddiaeth dechnegol a'r arbenigedd ar gyfer gosod a gweithredu polisi, strategaeth, canllawiau a chynlluniau gweithredol CNC;
  • Darparu cyngor lefel uchel i eraill, gan gynnwys Uwch Reolwyr a rhanddeiliaid allanol a chyfrannu at y strategaeth, polisi a chynlluniau cyffredinol ar gyfer Niwclear yng Nghymru.
  • Meithrin a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol, ar draws sectorau gan gynnwys ar lefel Cymru, y DU a lefel ryngwladol i sicrhau bod CNC yn cyflawni ei rolau a’i ddyletswyddau ac yn dylanwadu’n llwyddiannus ar bolisi, strategaeth a gweithgareddau sefydliadau eraill;
  • Arwain materion cymhleth penodol fel darparu asesiad o ddyluniad generig, cyfiawnhad, capasiti niwclear newydd, cyngor, arweiniad, tystiolaeth, targedau/cynlluniau corfforaethol, newid deddfwriaeth, a briffiau technegol i staff ar bob lefel gan gynnwys sganio’r gorwel i sicrhau bod risgiau/materion a chyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu nodi a lle bo’n briodol yn cael eu harneisio wrth gymhwyso tystiolaeth ar lefel hynod dechnegol;
  • Gweithio gydag arweinwyr polisi Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau i sicrhau bod ein cyfrifoldebau swyddogaethol, ein dulliau strategol a'n hymyriadau yn addas at y diben ac yn cael eu gweithredu;
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Bydd gennych radd Meistr neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol neu wybodaeth ymarferol gyfatebol gyda phrofiad o'r diwydiant niwclear neu reoleiddio safleoedd niwclear.
  2. Gwybodaeth o’r canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â gwaith rheoleiddio a'r amgylchedd; Llywodraethau Cymru a’r DU ac ysgogwyr polisi’r UE ym maes rheoleiddio, yr amgylchedd a Brexit;  
  3. Gwybodaeth arbenigol am yr holl weithgareddau sy'n ymwneud ag ystod o swyddogaethau rheoleiddio CNC;
  4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau, y sbardunau a'r rhwystrau cymhleth a wynebir gan CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni canlyniadau adnoddau naturiol a'r amgylchedd yng Nghymru. 
  5. Gwybodaeth a dealltwriaeth o flaenoriaethau partneriaid yn y sector preifat, cyhoeddus, addysg a'r trydydd sector a chyfleoedd i gydweithio;
  6. Profiad o amrywiaeth CNC o reoleiddio a'r sbardunau a'r rhwystrau cymhleth o ran cyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio.
  7. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
  8. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.
  9. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf