Mae ysgolion Sir y Fflint yn archwilio byd natur drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Cyngor Sir y Fflint a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau i gydweithio i annog athrawon i gynnwys awyr agored ardderchog Cymru yn y ffordd y maen nhw’n dysgu.

Mynychodd athrawon o 20 o ysgolion gynradd cyfrwng Saesneg gwrs wyneb yn wyneb yn Nhalacre, a drefnwyd gan Dîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol CNC a Thîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint, er mwyn datblygu syniadau a hyder er mwyn dysgu am yr amgylchedd naturiol yn yr awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu’r athrawon yn cymryd rhan mewn gweithgareddau syml, hwyliog a oedd yn annog gwaith tîm a chyfathrebu yn y Gymraeg ym MhentrePeryglon a’r ardal oddi amgylch tir Eni UK ar 11 a 13 Mehefin.

Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar ddwy flynedd o hyfforddiant llwyddiannus, lle dywedodd athrawon fod defnyddio'r Gymraeg yn yr awyr agored yn ffordd hynod effeithiol a difyr o gynyddu gallu dysgwyr yn y Gymraeg.

Ychwanegwyd elfen newydd at y cwrs eleni, a gwahoddwyd mynychwyr blaenorol i ddychwelyd i ymestyn eu geirfa Gymraeg a chael y cyfle i weld gweithgareddau newydd sy’n annog dysgwyr i symud ymlaen o siarad i ddarllen ac ysgrifennu am yr amgylchedd naturiol yn Gymraeg. 

Meddai Laura Randall, Athrawon Ymgynghorol y Gymraeg, Tîm Gwelliant Ysgolion Sir Fflint:

“Mae’r awyr agored yn cynnig digonedd o gyfleoedd dysgu i’n plant ddefnyddio eu sgiliau iaith wrth gael hwyl yn yr awyr iach. 

“Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r Gymraeg. Rydym yn cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”

Ffion Hughes, Cynghorydd Arbenigol CNC: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Yr amgylchedd naturiol yw’r lleoliad perffaith i hyrwyddo dysgu, dealltwriaeth a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n darparu amgylchedd hamddenol, hwyliog a chyffrous i'w archwilio, ac yn cynnig amgylchedd dysgu gwahanol i'r ystafell ddosbarth sy'n rhoi profiadau newydd i blant i gefnogi eu cyrhaeddiad mewn iaith a llythrennedd.

“Ceir cyfle gwirioneddol i ymgorffori dysgu iaith o fewn amgylchedd awyr agored wrth i ysgolion weithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd llawer o swyddi'r dyfodol yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, lle mae sgiliau adnabod ac arolygon planhigion ac anifeiliaid yn bwysig.

"Mae’n hanfodol bod gan ein pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yr iaith i allu trafod ein hamgylchedd naturiol, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ennill y sgiliau amgylcheddol hynny yn y Gymraeg.

“Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru fel dull allweddol o gyflwyno’r cwricwlwm. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i blant gysylltu â byd natur, cael buddion iechyd a lles sylweddol a sefydlu ymddygiadau sy’n ffafrio’r amgylchedd sy’n helpu i liniaru’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:

Ysgol Bryn Pennant

Ysgol Gwynedd

Ysgol Ven. Edward Morgan

Ysgol Penarlag

Ysgol Southdown

Ysgol Merllyn

Ysgol Abermorddu

Ysgol Westwood

Ysgol Santes Fair, Y Fflint

Ffedarasiwn yr Hafod - Safle Y Waun

Ysgol Gwynedd

Y Llan

Ysgol Brychdyn

Ysgol Ewloe Green

Ffedarasiwn y Bryniau - Safle Yr Esgob

Ysgol Y Foel, Cilcain

Ysgol Wood Memorial

Ysgol Ty Ffynnon, Shotton

Ffedarasiwn Nantlwys - Safle Nercwys

Ffedarasiwn POA - Ysgol Trelogan