Chwilio am syniadau ar gyfer twf a gwerth adnoddau naturiol Cymru

Pentwr pren

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ceisio barn a syniadau ar dwf a gwerth ar gyfer y tir yn ei ofal – gan gynnwys gweithgareddau datblygu busnes, hamdden fasnachol, ynni adnewyddadwy a gwerthu a marchnata pren.

Mae CNC yn geidwad ar dros 120,000 hectar, neu 7%, o dir Cymru, gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, amddiffynfeydd rhag llifogydd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Heddiw (dydd Llun 09 Chwefror 2026) mae’r sefydliad wedi rhannu dogfen ddrafft Strategaeth Twf a Gwerth ar gyfer 2026-2031, sy’n cyflwyno gweledigaeth, dull gweithredu ac ymrwymiadau lefel uchel i waith masnachol.

Fe’i cefnogir hefyd gan Gynllun Gweithredu drafft ar Werthu a Marchnata Pren, sy’n ymrwymiad hirdymor i gyflenwi pren i’r sector melinau llifio a phrosesu pren yng Nghymru.

Y nod yw tyfu a sicrhau gwerth adnoddau i ganiatáu buddsoddi yn ôl i genhadaeth graidd Cyfoeth Naturiol Cymru fel bod natur yn gwella, cymunedau’n wydn yn wyneb newid hinsawdd, a llygredd yn cael ei leihau hyd yr eithaf, oll erbyn 2030.

Esboniodd Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol, CNC:

“Mae ein strategaeth ddrafft ar gyfer gweithgareddau masnachol yn cefnogi ein cenhadaeth ar gyfer natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Ein nod yw cyfrannu at: gynhyrchu ynni adnewyddadwy, cysylltu pobl â natur, twf gwyrdd a chynaliadwy a gwella amgylchedd ein coedwigoedd. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu.”
“Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn a chydweithrediad y rhai rydym yn gweithio gyda nhw a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn a syniadau pobl cyn i ni gyhoeddi fersiwn derfynol yn ddiweddarach eleni.”

Gofynnir i staff, partneriaid, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a chymunedau gymryd rhan.

Gallwch ddarllen y ddogfen, rhoi adborth, a/neu gofrestru ar gyfer digwyddiad (2 Mawrth 2026) drwy ymweld a ar-lein, anfon e-bost at masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm). Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw dydd Sul 08 Mawrth 2026.