Cwmni Enzo's Homes yn cael ei erlyn gan CNC am droseddau llygredd

Silty Edrych Nant Dowlais

Gorchymynnwyd cwmni adeiladu tai Enzo's Homes i dalu cyfanswm o £29,389.42 am achosi digwyddiadau llygredd a effeithiodd ar Nant Dowlais, sy’n un o lednentydd Afon Lwyd yng Nghwmbrân

Plediodd y cwmni adeiladu yn euog i achosi gollyngiad dŵr anghyfreithlon rhwng 22 Rhagfyr 2022 a 13 Mawrth 2024, sy’n groes i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.

Digwyddodd y gollyngiad dŵr anghyfreithlon ar safle Enzo Homes a elwir yn Abbey Woods, oddi ar Malthouse Lane yn Llantarnam, rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023.

Datgelodd archwiliadau gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygredd wedi’i achosi gan ddŵr ffo o’r safle, a oedd wedi’i halogi â silt.

Cyfarfu swyddogion CNC â rheolwyr safle Enzos Homes ar nifer o achlysuron rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Ionawr 2023 i drafod y mesurau lliniaru oedd angen eu gweithredu er mwyn lleihau’r risg o lygredd.

Mynegodd swyddogion bryderon wrth staff Enzos Homes mewn perthynas â’r ffensys silt ar y safle a’u gallu i ymdopi â glaw trwm. Eglurwyd bod angen gwelliannau sylweddol i’r mesurau lliniaru er mwyn atal dŵr siltiog rhag parhau i ollwng neu ollwng o’r newydd i’r cyrsiau dŵr cyfagos.

Cyflwynwyd llythyr rhybuddio i gwmni Enzos Homes ar 12 Rhagfyr 2022.

Ar 12 Ionawr 2023, mynychodd swyddogion CNC y safle i ganfod bod glaw dros nos wedi llethu’r mesurau lliniaru a fu ar waith yn llwyr. Roedd y rhain yn cynnwys yn bennaf ffensys silt a phyllau arafu a ddyluniwyd i ddal dŵr dros dro ac i’w ryddhau’n raddol er mwyn atal llifogydd yn ystod glaw trwm.

Aeth CNC yno eto ar 20 Ionawr 2023 ac er y nodwyd bod peth ymdrech wedi’i gwneud i wella’r mesurau lliniaru, roedd pryderon o hyd am y swmp o silt y tu ôl i ffensys, ac na fyddai’r mesurau’n ymdopi â rhagor o law.

Yn ystod ymweliad dilynol â’r safle ar 13 Mawrth, gwelwyd bod y matiau silt eisoes yn llawn silt ac felly nad oeddent yn tynnu unrhyw silt o’r dwr wrth i ddŵr lifo drostynt neu o’u hamgylch. Roedd silt yn dal i fynd i Geunant Dowlais. Aseswyd nad oedd y mesurau lliniaru yn gallu ymdopi.

Dangosodd samplau dŵr a gasglwyd ac a ddadansoddwyd gan swyddogion CNC lefelau uchel o solidau mewn daliant (gronynnau solid mân sy’n parhau yng nghrog yn y dŵr) yn y cwrs dŵr sydd wrth ymyl y safle adeiladu.

Yn ogystal, roedd y silt wedi ymledu y tu hwnt i lannau’r cwrs dŵr ac i’r gorlifdir cyfagos, gan effeithio ar 100 metr arall.

Gall silt effeithio’n negyddol ar bysgod ac infertebratau eraill, gan gau eu tagellau a lleihau lefel y golau sy’n treiddio i’r dŵr.

Meddai Alastair Krzyzosiak, Swyddog yr Amgylchedd i Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith i helpu i amddiffyn pobl, bywyd gwyllt, ein hafonydd a’n tir.
Mae gan y diwydiant adeiladu ddyletswydd gofal i’r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu, i sicrhau bod mesurau rheoli a diogelu cywir ar waith er mwyn atal digwyddiadau fel rhain.
Os bydd cwmnïau adeiladu’n cynllunio’n briodol, ni dylai fod unrhyw effaith ecolegol – hyd yn oed yn ystod cyfnodau o law trwm
Yn yr achos hwn, ar ôl cael ei hysbysu gan CNC roedd Enzo Homes yn gwbl ymwybodol o’r gofynion i osod dulliau effeithiol i liniaru silt, bod angen trwyddedau ar gyfer gollwng dŵr wyneb wedi’i drin i gwrs dŵr a bod unrhyw ddŵr halogedig oedd yn cael ei ollwng yn drosedd o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Rwy’n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn anfon neges glir fod angen cymryd deddfwriaeth amgylcheddol o ddifrif. Ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau priodol yn erbyn y rhai sy’n diystyru rheoliadau ac sy’n peryglu’r amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn ei adnabod a’i garu.

Cafodd Enzo's Homes ddirwy o £20,000  yn ogystal â gorchymyn i dalu gordal o £2,000 a £7,389.42 mewn costau, gan ddod â chyfanswm y dirwyon i £29,389.42.

Er mwyn rhoi gwybod am lygredd, ffoniwch linell gymorth 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu rhowch wybod inni ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad