Gwahodd cymunedau i sesiwn galw heibio am Safle Tirlenwi Withyhedge
Mae sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal i gymunedau gael gwybod mwy am weithrediadau yn y dyfodol yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Ddydd Iau 5 Rhagfyr, rhwng 3 a 7pm, bydd cynrychiolwyr o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau amlasiantaeth - Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Sir Penfro (CSP), Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Bwrdd Iechyd Hywel Dda - yn Neuadd Eglwys Spittal yn barod i ddarparu gwybodaeth ac ateb ymholiadau am y safle tirlenwi.
Wrth i weithredwr y safle, RML, baratoi i ailgychwyn gweithgareddau gwaredu gwastraff, mae aelodau’r Tîm Rheoli Digwyddiadau yn awyddus i gyfarfod a rhoi sicrwydd i drigolion yr effeithiwyd arnynt o'r blaen gan aroglau bod cynlluniau ar waith i fonitro'r safle yn agos dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Dywedodd Caroline Drayton, Rheolwr Gweithrediadau’r De Orllewin a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau:
“Mae pob un o bartneriaid y Tîm Rheoli Digwyddiadau yn deall pa mor annifyr yw’r cyfnod hwn i drigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan aroglau o Safle Tirlenwi Withyhedge o'r blaen. Rydym yn awyddus i gwrdd â phreswylwyr wyneb yn wyneb i ddarparu cymaint o wybodaeth a sicrwydd ag y gallwn.
“Byddwn yn diweddaru'r gymuned ar newidiadau a wnaed gan RML i wella eu dull o weithredu ar y safle a'r camau y bydd aelodau'r Tîm Rheoli Digwyddiadau yn eu cymryd i oruchwylio gweithgareddau yn y safle tirlenwi wrth symud ymlaen. Bydd partneriaid y Tîm Rheoli Digwyddiadau hefyd yn darparu mwy o gyd-destun o ran y gwaith monitro ansawdd aer a negeseuon iechyd cysylltiedig.
“Bydd y sesiwn galw heibio yn canolbwyntio ar reoli'r safle yn y dyfodol. Mae yna ymchwiliad parhaus i weithgareddau blaenorol ar y safle, felly ni fyddwn yn gallu siarad am unrhyw beth a allai beryglu hynny.
“Rydym am i bawb sydd â phryderon am yr wythnosau a'r misoedd nesaf gael cyfle i siarad â'r awdurdodau perthnasol.”
Cyn y sesiwn galw heibio, bydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau yn dosbarthu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol a'r dyfodol tymor byr i bobl ei darllen ymlaen llaw. Bydd y sesiwn galw heibio yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau neu ofyn am eglurhad pellach ar y wybodaeth yn y ddogfen hon.
Bydd y diweddariad ar gael drwy e-gylchlythyr Withyhedge, cyfryngau cymdeithasol ac ar hwb gwybodaeth Safle Tirlenwi Withyhedge.
Gall y rhai sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd ofyn am fersiwn argraffedig drwy e-bostio ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 0300 065 3000.
Cyfeiriad lleoliad y sesiwn galw heibio: Neuadd Eglwys Spittal, Spittal, Hwlffordd, SA62 5QP.