Newidiadau i drwyddedau cyffredinol ar gyfer rheoli adar gwyllt ar gyfer 2024 

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

  Heddiw (dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi trwyddedau cyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt ar gyfer blwyddyn galendr 2024.

Er bod pob aderyn gwyllt yn cael ei warchod gan y gyfraith, mae amgylchiadau penodol lle mae CNC yn rhoi trwydded ar gyfer rheolaeth farwol ar adar gwyllt a dinistrio wyau a nythod. Mae'r rhain at ddibenion penodol, megis gwarchod iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, i atal difrod difrifol i gnydau, da byw neu fwydydd da byw, neu i warchod rhywogaethau bywyd gwyllt eraill.  

Yn 2022, cwblhaodd CNC adolygiad o'i ddull o drwyddedu mesurau rheoli adar gwyllt. Penderfynwyd parhau i ganiatáu nifer o drwyddedau cyffredinol yn flynyddol, cynnal adolygiadau rheolaidd gan ystyried tystiolaeth newydd, ac ymgynghori â grŵp rhanddeiliaid lle bo newidiadau arfaethedig.  

Cyhoeddwyd tystiolaeth newydd allweddol yn adolygiad Adar o Bryder Cadwraethol Cymru 2022, ac yn dilyn ymgynghoriad â chyrff rhanddeiliaid, rydym yn gwneud rhai newidiadau i'r trwyddedau cyffredinol sy'n caniatáu dulliau rheoli marwol ar gyfer 2024.  

Yn benodol, mae Adar o Bryder Cadwraethol Cymru 2022 yn tynnu sylw at ostyngiad 25 mlynedd ym mhoblogaethau piod yng Nghymru, sy’n eu gosod ar y rhestr Ambr. O’r herwydd, fel rhywogaeth o bryder cadwraethol, ni fydd y bioden yn cael ei chynnwys fel rhywogaeth darged ar Drwydded Gyffredinol GL001 at ddiben atal difrod difrifol i dda byw neu fwydydd ar gyfer da byw.  

Dyma’r newidiadau eraill ar gyfer 2024:  

  • Ychwanegir SoDdGA a hysbyswyd yn ddiweddar, Scoveston Fort, at y rhestr o SoDdGAau lle nad yw'r trwyddedau cyffredinol perthnasol yn berthnasol  
  • Nid yw mulfrain, barcudiaid cochion, breision cyrs na bronfreithod bellach wedi'u cynnwys fel rhywogaethau sy’n buddio o GL004 (sy'n caniatáu rheoli brain tyddyn at ddibenion gwarchod rhywogaethau adar gwyllt eraill); ychwanegir ji-bincod, llwydiaid y gwrych, telorion yr ardd, gwylanod Môr y Canoldir ac ydfrain fel rhywogaethau sy’n buddio o GL004.  

Dywedodd Nadia de Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu:  

Un o'r argymhellion y cytunwyd arnynt gan Fwrdd CNC oedd sefydlu proses adolygu ffurfiol ar gyfer trwyddedau cyffredinol i'w chynnal bob chwe blynedd, gyda'r bwriad y byddai’n digwydd yr un pryd â chyhoeddiad cyfnodol yr Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru.   
Cyhoeddwyd yr asesiad Adar o Bryder Cadwraethol diweddaraf ddiwedd y llynedd ac mae'n cynnwys rhai newidiadau o ran statws cadwraeth adar yng Nghymru. Rydym wedi ystyried goblygiadau hyn cyn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer 2024.  
Rydym wedi rhoi ein cynigion gerbron rhanddeiliaid cyn cyhoeddi'r trwyddedau cyffredinol newydd heddiw, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu system drwyddedu sy'n effeithiol, ymarferol a chymesur i ddefnyddwyr, tra'n darparu'r amddiffyniad angenrheidiol i adar.

Gall unrhyw un sy'n bwriadu defnyddio dulliau marwol i reoli adar mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn dod o dan drwydded gyffredinol ddal i wneud cais am drwydded benodol.  

Ceir mwy o wybodaeth yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Trwyddedau Cyffredinol i Adar 2024 (naturalresources.wales)