Carnau cadarn yn adfer natur

Pedair o wartheg Belted Galloway

Mae arwyr y gors yn dychwelyd am ail flwyddyn i helpu i adfer cynefin gwerthfawr yn Sir Fynwy

Bydd arwyr y gors - Ringo, Penguin, Ginger ac Oak a’u ffrindiau yn dychwelyd i Beacon Hill a Chors Cleddon yn Nyffryn Gwy y gwanwyn hwn, fel rhan o brosiect tair blynedd sy’n helpu i adfer cynefinoedd gweundir a chorsydd gwerthfawr yn yr ardal.

Cyflwynwyd y gwartheg Belted Galloway neu’r ‘The Beltie Boys’ i’r ddau safle am y tro cyntaf y llynedd, i bori’r tir a helpu i adfer y cynefinoedd prin drwy agor tirwedd y gors a’r gweundir i fywyd gwyllt.

Mae angen rheolaeth ofalus ar y ddau safle er mwyn atal prysgwydd fel rhedyn, mieri a bedw rhag ymledu, a fyddai'n arwain at golli'r cynefin gwerthfawr hwn.

Mae'r gwartheg wedi dechrau creu llwybrau trwy'r gordyfiant mwyaf trwchus ar y ddau safle, gan bori'r prysgwydd bedw goresgynnol a helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng y mathau o gynefin.

Mae disgwyl iddyn nhw ddychwelyd i Beacon Hill ar 3  Mai a bydd hyd at bedair buwch Belted Galloway arall yn ymuno â nhw – Opal, Mouse, Melon a Carlos.

Yng Nghors Cleddon, bydd chwech o wartheg pedigri o'r enw 'Gwartheg Hynafol Cymru' yn cyrraedd i bori'r safle.

Mae'r gwartheg yn frid prin a bydd hyn yn ailgyflwyno llinach wreiddiol y Gwartheg Duon Cymreig, yr hynaf ym Mhrydain, unwaith eto, a hwythau wedi byw ar fryniau Cymru ers y cyfnod cyn-Rufeinig a chyn-Gristnogol.

Bydd y gwartheg yn pori'r ddau safle rhwng mi Mai  a mis-Medi cyn dychwelyd eto’r flwyddyn nesaf.

Mae’r gwaith adfer yn brosiect ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.

Meddai Rosalind Watkins, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae hwn wedi bod yn gyfle ardderchog i CNC weithio gyda’r AHNE ar brosiect hynod bwysig a chyffrous ac rwy’n falch iawn o weld y gwartheg yn dychwelyd i’r ddau safle am yr ail flwyddyn.
Mae hwn yn arf rheoli pwysig gan eu bod yn dethol pa blanhigion y byddant yn eu pori ar y rhostir ac yn pori rhywfaint o'r prysgwydd bedw ymledol, gan helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng y mathau o gynefin.
Mae maint a chyfradd colli bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, a dyna pam y mae prosiectau partneriaeth fel hyn mor bwysig.
Rwy’n edrych ymlaen at weld manteision y prosiect partneriaeth hwn i gyflwr y cynefinoedd gwerthfawr hyn.

Meddai Alex Crawley o Conservation Grazing Management:

Mae tymor pori 2024 yn edrych yn gyffrous iawn, mwy o wartheg, a hynny drwy gydol yr haf. Dylem ddechrau gweld rhai effeithiau ecolegol amlwg ar y fawnog a'r gweundir.
Yn ogystal â’r gwartheg Belted Galloway carismatig, rydym hefyd yn cyflwyno gwartheg hynafol hardd Cymru, gan helpu i ddod â’r brîd Cymreig prin iawn hwn yn ôl. Rydym yn falch iawn bod hyn yn rhan o gontract 3 blynedd gyda CNC fel y gallwn fuddsoddi yn y safle yn y tymor hir.

Meddai Andrew Blake, Rheolwr Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy:

Rydym wrth ein bodd fod cymaint o bobl leol wedi camu i’r adwy i helpu gyda’r prosiect pori cadwraethol yng Nghors Cleddon a Beacon Hill. Mae deg o wirfoddolwyr lleol wedi cael eu hyfforddi fel 'gwylwyr' i gadw llygad ar iechyd a lles y gwartheg trwy gynnal archwiliadau gweledol rheolaidd. Llwyddodd yr holl wirfoddolwyr i ennill cymhwyster LANTRA mewn archwilio da byw (sy'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin) ac erbyn hyn mae ganddyn nhw rota i gynnal yr archwiliadau dyddiol.
Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn gwneud gwaith hanfodol i gefnogi’r rhaglenni adfer pori cadwraethol hyn, lle mae gwartheg bridiau traddodiadol yn helpu i adfer cynefinoedd prin drwy agor tirweddau’r gors a’r gweundir er budd bywyd gwyllt.
Mae hon yn ymdrech ar y cyd i raddau helaeth iawn gydag Alex ac Emily Crawley a Paula Simpson o'r tîm Rheoli Pori, y busnes pori cadwraethol arbenigol yn St Briavels sydd berchen ar y gwartheg.